RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir gan awdurdodau ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 1 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Dehongli2.

(1)

Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

ystyr “Cartref Abbeyfield” (“Abbeyfield Home”) yw sefydliad sy’n cael ei redeg gan Gymdeithas Abbeyfield gan gynnwys pob corff corfforaethol neu anghorfforaethol sydd â chyswllt â’r gymdeithas honno;

ystyr “absenoldeb mabwysiadu” (“adoption leave”) yw cyfnod o absenoldeb o’r gwaith ar absenoldeb mabwysiadu cyffredin neu ar absenoldeb mabwysiadu ychwanegol yn yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “ordinary adoption leave” neu “additional adoption leave” yn rhinwedd adran 75A neu 75B o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 19962;
ystyr “TALlA” (“AFIP”) yw taliad annibyniaeth y lluoedd arfog sy’n daladwy yn unol â chynllun ar gyfer digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn, a sefydlwyd o dan adran 1(2) o Ddeddf y Lluoedd Arfog (Pensiynau a Digolledu) 20043;

ystyr “swm cymwysadwy” (“applicable amount”) yw—

(a)

mewn perthynas â phensiynwr, y swm a gyfrifir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1 ac Atodlen 2; a

(b)

mewn perthynas â pherson nad yw’n bensiynwr, y swm a gyfrifir yn unol ag—

  1. (i)

    paragraffau 1 a 2 o Atodlen 6 ac Atodlen 7; neu

  2. (ii)

    paragraff 3 o Atodlen 6,

yn ôl fel y digwydd;

ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy’n gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod;

ystyr “cais” (“application”) yw cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod;

ystyr “swyddfa briodol yr Adran Gwaith a Phensiynau” (“appropriate DWP office”) yw swyddfa’r Adran Gwaith a Phensiynau sy’n ymdrin â chredyd pensiwn y wladwriaeth, neu swyddfa sydd fel arfer ar agor i’r cyhoedd ar gyfer cael hawliadau am gymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith neu lwfans cyflogaeth a chymorth;

ystyr “cyfnod asesu” (“assessment period”) yw’r cyfnod a benderfynir—

(a)

mewn perthynas â phensiynwyr—

  1. (i)

    mewn perthynas ag enillion enillydd hunangyflogedig, yn unol â pharagraff 14 o Atodlen 1 at y diben o gyfrifo enillion wythnosol y ceisydd; neu

  2. (ii)

    mewn perthynas ag unrhyw incwm arall, yn unol â pharagraff 11 o Atodlen 1 at y diben o gyfrifo incwm wythnosol y ceisydd;

(b)

mewn perthynas â phersonau nad ydynt yn bensiynwyr, y cyfryw gyfnod a bennir ym mharagraffau 10 i 12 o Atodlen 6 ar gyfer cyfrifo incwm;

ystyr “lwfans gweini” (“attendance allowance”) yw—

  1. (a)
    lwfans gweini o dan Ran 3 o DCBNC4;
  2. (b)

    cynnydd mewn pensiwn anabledd o dan adran 104 neu 105 o DCBNC;

  3. (c)
    taliad yn rhinwedd erthygl 14, 15, 16, 43 neu 44 o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 19835 neu unrhyw daliad cyfatebol; neu
  4. (d)

    unrhyw daliad sy’n seiliedig ar yr angen am weini, a delir fel rhan o bensiwn anabledd rhyfel;

ystyr “yr awdurdod” (“the authority”) yw awdurdod bilio y mae cynllun yn cael effaith mewn perthynas â’i ardal yn unol â rheoliad 12;

mae i “cyfradd sylfaenol” yr ystyr a roddir i “basic rate” gan Ddeddf Treth Incwm 20076;
ystyr “y Deddfau budd-dal” (“the benefit Acts”) yw DCBNC, Deddf Ceiswyr Gwaith 19957, Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 20028 a Deddf Diwygio Lles 20079;

ystyr “prydau bwyd a llety” (“board and lodging accommodation”) yw llety a ddarperir i berson, neu, os yw’r person hwnnw’n aelod o deulu, i’r person hwnnw neu i unrhyw aelod arall o’i deulu, am dâl sy’n cynnwys darparu’r llety hwnnw ac o leiaf rai prydau bwyd wedi eu coginio neu’u paratoi, a bod y prydau bwyd hynny hefyd yn cael eu coginio neu’u paratoi (gan berson ac eithrio’r person y darperir y llety iddo neu aelod o’i deulu) ac yn cael eu bwyta yn y llety hwnnw neu fangre gysylltiedig;

mae i “cartref gofal” yr ystyr a roddir i “care home” gan adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 200010 ac yn yr Alban, yr ystyr a roddir i “care home service” gan baragraff 2 o Atodlen 12 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 201011 ac yng Ngogledd Iwerddon, yr ystyr a roddir i “nursing home” gan erthygl 11 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 200312 neu’r ystyr a roddir i “residential care home” gan erthygl 10 o’r Gorchymyn hwnnw;

ystyr “Sefydliad Caxton” (“the Caxton Foundation”) yw’r ymddiriedolaeth elusennol sydd â’r enw hwnnw, a sefydlwyd ar 28 Mawrth 2011 gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er budd personau penodol sy’n dioddef o hepatitis C a phersonau eraill sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â’i darpariaethau;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan 16 oed;

mae i “budd-dal plant” yr ystyr a roddir i “child benefit” gan adran 141 o DCBNC13;
ystyr “credyd treth plant” (“child tax credit”) yw credyd treth plant o dan adran 8 o Ddeddf Credydau Treth 200214;

ystyr “perthynas agos” (“close relative”) yw rhiant, rhiant-yng-nghyfraith, mab, mab-yng-nghyfraith, merch, merch-yng-nghyfraith, llys-riant, llysfab, llysferch, brawd, chwaer neu, os yw unrhyw un o’r personau blaenorol yn un aelod o gwpl, yr aelod arall o’r cwpl hwnnw;

ystyr “taliad consesiynol” (“concessionary payment”) yw taliad a wneir o dan drefniadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol gyda chydsyniad y Trysorlys, a godir naill ai ar y Gronfa Yswiriant Gwladol neu ar Bleidlais Gwariant Adrannol y codir arni fudd-daliadau neu daliadau credyd treth o dan y Deddfau budd-dal neu Ddeddf Credydau Treth 200215;
ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol” (“contributory employment and support allowance”) yw lwfans cyfrannol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 200716;

ystyr “budd-dal treth gyngor” (“council tax benefit”) yw budd-dal treth gyngor o dan Ran 7 o DCBNC;

mae i “cwpl” (“couple”) yr ystyr a roddir gan reoliad 4;

ystyr “swyddfa ddynodedig” (“designated office”) yw swyddfa awdurdod, a ddynodwyd ganddo ar gyfer cael ceisiadau—

(a)

drwy hysbysiad ar, neu ynghyd â, ffurflen a gyflenwyd gan yr awdurdod at y diben o wneud cais; neu

(b)

drwy gyfeiriad ar, neu ynghyd â, ffurflen o’r fath, at ryw ddogfen arall sydd ar gael gan yr awdurdod ac a anfonwyd drwy ddull electronig neu fel arall pan ofynnwyd amdani, a hynny yn ddi-dâl; neu

(c)

drwy unrhyw gyfuniad o’r darpariaethau a bennir ym mharagraffau (a) a (b);

ystyr “lwfans byw i’r anabl” (“disability living allowance”) yw lwfans byw i’r anabl o dan adran 71 o DCBNC17;

mae i “annedd” yr ystyr a roddir i “dwelling” gan adran 3 o Ddeddf 1992;

mae i “enillion” (“earnings”) yr ystyr a roddir gan baragraffau 12, 14 a 15 o Atodlen 1 a pharagraff 14 neu 16 o Atodlen 6, yn ôl fel y digwydd;

ystyr “Ymddiriedolaeth Eileen” (“the Eileen Trust”) yw’r ymddiriedolaeth elusennol sydd â’r enw hwnnw, a sefydlwyd ar 29 Mawrth 1993 gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er budd personau sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â’i darpariaethau;

mae i “cyfathrebiad electronig” yr un ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 200018;
mae “enillydd cyflogedig” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “employed earner” yn adran 2(1)(a) o DCBNC19 ac mae’n cynnwys hefyd berson sy’n derbyn taliad sy’n daladwy o dan unrhyw ddeddfiad sy’n cael effaith yng Ngogledd Iwerddon ac yn cyfateb i dâl salwch statudol neu dâl mamolaeth statudol;
ystyr “y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter” (“the Employment, Skills and Enterprise Scheme”) yw cynllun o dan adran 17A (cynlluniau i gynorthwyo personau i gael cyflogaeth: cynlluniau “gweithiwch am eich budd-dal” etc.) o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 199520, a adwaenir wrth yr enw hwnnw ac a ddarparwyd yn unol â threfniadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol gyda’r bwriad o gynorthwyo hawlwyr lwfans ceisio gwaith i gael cyflogaeth, gan gynnwys hunangyflogaeth, ac yn achos unrhyw unigolyn, gall gynnwys gweithgaredd perthynol i waith (megis profiad gwaith neu chwilio am waith);
ystyr “parth cyflogaeth” (“employment zone”) yw ardal o fewn Prydain Fawr a ddynodwyd at ddibenion adran 60 o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 199921 ac ystyr “rhaglen parth cyflogaeth” (“employment zone programme”) yw rhaglen a sefydlwyd ar gyfer ardal neu ardaloedd o’r fath gyda’r bwriad o gynorthwyo hawlwyr lwfans ceisio gwaith i gael cyflogaeth gynaliadwy;

ystyr “contractwr parth cyflogaeth” (“employment zone contractor”) yw person sy’n ymgymryd â darparu cyfleusterau mewn perthynas â rhaglen parth cyflogaeth ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau;

mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys deddfiad sy’n gynwysedig mewn Deddf Senedd yr Alban neu Ddeddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu mewn offeryn a wnaed o dan Ddeddf neu Fesur o’r fath;

ystyr “gostyngiad estynedig” (“extended reduction”) yw gostyngiad o dan gynllun y mae person yn gymwys ar ei gyfer o dan Ran 5 o Atodlen 1 a Rhan 5 o Atodlen 6;

ystyr “cyfnod gostyngiad estynedig” (“extended reduction period”) yw’r cyfnod pan fo person yn cael gostyngiad estynedig yn unol â pharagraff 33 o Atodlen 1 a pharagraff 35 o Atodlen 6 neu baragraff 40 o Atodlen 6;

ystyr “gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys)” (“extended reduction (qualifying contributory benefits)”) yw gostyngiad o dan gynllun y mae person yn gymwys ar ei gyfer yn unol â pharagraff 32 o Atodlen 1 a pharagraff 39 o Atodlen 6;

mae i “teulu” (“family”) yr ystyr a roddir gan reoliad 6;

ystyr “y Gronfa” (“the Fund”) yw arian a roddir ar gael o bryd i’w gilydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er budd personau sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â darpariaethau cynllun a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 24 Ebrill 1992 neu, yn yr Alban, ar 10 Ebrill 1992;

mae “credyd gwarant” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “guarantee credit” yn adrannau 1 a 2 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 200222;
ystyr “taliad incwm gwarantedig” (“a guaranteed income payment”) yw taliad a wneir o dan erthygl 15(1)(c) neu erthygl 29(1)(a) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 201123;

ystyr “budd-dal tai” (“housing benefit”) yw budd-dal tai o dan Ran 7 o DCBNC;

mae i “lwfans ceisio gwaith ar sail incwm” a “lwfans ceisio gwaith cyd-hawliad” yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “an income-based jobseeker’s allowance” a “a joint-claim jobseeker’s allowance” gan adran 1(4) o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 199524;

ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm” (“income-related employment and support allowance”) yw lwfans ar sail incwm o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007;

mae i “ysbyty annibynnol” (“independent hospital”) yr ystyr canlynol—

(a)

yn Lloegr, ysbyty yn yr ystyr a roddir i “hospital” fel y’i diffinnir yn adran 275 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 200625, nad yw’n ysbyty gwasanaeth iechyd yn yr ystyr a roddir i “health service hospital” fel y’i diffinnir yn yr adran honno;

(b)

yng Nghymru, yr ystyr a roddir i “independent hospital” yn adran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 200026; ac

(c)

F1yn yr Alban, F2ysbyty annibynnol neu ysbyty seiciatrig preifat fel y’u diffinnir gan adran 10F(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978 3;

ystyr “y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006)” (“the Independent Living Fund (2006)”) yw’r Ymddiriedolaeth sy’n dwyn yr enw hwnnw, a sefydlwyd gan weithred ddyddiedig 10 Ebrill 2006 ac a wnaed rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ar y naill ran a Margaret Rosemary Cooper, Michael Beresford Boyall a Marie Theresa Martin ar y rhan arall;

ystyr “cerbyd ar gyfer pobl anabl neu fath arall o gerbyd” (“invalid carriage or other vehicle”) yw cerbyd a yrrir gan beiriant petrol neu bŵer trydanol, a gyflenwir ar gyfer ei ddefnyddio ar y ffordd a’i reoli gan y meddiannydd;

ystyr “Cronfa Gymorth Elusennol Bomiau Llundain” (“the London Bombings Relief Charitable Fund”) yw’r cwmni cyfyngedig drwy warant (rhif 5505072), a’r elusen gofrestredig sy’n dwyn yr enw hwnnw a sefydlwyd ar 11 Gorffennaf 2005 at y diben (ymhlith pethau eraill) o liniaru salwch, anabledd neu angen ariannol dioddefwyr yr ymosodiadau terfysgol a gyflawnwyd yn Llundain ar 7 Gorffennaf 2005 (gan gynnwys teuluoedd neu ddibynyddion y dioddefwyr);

ystyr “unig riant” (“lone parent”) yw person nad oes partner ganddo, ac sy’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc ac yn aelod o’r un aelwyd â’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw;

ystyr “Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig)” (“the Macfarlane (Special Payments) Trust”) yw’r ymddiriedolaeth sy’n dwyn yr enw hwnnw, a sefydlwyd ar 29 Ionawr 1990, yn rhannol gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er budd personau penodol sy’n dioddef o haemoffilia;

ystyr “Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig) (Rhif 2)” (“the Macfarlane (Special Payments) (No 2) Trust”) yw’r ymddiriedolaeth sy’n dwyn yr enw hwnnw, a sefydlwyd ar 3 Mai 1991, yn rhannol gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er budd personau penodol sy’n dioddef o haemoffilia a buddiolwyr eraill;

ystyr “Ymddiriedolaeth Macfarlane” (“the Macfarlane Trust”) yw’r ymddiriedolaeth elusennol a sefydlwyd yn rhannol gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i’r Gymdeithas Haemoffilia, i liniaru tlodi neu drallod ymhlith rhai sy’n dioddef o haemoffilia;

ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd” (“main phase employment and support allowance”) yw lwfans cyflogaeth a chymorth pan fo’r cyfrifiad o’r swm sy’n daladwy mewn perthynas â’r ceisydd yn cynnwys cydran o dan adran 2(1)(b) neu 4(2)(b) o Ddeddf Diwygio Lles 200728 ac eithrio yn Rhan 1 o Atodlen 3;
ystyr “absenoldeb mamolaeth” (“maternity leave”) yw cyfnod pan fo benyw yn absennol o’i gwaith oherwydd ei bod yn feichiog neu wedi rhoi genedigaeth i blentyn, a chanddi hawl, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, i ddychwelyd i’w gwaith naill ai o dan delerau ei chontract cyflogaeth neu o dan Ran 8 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 199629;

ystyr “uchafswm gostyngiad treth gyngor” (“maximum council tax reduction amount”) yw’r swm a benderfynir yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 1 a pharagraff 4 o Atodlen 6;

ystyr “aelod o gwpl” (“aelod o gwpl”) yw aelod o gwpl priod neu ddibriod;

MFET Limited” (“MFET Limited”) yw’r cwmni cyfyngedig drwy warant (rhif 7121661) sy’n dwyn yr enw hwnnw a sefydlwyd yn benodol at y diben o wneud taliadau, yn unol â threfniadau a wnaed gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, i bersonau a heintiwyd ag HIV oherwydd triniaeth gan y GIG gyda gwaed neu gynhyrchion gwaed;

ystyr “atodiad symudedd” (“mobility supplement”) yw—

(a)

mewn perthynas â phensiynwyr, atodiad y cyfeirir ato ym mharagraff 5(1)(a)(vii) o Atodlen 3;

(b)

mewn perthynas â phersonau nad ydynt yn bensiynwyr, atodiad y cyfeirir ato ym mharagraff 13 o Atodlen 9;

ystyr “symudwr” (“mover”) yw ceisydd sy’n newid yr annedd y mae’n preswylio ynddi, ac y mae’n atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas â hi, o annedd yn ardal un awdurdod i annedd yn ardal ail awdurdod;

ystyr “enillion net” (“net earnings”) yw’r cyfryw enillion fel y’u cyfrifir yn unol â pharagraff 13 o Atodlen 1 neu baragraff 15 o Atodlen 6, yn ôl fel y digwydd;

ystyr “elw net” (“net profit”) yw’r cyfryw elw fel y’i cyfrifir yn unol â pharagraff 23 o Atodlen 1 neu baragraff 24 o Atodlen 6, yn ôl fel y digwydd;

ystyr “annedd newydd” (“new dwelling”), at ddibenion y diffiniad o “ail awdurdod”, a pharagraff 35 o Atodlen 1 a pharagraffau 37 a 42 o Atodlen 6, yw’r annedd y mae’r ceisydd wedi symud iddi, neu ar fin symud iddi, a lle y bydd y ceisydd yn preswylio ynddi;

mae i “annibynnydd” (“non-dependant”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9;

ystyr “cymorth achlysurol” (“occasional assistance”) yw unrhyw daliad neu ddarpariaeth a wneir gan awdurdod lleol, Gweinidogion Cymru neu Weinidogion yr Alban at ddibenion—

(a)

ddiwallu neu gynorthwyo i ddiwallu angen byrdymor taer—

  1. (i)

    sy’n deillio o ddigwyddiad eithriadol, neu amgylchiad eithriadol, neu

  2. (ii)

    y mae angen ei ddiwallu i osgoi risg i les unigolyn, a

(b)

galluogi unigolion cymwys i sefydlu neu gynnal cartref sefydlog, ac—

  1. (i)
    mae i “awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “local authority” gan adran 270(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 197230; a
  2. (ii)

    ystyr “unigolion cymwys” (“qualifying individuals”) yw unigolion sydd wedi bod neu y gallent fel arall, heb y cymorth, fod—

    1. (aa)

      mewn carchar, ysbyty, sefydliad sy’n darparu gofal preswyl neu sefydliad arall, neu

    2. (bb)

      yn ddigartref neu rywfodd arall yn dilyn ffordd ansefydlog o fyw;

ystyr “pensiwn galwedigaethol” (“occupational pension”) yw unrhyw bensiwn neu daliad cyfnodol arall o dan gynllun pensiwn galwedigaethol, ond nid yw’n cynnwys unrhyw daliad disgresiynol allan o gronfa a sefydlwyd i liniaru caledi mewn achosion penodol;

mae i “cynllun pensiwn galwedigaethol” yr un ystyr a roddir i “occupational pension scheme” yn adran 1 o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 199331;

ystyr “dillad ac esgidiau cyffredin” (“ordinary clothing and footwear”) yw dillad neu esgidiau ar gyfer defnydd beunyddiol arferol, ond nid yw’n cynnwys gwisgoedd ysgol nac ychwaith ddillad neu esgidiau a ddefnyddir yn unig ar gyfer gweithgareddau chwaraeon;

ystyr “partner” (“partner”), mewn perthynas â pherson, yw—

(a)

pan fo’r person hwnnw’n aelod o gwpl, yr aelod arall o’r cwpl hwnnw; neu

(b)

yn ddarostyngedig i baragraff (c), pan fo’r person hwnnw mewn priodas amlbriod â dau neu ragor o aelodau aelwyd y person hwnnw, unrhyw aelod o’r fath sy’n briod â’r person hwnnw; neu

(c)

pan fo’r person hwnnw mewn priodas amlbriod a chanddo ddyfarniad o gredyd cynhwysol gyda’r parti arall i’r briodas gynharaf, sy’n parhau mewn bodolaeth, y parti arall hwnnw i’r briodas gynharaf;

ystyr “absenoldeb tadolaeth” (“paternity leave”) yw cyfnod o absenoldeb o’r gwaith gyda chaniatâd yn rhinwedd adran 80A neu 80B o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996, neu o absenoldeb tadolaeth ychwanegol yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 80AA neu 80BB o’r Ddeddf honno32;

ystyr “deiliad cronfa bensiwn” (“pension fund holder”), mewn perthynas â chynllun pensiwn personol neu gynllun pensiwn galwedigaethol, yw ymddiriedolwyr, rheolwyr neu weinyddwyr y cynllun, yn ôl fel y digwydd, y cynllun dan sylw;

mae i “oedran pensiynadwy” yr ystyr a roddir i “pensionable age” gan y rheolau ym mharagraff 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Pensiynau 199533;

mae i “pensiynwr” (“pensioner”) yr ystyr a roddir gan reoliad 3(a);

ystyr “person ar gymhorthdal incwm” (“person on income support”) yw person sy’n cael cymhorthdal incwm;

mae i “person nad yw’n bensiynwr” (“person who is not a pensioner”) yr ystyr a roddir gan reoliad 3(b);

mae i “personau a drinnir fel pe na baent ym Mhrydain Fawr” (“persons treated as not being in Great Britain”) yr ystyr a roddir gan reoliad 28;

mae i “taliad annibyniaeth bersonol” yr ystyr a roddir i “personal independence payment” gan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 201234;

ystyr “cynllun pensiwn personol” (“personal pension scheme”) yw—

(a)

cynllun pensiwn personol yn yr ystyr a roddir i “personal pension scheme” fel y’i diffinnir gan adran 1 o Ddeddf Cynlluniau Pensiynau 199335;

(b)

contract blwydd-dal neu gynllun ymddiriedolaeth a gymeradwywyd o dan adran 620 neu 621 o Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 198836 neu gontract a amnewidiwyd yn yr ystyr a roddir i “the substituted contract” gan adran 622(3) o’r Ddeddf honno, ac a drinnir fel pe bai wedi dod yn gynllun pensiwn cofrestredig yn rhinwedd paragraff 1 o Atodlen 36 i Ddeddf Cyllid 200437;

(c)

cynllun pensiwn personol a gymeradwywyd o dan Bennod 4 o Ran 14 o Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988 ac a drinnir fel pe bai wedi dod yn gynllun pensiwn cofrestredig yn rhinwedd paragraff 1 o Atodlen 36 i Ddeddf Cyllid 2004;

ystyr “polisi yswiriant bywyd” (“policy of life insurance”) yw unrhyw offeryn sy’n sicrhau y telir arian ar achlysur marwolaeth (ac eithrio marwolaeth drwy ddamwain yn unig) neu ar achlysur unrhyw hapddigwyddiad sy’n dibynnu ar oes ddynol, neu unrhyw offeryn sy’n tystio i gontract sy’n amodol ar dalu premiymau am dymor sy’n dibynnu ar oes ddynol;

ystyr “priodas amlbriod” (“polygamous marriage”) yw unrhyw briodas y mae rheoliad 5 yn gymwys iddi;

mae “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yn cynnwys unrhyw berson y mae ei swyddogaethau yn swyddogaethau cyhoeddus eu natur;

ystyr “oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth” (“qualifying age for state pension credit”) yw (yn unol ag adran 1(2)(b) a (6) o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002)38

(a)

yn achos benyw, oedran pensiynadwy; neu

(b)

yn achos gwryw, yr oedran sy’n oedran pensiynadwy yn achos benyw a anwyd ar yr un diwrnod â’r gwryw;

ystyr “budd-dal cyfrannol cymwys” (“qualifying contributory benefit”) yw—

(a)

lwfans anabledd difrifol;

(b)

budd-dal analluogrwydd;

(c)

lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol;

ystyr “budd-dal cymwys ar sail incwm” (“qualifying income-related benefit”) yw—

(a)

cymhorthdal incwm;

(b)

lwfans ceisio gwaith ar sail incwm;

(c)

lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm;

ystyr “person cymwys” (“qualifying person”) yw person y gwnaed taliad mewn perthynas ag ef o’r Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton neu Gronfa Gymorth Elusennol Bomiau Llundain;

ystyr “wythnos ostyngiad” (“reduction week”) yw cyfnod o saith niwrnod olynol, sy’n dechrau gyda dydd Llun ac yn diweddu gyda dydd Sul;

ystyr “perthynas” (“relative”) yw perthynas agos, taid, nain, ŵyr, wyres, ewythr, modryb, nai neu nith;

ystyr “wythnos berthnasol” (“relevant week”), mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod penodol, yw’r wythnos y mae’r diwrnod dan sylw yn digwydd ynddi;

mae i “gwaith am dâl” (“remunerative work”) yr ystyr a roddir gan reoliad 10;

ystyr “rhent” (“rent”) yw’r “eligible rent” y cyfeirir ato yn F3rheoliad 12B o Reoliadau Budd-dal Tai (Personau a gyrhaeddodd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 200639, llai unrhyw ddidyniadau mewn perthynas ag annibynyddion sy’n ddyladwy o dan baragraff 3 o Atodlen 1 a pharagraff 5 o Atodlen 6 (didyniadau annibynyddion) o dan gynllun awdurdod;

mae i “preswylydd” yr ystyr a roddir i “resident” gan Ran 1 o Ddeddf 1992;

mae “credyd cynilion” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “savings credit” gan adrannau 1 a 3 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 200240;

ystyr “cynllun” (“scheme”) yw cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor fel a ragnodir yn Rhannau 2 i 5 o’r Rheoliadau hyn;

ystyr “ail awdurdod” (“second authority”) yw’r awdurdod y mae symudwr yn atebol i wneud taliadau iddo ar gyfer annedd newydd;

mae “enillydd hunangyflogedig” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “self-employed earner” gan adran 2(1)(b) o’r DCBNC;

ystyr “llwybr hunangyflogaeth” (“self-employment route”) yw cymorth i geisio cyflogaeth fel enillydd hunangyflogedig tra’n cymryd rhan mewn—

(a)

rhaglen parth cyflogaeth;

(b)

rhaglen a ddarperir gan neu o dan drefniadau a wnaed yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 197341 (swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol) neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 199042 (swyddogaethau mewn perthynas â hyfforddiant ar gyfer cyflogaeth, etc); neu

(c)

y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter;

ystyr “grŵp defnyddwyr gwasanaeth” (“service user group”) yw grŵp o unigolion yr ymgynghorir ag ef gan neu ar ran—

(a)

Bwrdd Iechyd, Bwrdd Iechyd Arbennig neu’r Asiantaeth Gwasanaethau Cyffredin ar gyfer Iechyd yr Alban, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 2B o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 197843,

(b)

awdurdod landlord44, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 105 o Ddeddf Tai 198545,

(c)

awdurdod cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 49A o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 199546,

(d)

awdurdod cyhoeddus, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (dyletswydd gyffredinol awdurdod cyhoeddus)47,

(e)

awdurdod gwerth gorau, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 199948,

(f)

awdurdod gwella Cymreig, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 5 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 200949,

(g)

landlord awdurdod lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 53 o Ddeddf Tai (Yr Alban) 200150,

(h)

corff Cymreig perthnasol neu gorff Seisnig perthnasol, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 242 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 200651,

(i)

Bwrdd Iechyd Lleol, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 183 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 200652,

(j)

y Comisiwn Ansawdd Gofal, wrth arfer swyddogaeth o dan adrannau 4 neu 5 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 200853,

(k)

y rheoleiddiwr neu ddarparwr cofrestredig preifat tai cymdeithasol, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adrannau 98, 193 neu 196 o Ddeddf Tai ac Adfywio 200854, neu

(l)

awdurdod cyhoeddus neu awdurdod lleol ym Mhrydain Fawr, o ganlyniad i swyddogaeth a roddwyd o dan unrhyw ddeddfiad arall,

at y diben o fonitro a chynghori ar bolisi’r corff neu’r awdurdod hwnnw sy’n effeithio, neu a allai effeithio, ar bersonau yn y grŵp, neu at y diben o fonitro neu gynghori ar wasanaethau a ddarperir gan y corff neu’r awdurdod hwnnw ac a ddefnyddir (neu y mae’n bosibl y’u defnyddir) gan y personau hynny;

ystyr “ceisydd sengl” (“single applicant”) yw ceisydd nad oes ganddo bartner ac nad yw’n unig riant;

ystyr “Cronfa Skipton” (“the Skipton Fund”) yw’r cynllun taliadau ex gratia a weinyddir gan Skipton Fund Limited, a gorfforwyd ar 25 Mawrth 2004, er budd personau penodol sy’n dioddef o hepatitis C a phersonau eraill sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â darpariaethau’r cynllun;

ystyr “dyfarniad chwaraeon” (“sports award”) yw dyfarniad a wnaed gan un o’r Cynghorau Chwaraeon a enwir yn adran 23(2) o Ddeddf y Loteri Genedlaethol etc 1993 allan o symiau a ddyrannwyd iddo i’w dosbarthu o dan yr adran honno55;
ystyr “DCBNC” (“the SSCBA”) yw Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 199256;
mae i “credyd pensiwn y wladwriaeth” yr ystyr a roddir i “state pension credit” o dan Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 200257;

mae i “myfyriwr” (“student”) yr ystyr a ragnodir ym mharagraff 1 o Atodlen 11;

ystyr “lwfans cynhaliaeth” (“subsistence allowance”) yw lwfans y mae contractwr parth cyflogaeth wedi cytuno i’w dalu i berson sy’n cymryd rhan mewn rhaglen parth cyflogaeth;

ystyr “blwyddyn dreth” (“tax year”) yw cyfnod sy’n cychwyn gyda 6 Ebrill mewn un flwyddyn ac yn diweddu gyda 5 Ebrill yn y flwyddyn nesaf;

ystyr “lwfans hyfforddi” (“training allowance”) yw lwfans (boed ar ffurf grantiau cyfnodol neu fel arall) sy’n daladwy—

(a)

allan o arian cyhoeddus gan adran o’r Llywodraeth neu gan neu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, Datblygu Sgiliau yr Alban, Menter yr Alban neu Fenter yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd, Prif Weithredwr Ariannu Sgiliau neu Weinidogion Cymru;

(b)

i berson am gynhaliaeth y person hwnnw neu mewn perthynas ag aelod o deulu’r person hwnnw; ac

(c)

am y cyfnod, neu ran o’r cyfnod, pan fo’r person hwnnw’n dilyn cwrs o hyfforddiant neu gyfarwyddyd a ddarperir gan yr adran honno, neu’n unol â threfniadau a wnaed gyda’r adran honno, neu a gymeradwywyd ganddi mewn perthynas â’r person hwnnw, neu a ddarparwyd neu a gymeradwywyd felly gan neu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, Datblygu Sgiliau yr Alban, Menter yr Alban neu Fenter yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd neu Weinidogion Cymru,

ond nid yw’n cynnwys lwfans a delir gan unrhyw adran y Llywodraeth i, neu mewn perthynas ag, unrhyw berson oherwydd bod y person hwnnw’n dilyn cwrs addysg amser llawn, ac eithrio o dan drefniadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 197358, neu’n dilyn hyfforddiant athrawon;

ystyr “yr Ymddiriedolaethau” (“the Trusts”) yw Ymddiriedolaeth Macfarlane, Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig) ac Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig) (Rhif 2);

mae i “credyd cynhwysol” yr ystyr a roddir i “universal credit” gan adran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 201259;

ystyr “sefydliad gwirfoddol” (“voluntary organisation”) yw corff, ac eithrio awdurdod cyhoeddus neu awdurdod lleol, nas cyflawnir ei weithgareddau er mwyn gwneud elw;

ystyr “pensiwn anabledd rhyfel” (“war disablement pension”) yw unrhyw dâl neu bensiwn neu lwfans ymddeoliad sy’n daladwy mewn perthynas ag anabledd o dan offeryn a bennir yn adran 639(2) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 200360;

ystyr “pensiwn rhyfel” (“war pension”) yw pensiwn anabledd rhyfel, pensiwn rhyfel gwraig weddw neu bensiwn rhyfel gŵr gweddw;

ystyr “pensiwn rhyfel gwraig weddw” (“war widow’s pension”) yw unrhyw bensiwn neu lwfans sy’n daladwy i fenyw fel gweddw o dan offeryn a bennir yn adran 639(2) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003, mewn perthynas â marwolaeth neu anabledd unrhyw berson;

ystyr “pensiwn rhyfel gŵr gweddw” (“war widower’s pension”) yw unrhyw bensiwn neu lwfans sy’n daladwy i ddyn fel gweddw neu i bartner sifil sy’n goroesi o dan offeryn a bennir yn adran 639(2) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 mewn perthynas â marwolaeth neu anabledd unrhyw berson;

ystyr “taliadau dŵr” (“water charges”) yw—

(a)

o ran Cymru a Lloegr, unrhyw daliadau dŵr a charthffosiaeth o dan Bennod 1 o Ran 5 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 199161,

(b)

o ran yr Alban, unrhyw daliadau dŵr a charthffosiaeth a sefydlwyd gan Scottish Water o dan gynllun taliadau a wnaed o dan adran 29A o Ddeddf y Diwydiant Dŵr (Yr Alban) 200262,

i’r graddau y mae a wnelo’r cyfryw daliadau â’r annedd a feddiennir gan berson fel ei gartref;

mae i “credyd treth gwaith” yr ystyr a roddir i “working tax credit” o dan adran 10 o Ddeddf Credydau Treth 200263;
ystyr “person ifanc” (“young person”) yw person sy’n dod o fewn y diffiniad o “qualifying young person” yn adran 142 o DCBNC64.

(2)

Yn y Rheoliadau hyn, pan fo swm i gael ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf, rhaid diystyru ffracsiwn o geiniog os yw’n llai na hanner ceiniog, ac fel arall rhaid ei drin fel pe bai’n geiniog gyfan.

(3)

At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person ar lwfans ceisio gwaith ar sail incwm ar unrhyw ddiwrnod y mae lwfans ceisio gwaith ar sail incwm yn daladwy mewn perthynas ag ef i’r person hwnnw, ac ar unrhyw ddiwrnod—

(a)

y mae’r person hwnnw’n bodloni’r amodau hawlogaeth am lwfans ceisio gwaith ar sail incwm mewn perthynas ag ef, ond na thelir y lwfans oherwydd gostyngiad yn unol ag adran 19 neu 19A neu reoliadau a wnaed o dan adran 17A neu 19B o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 199565 (amgylchiadau pan nad yw lwfans ceisio gwaith yn daladwy);

(b)

sy’n ddiwrnod aros yn yr ystyr o “waiting day” at ddibenion paragraff 4 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno ac sy’n digwydd yn union cyn diwrnod y mae lwfans ceisio gwaith ar sail incwm yn daladwy mewn perthynas ag ef i’r person hwnnw, neu y byddai’n daladwy i’r person hwnnw oni bai am adran 19 neu 19A neu reoliadau a wnaed o dan adran 17A neu 19B o’r Ddeddf honno; neu

(c)

y byddai lwfans ceisio gwaith ar sail incwm yn daladwy mewn perthynas ag ef oni bai am gyfyngiad a osodwyd yn unol ag adran 6B, 7, 8 neu 9 o Ddeddf Twyll Nawdd Cymdeithasol 200166 (darpariaethau colli budd-dal).

(4)

At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person ar lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm ar unrhyw ddiwrnod y mae lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm yn daladwy mewn perthynas ag ef i’r person hwnnw, ac ar unrhyw ddiwrnod—

(a)

y mae’r person hwnnw’n bodloni’r amodau hawlogaeth am lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm mewn perthynas ag ef, ond na thelir y lwfans, yn unol ag adran 18 o Ddeddf Diwygio Lles 200767 (anghymhwyso); neu

(b)

sy’n ddiwrnod aros yn yr ystyr o “waiting day” at ddibenion paragraff 2 o Atodlen 2 (lwfans cyflogaeth a chymorth: darpariaethau atodol) i’r Ddeddf honno, ac sy’n digwydd yn union cyn diwrnod y mae lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm yn daladwy mewn perthynas ag ef i’r person hwnnw, neu y byddai’n daladwy i’r person hwnnw oni bai am adran 18 o’r Ddeddf honno.

(5)

At ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid peidio ag ystyried bod dau berson wedi ymddieithrio onid yw’r ymddieithriad yn gyfystyr â thoriad o’r berthynas rhyngddynt.

(6)

Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at unrhyw berson sy’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth yn cynnwys person a fyddai’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth oni bai am reoliad 13 o Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 200268 (symiau bach o gredyd pensiwn y wladwriaeth).

Ystyr “pensiynwr” a “person nad yw’n bensiynwr”3.

Yn y Rheoliadau hyn, mae person—

(a)

yn “pensiynwr” (“pensioner”)—

(i)

os yw’r person hwnnw wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth; a

(ii)

os nad yw’r person hwnnw, ac, os oes gan y person hwnnw bartner, os nad yw partner y person hwnnw—

(aa)

yn berson ar gymhorthdal incwm, ar lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu ar lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, neu

(bb)

yn berson sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol; a

(b)

yn “person nad yw’n bensiynwr” (“person who is not a pensioner”)—

(i)

os nad yw’r person hwnnw wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth; neu

(ii)

os yw’r person hwnnw wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth, a’r person hwnnw, neu, os oes gan y person hwnnw bartner, partner y person hwnnw—

(aa)

yn berson ar gymhorthdal incwm, ar lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu ar lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, neu

(bb)

yn berson sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol.

Annotations:
Commencement Information

I3Rhl. 3 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Ystyr “cwpl”4.

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cwpl” (“couple”) yw—

(a)

dau o bobl sydd naill ai’n briod â’i gilydd, neu’n bartneriaid sifil i’w gilydd, ac sy’n aelodau o’r un aelwyd;

(b)

dau o bobl sy’n byw gyda’i gilydd fel pe baent yn gwpl priod.

Annotations:
Commencement Information

I4Rhl. 4 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Priodasau amlbriod5.

(1)

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn unrhyw achos—

(a)

pan fo person yn ŵr neu’n wraig yn rhinwedd priodas yr ymunwyd ynddi o dan gyfraith sy’n caniatáu amlbriodas; a

(b)

pan fo gan y naill barti i’r briodas neu’r llall, am y tro, unrhyw briod yn ychwanegol at y parti arall.

(2)

At ddibenion rheoliad 4, rhaid peidio ag ystyried bod y naill barti i’r briodas na’r llall yn aelod o gwpl.

Annotations:
Commencement Information

I5Rhl. 5 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Ystyr “teulu”6.

(1)

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “teulu” (“family”) yw—

(a)

cwpl;

(b)

cwpl ynghyd ag aelod o’r un aelwyd, y mae un aelod o’r cwpl neu’r ddau yn gyfrifol amdano ac sy’n blentyn neu’n berson ifanc; neu

(c)

person nad yw’n aelod o gwpl ynghyd ag aelod o’r un aelwyd, y mae’r person hwnnw yn gyfrifol amdano ac sy’n blentyn neu’n berson ifanc.

(2)

Mae’r cyfeiriadau at blentyn neu berson ifanc ym mharagraff (1)(b) ac (c) yn cynnwys plentyn neu berson ifanc y mae adran 145A o DCBNC69 yn gymwys iddo at ddibenion hawlogaeth am fudd-dal plant, ond yn unig am y cyfnod a ragnodir o dan adran 145A(1).

(3)

Nid yw’r cyfeiriadau at berson ifanc ym mharagraff (1)(b) ac (c) yn cynnwys person ifanc sydd—

(a)

ar gymhorthdal incwm, ar lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu ar lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol; neu

(b)

person y mae adran 6 (eithrio rhag cael budd-daliadau) o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 200070 yn gymwys iddo.
Annotations:
Commencement Information

I6Rhl. 6 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Amgylchiadau pan fo person i gael ei drin fel un sy’n gyfrifol neu ddim yn gyfrifol am berson arall7.

(1)

Rhaid trin person fel un sy’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc sydd fel arfer yn byw gyda’r person hwnnw, gan gynnwys plentyn neu berson ifanc y mae rheoliad 6(2) yn gymwys iddo.

(2)

Os yw plentyn neu berson ifanc yn treulio cyfnodau cyfartal o amser ar wahanol aelwydydd, neu os cwestiynir ar ba aelwyd y mae’r plentyn neu’r person ifanc yn byw, rhaid trin y plentyn neu berson ifanc at ddibenion paragraff (1) fel pe bai’n byw fel arfer gydag—

(a)

y person sy’n cael budd-dal plant mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw, neu

(b)

os nad oes person o’r fath—

(i)

os gwnaed un hawliad yn unig am fudd-dal plant mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw, y person a wnaeth yr hawliad hwnnw, neu

(ii)

mewn unrhyw achos arall, y person sy’n bennaf cyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc hwnnw.

(3)

At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae plentyn neu berson ifanc yn gyfrifoldeb i un person yn unig yn ystod unrhyw wythnos ostyngiad, a rhaid trin unrhyw berson, ac eithrio’r person a drinnir fel un sy’n gyfrifol am y plentyn neu berson ifanc o dan y rheoliad hwn, fel un nad yw’n gyfrifol felly.

Annotations:
Commencement Information

I7Rhl. 7 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Aelwydydd8.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid trin ceisydd ac unrhyw bartner ac, os trinnir y ceisydd neu bartner y ceisydd (yn rhinwedd rheoliad 7) fel un sy’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc, y plentyn neu berson ifanc hwnnw ac unrhyw blentyn y plentyn neu’r person ifanc hwnnw, fel aelodau o’r un aelwyd hyd yn oed os oes unrhyw rai ohonynt yn absennol dros dro o’r aelwyd honno.

(2)

Rhaid peidio â thrin plentyn neu berson ifanc fel aelod o aelwyd y ceisydd os yw’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw—

(a)

wedi ei leoli gyda’r ceisydd neu bartner y ceisydd gan awdurdod lleol o dan adran 22C neu 23(2)(a) o Ddeddf Plant 198971 neu gan sefydliad gwirfoddol o dan adran 59(1)(a) o’r Ddeddf honno, neu, yn yr Alban, wedi ei F4neu ei leoli gyda’r ceisydd neu bartner y ceisydd o dan ddeddfiad perthnasol; neu

(b)

wedi ei leoli, neu yn yr Alban, wedi ei letya, gyda’r ceisydd neu bartner y ceisydd cyn ei fabwysiadu; neu

(c)

wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn unol â Deddf Mabwysiadu a Phlant 200272 neu Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Yr Alban) 200973, neu Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 198774.

(3)

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), nid yw paragraff (1) yn gymwys i blentyn neu berson ifanc nad yw’n byw gyda’r ceisydd ac—

(a)

sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, neu, yn yr Alban, sydd yng ngofal awdurdod lleol, o dan ddeddfiad perthnasol; neu

(b)

sydd wedi ei leoli, neu yn yr Alban, wedi ei letya, gyda pherson ac eithrio’r ceisydd, cyn ei fabwysiadu; neu

(c)

wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu yn unol â Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 neu Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Yr Alban) 2009, neu Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 1987.

(4)

Rhaid i awdurdod drin plentyn neu berson ifanc y mae paragraff (3)(a) yn gymwys iddo fel aelod o aelwyd y ceisydd mewn unrhyw wythnos ostyngiad—

(a)

os yw’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw yn byw gyda’r ceisydd am ran neu’r cyfan o’r wythnos ostyngiad honno; a

(b)

os yw’r awdurdod o’r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny, gan ystyried natur ac amlder ymweliadau’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw.

(5)

Yn y paragraff hwn, ystyr “deddfiad perthnasol” (“relevant enactment”) yw—

(a)

Deddf y Fyddin 195575;

(b)

Deddf y Llu Awyr 195576;

(c)

Deddf Disgyblaeth y Llynges 195777;

(d)

Deddf Achosion Priodasol (Plant)195878;

(e)

Deddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 196879;

(f)

Deddf Diwygio Cyfraith Teulu 196980;

(g)

Deddf Plant a Phobl Ifanc 196981;

(h)

Deddf Achosion Priodasol 197382;

(i)

Deddf Plant 197583;

(j)

Deddf Achosion Domestig a Llysoedd Ynadon 197884;

(k)

Deddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 200785;

(l)

Deddf Cyfraith Teulu 198686;

(m)

Deddf Plant 198987;

(n)

Deddf Plant (Yr Alban) 199588;

(o)

Deddf y Lluoedd Arfog 200689; F5...

(p)

Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 201290.

Annibynyddion9.

(1)

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “annibynnydd” (“non-dependant”) yw unrhyw berson, ac eithrio rhywun y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, sydd fel arfer yn preswylio gyda cheisydd neu y mae ceisydd fel arfer yn preswylio gydag ef.

(2)

Mae’r paragraff hwn yn gymwys i—

(a)

unrhyw aelod o deulu’r ceisydd;

(b)

os yw’r ceisydd mewn priodas amlbriod unrhyw bartner i’r ceisydd ac unrhyw blentyn neu berson ifanc sy’n aelod o aelwyd y ceisydd ac y mae’r ceisydd neu un o bartneriaid y ceisydd yn gyfrifol amdano;

(c)

plentyn neu berson ifanc sy’n byw gyda’r ceisydd ond nad yw’n aelod o aelwyd y ceisydd yn rhinwedd rheoliad 8 (aelwydydd);

(d)

yn ddarostyngedig i baragraff (3), unrhyw berson sydd, ynghyd â’r ceisydd, yn atebol ar y cyd ac yn unigol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd ar gyfer unrhyw ddiwrnod o dan adrannau 6 neu 7 o Ddeddf 199291 (personau sy’n atebol i dalu treth gyngor);

(e)

yn ddarostyngedig i baragraff (3), unrhyw berson sy’n atebol i wneud taliadau ar sail fasnachol i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd mewn perthynas â meddiannu’r annedd;

(f)

person sy’n byw gyda’r ceisydd er mwyn gofalu am y ceisydd neu bartner i’r ceisydd, ac a gymerwyd ymlaen gan sefydliad elusennol neu wirfoddol sy’n codi ffi ar y ceisydd neu bartner y ceisydd am y gwasanaethau a ddarperir gan y person hwnnw.

(3)

Ac eithrio personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a) i (c) ac (f), mae person y mae unrhyw un o’r is-baragraffau canlynol yn gymwys iddo yn annibynnydd—

(a)

person (P) sy’n preswylio gyda’r person (O) y mae P yn atebol i wneud taliadau iddo mewn perthynas â’r annedd, pan fo naill ai—

(i)

O yn berthynas agos neu’n bartner i P; neu

(ii)

y denantiaeth neu’r cytundeb arall sydd rhyngddynt ar sail ac eithrio sail fasnachol;

(b)

person y mae’n ymddangos i’r awdurdod fod ei atebolrwydd i wneud taliadau mewn perthynas â’r annedd wedi ei greu er mwyn manteisio ar gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, ac eithrio rhywun a oedd, am unrhyw gyfnod o fewn yr wyth wythnos cyn creu’n cytundeb a oedd yn achosi’r atebolrwydd i wneud y cyfryw daliadau, yn atebol rywfodd arall i wneud taliadau o rent mewn perthynas â’r un annedd;

(c)

person sy’n dod yn atebol, ar y cyd â’r ceisydd a hefyd yn unigol, am dreth gyngor mewn perthynas â’r annedd ac a oedd, am unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o wyth wythnos cyn iddo ddod yn atebol felly, yn annibynnydd o un neu ragor o’r preswylwyr eraill yn yr annedd honno sy’n atebol felly am y dreth, ac eithrio pan nad yw’r newid sy’n achosi’r atebolrwydd newydd wedi ei wneud er mwyn manteisio ar gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor.

Annotations:
Commencement Information

I9Rhl. 9 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Gwaith am dâl10.

(1)

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, rhaid trin person fel un sy’n ymgymryd â gwaith am dâl at ddibenion y Rheoliadau hyn os yw’r person hwnnw’n ymgymryd â gwaith y telir amdano, neu y disgwylir tâl amdano, am o leiaf 16 awr yr wythnos, neu 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd os yw oriau gwaith y person hwnnw’n amrywio.

(2)

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), wrth benderfynu nifer yr oriau y mae person yn ymgymryd â gwaith pan fo’i oriau gwaith yn amrywio, rhaid rhoi sylw i nifer cyfartalog yr oriau a weithir dros gyfnodau fel a ganlyn—

(a)

os oes cylch gwaith adnabyddadwy, dros gyfnod un cylch cyflawn (ac os oes cyfnodau mewn cylch pan nad yw’r person yn ymgymryd â gwaith, dylid cynnwys y cyfnodau hynny, ond diystyru unrhyw absenoldebau eraill);

(b)

mewn unrhyw achos arall, dros y cyfnod o 5 wythnos yn union cyn dyddiad y cais, neu pa bynnag gyfnod arall a allai, yn yr achos penodol dan sylw, alluogi canfod oriau gwaith wythnosol cyfartalog y person yn fwy cywir.

(3)

At ddibenion paragraff (2)(a), os yw cylch adnabyddadwy gwaith person mewn ysgol, sefydliad addysgol arall neu fan cyflogaeth arall yn un flwyddyn ac yn cynnwys cyfnodau o wyliau ysgol neu wyliau cyffelyb pan nad yw’r person hwnnw’n gweithio, rhaid diystyru’r cyfnodau hynny ac unrhyw gyfnodau eraill, nad ydynt yn ffurfio rhan o wyliau o’r fath pan nad yw’n ofynnol bod y person hwnnw’n gweithio, wrth ganfod yr oriau cyfartalog pan fo’r person hwnnw’n ymgymryd â gwaith.

(4)

Os nad oes cylch adnabyddadwy wedi ei ganfod mewn perthynas â’r gwaith a wneir gan berson, rhaid rhoi sylw i nifer yr oriau, neu, os yw’r oriau hynny yn amrywio, nifer cyfartalog yr oriau, y disgwylir i’r person hwnnw eu gweithio mewn wythnos.

(5)

Rhaid trin person fel pe bai’n ymgymryd â gwaith am dâl yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’r person hwnnw’n absennol o waith y cyfeirir ato ym mharagraff (1), os yw’n absennol naill ai heb reswm da neu oherwydd gŵyl gydnabyddedig neu arferol neu ŵyl arall.

(6)

Rhaid trin person sydd ar gymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm am fwy na 3 diwrnod mewn unrhyw wythnos ostyngiad fel pe na bai mewn gwaith am dâl am yr wythnos honno.

(7)

Rhaid peidio â thrin person fel pe bai’n ymgymryd â gwaith am dâl ar unrhyw ddiwrnod pan fo’r person hwnnw ar absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu, neu’n absennol o’r gwaith oherwydd ei fod yn sâl.

(8)

Rhaid peidio â thrin person fel pe bai’n ymgymryd â gwaith am dâl ar unrhyw ddiwrnod pan fo’r person hwnnw’n ymgymryd â gweithgaredd—

(a)

y mae gwobr chwaraeon wedi ei dyfarnu, neu i gael ei dyfarnu, mewn perthynas ag ef i’r person hwnnw; a

(b)

na wnaed, ac ni ddisgwylir y gwneir, unrhyw daliad arall mewn perthynas ag ef i’r person hwnnw.

Annotations:
Commencement Information

I10Rhl. 10 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2Cynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor

Cynlluniau11.

Mae awdurdod yng Nghymru yn gorff penodedig at ddibenion adran 13A(4)(a) o Ddeddf 1992.

Annotations:
Commencement Information

I11Rhl. 11 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Dyletswydd ar awdurdodau i wneud cynlluniau ac arfer swyddogaethau12.

(1)

Rhaid i bob awdurdod yng Nghymru wneud cynllun a fydd yn pennu’r gostyngiadau a gymhwysir i’r symiau o dreth gyngor a fydd yn daladwy gan bersonau y mae’r cynllun yn gymwys iddynt mewn perthynas ag anheddau a leolir yn ardal yr awdurdod.

(2)

Ni chaiff y swyddogaeth o wneud cynllun, fel sy’n ofynnol gan y Rheoliadau hyn fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod o dan drefniadau gweithredol.

(3)

Nid yw adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 197292 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni’r swyddogaeth a grybwyllir ym mharagraff (1).

(4)

Yn y rheoliad hwn, mae i’r cyfeiriadau at “gweithrediaeth” a “trefniadau gweithredol” yr un ystyron a roddir, yn eu trefn i “executive” ac “executive arrangements” gan Ran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 200093 neu offeryn a wnaed o dan y Rhan honno o’r Ddeddf honno.
Annotations:
Commencement Information

I12Rhl. 12 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Blwyddyn ariannol gyntaf y cynlluniau13.

Rhaid i bob awdurdod yng Nghymru wneud cynllun erbyn 31 Ionawr 2014 fan bellaf, a rhaid i’r flwyddyn ariannol sy’n cychwyn ar 1 Ebrill 2014 fod yn flwyddyn ariannol gyntaf y bydd y cynllun hwnnw’n ymwneud â hi.

Annotations:
Commencement Information

I13Rhl. 13 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Gofynion cynlluniau o ran dosbarthiadau o bersonau14.

Rhaid i gynllun—

(a)

datgan pa ddosbarthiadau o bersonau sydd â hawl i gael gostyngiad;

(b)

cynnwys y dosbarthiadau hynny o bersonau a ragnodir yn rheoliadau 22 i 25;

(c)

peidio â chynnwys y dosbarthiadau hynny o bersonau a ragnodir yn rheoliadau 28 i 31.

Annotations:
Commencement Information

I14Rhl. 14 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Gofynion cynlluniau o ran gostyngiadau15.

(1)

Rhaid i gynllun bennu’r gostyngiad y bydd hawl gan bersonau ym mhob dosbarth i’w gael.

(2)

Bydd hawl o dan gynllun, gan y dosbarthiadau o bersonau a ragnodir yn rheoliadau 22 a 23, i’r gostyngiadau a ragnodir yn Rhan 3 o Atodlen 1 (pensiynwyr).

(3)

Bydd hawl o dan gynllun, gan y dosbarthiadau o bersonau a ragnodir yn rheoliadau 24 a 25, i’r gostyngiadau a ragnodir yn Rhan 3 o Atodlen 6 (personau nad ydynt yn bensiynwyr).

Annotations:
Commencement Information

I15Rhl. 15 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Gofynion gweithdrefnol cynlluniau16.

Rhaid i gynllun ddatgan—

(a)

y weithdrefn y caiff person wneud cais am ostyngiad o dan gynllun yn unol â hi;

(b)

y weithdrefn y caiff person apelio yn unol â hi, yn erbyn penderfyniad awdurdod mewn perthynas ag—

(i)

hawl person i gael gostyngiad o dan gynllun; neu

(ii)

swm unrhyw ostyngiad y mae hawl gan y person i’w gael.

(c)

y weithdrefn y caiff person wneud cais i awdurdod yn unol â hi am ostyngiad o dan adran 13A(1)(c) o Ddeddf 1992.

Annotations:
Commencement Information

I16Rhl. 16 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Paratoi cynllun17.

(1)

Cyn gwneud cynllun rhaid i’r awdurdod—

(a)

cyhoeddi cynllun drafft yn y cyfryw ffurf yr ystyria’n briodol, a

(b)

ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill yr ystyria’n debygol bod ganddynt ddiddordeb yng ngweithrediad ei gynllun.

(2)

Ar ôl gwneud cynllun, rhaid i’r awdurdod gyhoeddi’r cynllun hwnnw yn y cyfryw ffurf yr ystyria’n briodol.

Annotations:
Commencement Information

I17Rhl. 17 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Diwygio ac amnewid cynlluniau18.

(1)

Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i awdurdod ystyried a ddylai ddiwygio ei gynllun neu ei amnewid gan gynllun arall.

(2)

Rhaid i awdurdod wneud unrhyw ddiwygiad yn ei gynllun, neu unrhyw gynllun a amnewidir, ddim hwyrach na 31 Ionawr yn y flwyddyn ariannol sy’n rhagflaenu’r flwyddyn ariannol pan fo’r diwygiad neu’r cynllun a amnewidir i gael effaith.

(3)

Os bydd unrhyw ddiwygiad mewn cynllun, neu unrhyw gynllun a amnewidir, yn cael yr effaith o leihau neu ddiddymu gostyngiad y mae hawl gan unrhyw ddosbarth o bersonau i’w gael, rhaid i’r diwygiad neu’r cynllun a amnewidir gynnwys pa bynnag ddarpariaeth drosiannol a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod mewn perthynas â’r diwygiad neu’r diddymiad hwnnw.

(4)

Mae rheoliad 17 yn gymwys i awdurdod pan fo’n diwygio cynllun fel y mae’n gymwys i awdurdod pan fo’n gwneud cynllun.

(5)

Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at gynllun yn cynnwys cynllun a amnewidir.

Annotations:
Commencement Information

I18Rhl. 18 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru19.

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i awdurdod yng Nghymru sy’n ei gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod yn cyflenwi iddynt ba bynnag wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad ac y gofynnir amdani ganddynt hwy at y diben o arfer, neu benderfynu a ddylid arfer, unrhyw swyddogaeth mewn perthynas â chynlluniau.

(2)

Rhaid i’r awdurdod gyflenwi’r wybodaeth y gofynnir amdani os yw’r wybodaeth yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth, a rhaid iddo wneud hynny yn y cyfryw ffurf a modd ac yn y cyfryw amser a bennir yn yr hysbysiad.

(3)

Os yw awdurdod yn methu â chydymffurfio â pharagraff (2), caiff Gweinidogion Cymru arfer y swyddogaeth ar sail pa bynnag ragdybiaethau ac amcangyfrifon yr ystyriant yn briodol.

(4)

Wrth arfer, neu benderfynu a ddylid arfer, unrhyw swyddogaeth mewn perthynas â chynlluniau, caiff Gweinidogion Cymru gymryd i ystyriaeth hefyd unrhyw wybodaeth arall sydd ar gael, o ba bynnag ffynhonnell, pa un a gafwyd yr wybodaeth honno o dan ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw Ddeddf neu a wnaed odanynt, ai peidio.

Annotations:
Commencement Information

I19Rhl. 19 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Cyflenwi dogfennau20.

Yn ddarostyngedig i reoliad 19, caiff awdurdod godi tâl rhesymol am gyflenwi copïau o ddogfennau sy’n ymwneud â’i gynllun.

Annotations:
Commencement Information

I20Rhl. 20 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3Dosbarthiadau rhagnodedig o bersonau y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun awdurdod

Dosbarthiadau o bersonau y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun21.

Mae’r dosbarthiadau o bersonau a ddisgrifir yn rheoliadau 22 i 25 yn ddosbarthiadau rhagnodedig o bersonau at ddibenion paragraff 3(1)(a) o Atodlen 1B i Ddeddf 199294 ac y mae’n rhaid eu cynnwys yng nghynllun awdurdod a rhoi iddynt yr hawl i ostyngiad o dan y cynllun.
Annotations:
Commencement Information

I21Rhl. 21 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Dosbarth A: pensiynwyr â’u hincwm yn llai na’r swm cymwysadwy22.

Ar unrhyw ddiwrnod mae dosbarth A yn cynnwys unrhyw berson sy’n bensiynwr—

(a)

sydd, ar gyfer y diwrnod hwnnw, yn atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd y mae’r person hwnnw’n preswylio ynddi;

(b)

nad yw, yn ddarostyngedig i reoliad 26 (cyfnodau o absenoldeb o annedd), yn absennol o’r annedd drwy gydol y diwrnod;

(c)

y gellir cyfrifo uchafswm gostyngiad treth gyngor mewn perthynas ag ef;

(d)

nad yw’n perthyn i ddosbarth o bersonau a ragnodir yn rheoliadau 28 i 31 ac a eithrir rhag hawlogaeth o dan gynllun;

(e)

nad yw ei incwm (os oes incwm) ar gyfer yr wythnos berthnasol yn fwy na swm cymwysadwy y person hwnnw, a gyfrifir yn unol â pharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 1 ac Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr); ac

(f)

sydd wedi gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod.

Annotations:
Commencement Information

I22Rhl. 22 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Dosbarth B: pensiynwyr â’u hincwm yn fwy na’r swm cymwysadwy23.

Ar unrhyw ddiwrnod mae dosbarth B yn cynnwys unrhyw berson sy’n bensiynwr—

(a)

sydd, ar gyfer y diwrnod hwnnw, yn atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd y mae’r person hwnnw’n preswylio ynddi;

(b)

nad yw, yn ddarostyngedig i reoliad 26 (cyfnodau o absenoldeb o annedd), yn absennol o’r annedd drwy gydol y diwrnod;

(c)

y gellir cyfrifo uchafswm gostyngiad treth gyngor mewn perthynas ag ef;

(d)

nad yw’n perthyn i ddosbarth o bersonau a ragnodir yn rheoliadau 28 i 31 ac a eithrir rhag hawlogaeth o dan gynllun;

(e)

y mae ei incwm ar gyfer yr wythnos berthnasol yn fwy na swm cymwysadwy y person hwnnw, a gyfrifir yn unol â pharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 1 ac Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr);

(f)

y mae swm A yn fwy na swm B mewn perthynas ag ef, os—

(i)

swm A yw uchafswm y gostyngiad treth gyngor ar gyfer y diwrnod yn achos y person hwnnw; a

(ii)

swm B yw 26/7 y cant o’r gwahaniaeth rhwng incwm y person hwnnw am yr wythnos berthnasol a swm cymwysadwy y person hwnnw; ac

(g)

sydd wedi gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod.

Annotations:
Commencement Information

I23Rhl. 23 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Dosbarth C: personau nad ydynt yn bensiynwyr, â’u hincwm yn llai na’r swm cymwysadwy24.

Ar unrhyw ddiwrnod mae dosbarth C yn cynnwys unrhyw berson nad yw’n bensiynwr—

(a)

sydd, ar gyfer y diwrnod hwnnw, yn atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd y mae’r person hwnnw’n preswylio ynddi;

(b)

nad yw, yn ddarostyngedig i reoliad 26 (cyfnodau o absenoldeb o annedd), yn absennol o’r annedd drwy gydol y diwrnod;

(c)

y gellir cyfrifo uchafswm gostyngiad treth gyngor mewn perthynas ag ef;

(d)

nad yw’n perthyn i ddosbarth o bersonau a ragnodir yn rheoliadau 28 i 31 ac a eithrir rhag hawlogaeth o dan gynllun;

(e)

y mae ei incwm (os oes incwm) ar gyfer yr wythnos berthnasol yn llai na swm cymwysadwy y person hwnnw, a gyfrifir yn unol â pharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 6 ac Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr); ac

(f)

sydd wedi gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod.

Annotations:
Commencement Information

I24Rhl. 24 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Dosbarth D: personau nad ydynt yn bensiynwyr, â’u hincwm yn fwy na’r swm cymwysadwy25.

Ar unrhyw ddiwrnod mae dosbarth D yn cynnwys unrhyw berson nad yw’n bensiynwr—

(a)

sydd, ar gyfer y diwrnod hwnnw, yn atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd y mae’r person hwnnw’n preswylio ynddi;

(b)

nad yw, yn ddarostyngedig i reoliad 26 (cyfnodau o absenoldeb o annedd), yn absennol o’r annedd drwy gydol y diwrnod;

(c)

y gellir cyfrifo uchafswm gostyngiad treth gyngor mewn perthynas ag ef;

(d)

nad yw’n perthyn i ddosbarth o bersonau a ragnodir yn rheoliadau 28 i 31 ac a eithrir rhag hawlogaeth o dan gynllun;

(e)

y mae ei incwm ar gyfer yr wythnos berthnasol yn fwy na swm cymwysadwy y person hwnnw, a gyfrifir yn unol â pharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 6 ac Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr);

(f)

y mae swm A yn fwy na swm B mewn perthynas ag ef, os—

(i)

swm A yw uchafswm y gostyngiad treth gyngor ar gyfer y diwrnod yn achos y person hwnnw; a

(ii)

swm B yw 26/7 y cant o’r gwahaniaeth rhwng incwm y person hwnnw am yr wythnos berthnasol a swm cymwysadwy y person hwnnw; ac

(g)

sydd wedi gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod.

Annotations:
Commencement Information

I25Rhl. 25 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Cyfnodau o absenoldeb o annedd26.

(1)

Nid yw person yn absennol o annedd mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod sy’n digwydd o fewn cyfnod o absenoldeb dros dro o’r annedd honno.

(2)

Ym mharagraff (1), ystyr “cyfnod o absenoldeb dros dro” (“period of temporary absence”) yw—

(a)

cyfnod o absenoldeb o ddim mwy na 13 wythnos, sy’n cychwyn gyda’r diwrnod cyfan cyntaf pan fo person yn preswylio mewn llety preswyl a phan fo, a chyhyd â bo—

(i)

y person hwnnw’n preswylio yn y llety hwnnw;

(ii)

y rhan o’r annedd lle mae’r person hwnnw’n preswylio fel arfer heb ei gosod neu ei his-osod; a

(iii)

y cyfnod hwnnw o absenoldeb ddim yn rhan o gyfnod hwy o absenoldeb o’r annedd am fwy na 52 wythnos,

a’r person hwnnw wedi symud i’r llety at y diben o ganfod a yw’r llety’n addas ar gyfer ei anghenion, a chyda’r bwriad o ddychwelyd i’r annedd os daw’n amlwg nad yw’r llety’n addas ar gyfer ei anghenion;

(b)

cyfnod o absenoldeb o ddim mwy na 13 wythnos, sy’n cychwyn gyda’r diwrnod cyfan cyntaf o absenoldeb o’r annedd pan fo, a chyhyd â bo—

(i)

y person yn bwriadu dychwelyd i’r annedd;

(ii)

y rhan o’r annedd lle mae’r person hwnnw’n preswylio fel arfer heb ei gosod neu ei his-osod; a

(iii)

y cyfnod hwnnw’n annhebygol o fod yn hwy na 13 wythnos; ac

(c)

cyfnod o absenoldeb o ddim mwy na 52 wythnos, sy’n cychwyn gyda’r diwrnod cyfan cyntaf o’r absenoldeb hwnnw pan fo, a chyhyd â bo—

(i)

y person yn bwriadu dychwelyd i’r annedd;

(ii)

y rhan o’r annedd lle mae’r person hwnnw’n preswylio fel arfer heb ei gosod neu ei his-osod;

(iii)

y person yn berson y mae paragraff (3) yn gymwys iddo; a

(iv)

y cyfnod o absenoldeb yn annhebygol o fod yn hwy na 52 wythnos neu, mewn amgylchiadau eithriadol, yn annhebygol o fod yn sylweddol hwy na’r cyfnod hwnnw.

(3)

Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson—

(a)

a gedwir yn y ddalfa ar remánd tra’n disgwyl treial, neu y gwneir yn ofynnol, fel amod mechnïaeth, ei fod yn preswylio—

(i)

mewn annedd ac eithrio’r annedd y cyfeirir ati ym mharagraff (1), neu

(ii)

mewn mangre a gymeradwyir o dan adran 13 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 200795,

neu a gedwir yn y ddalfa tra’n disgwyl dedfryd ar ôl ei gollfarnu;

(b)

sy’n preswylio mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb, fel claf;

(c)

sy’n cael, neu y mae’i bartner neu blentyn dibynnol yn cael, triniaeth feddygol neu gyfnod gwella a gymeradwywyd yn feddygol, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, mewn llety ac eithrio llety preswyl;

(d)

sy’n dilyn cwrs hyfforddi, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall;

(e)

sy’n ymgymryd â gofal, a gymeradwywyd yn feddygol, person sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall;

(f)

sy’n ymgymryd â gofal plentyn y mae’i riant neu’i warcheidwad yn absennol dros dro o’r annedd a feddiennir fel arfer gan y rhiant neu’r gwarcheidwad hwnnw at y diben o gael gofal a gymeradwywyd yn feddygol neu driniaeth feddygol;

(g)

sydd, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, yn cael gofal a gymeradwywyd yn feddygol, mewn llety ac eithrio llety preswyl;

(h)

sy’n fyfyriwr;

(i)

sy’n cael gofal a ddarperir mewn llety preswyl ac nad yw’n berson y mae paragraff (2)(a) yn gymwys iddo; neu

(j)

sydd wedi gadael yr annedd y mae’r person yn preswylio ynddi oherwydd ei fod yn ofni trais, naill ai yn yr annedd honno neu gan berson a oedd gynt yn aelod o deulu y person hwnnw.

(4)

Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson—

(a)

a gedwir yn y ddalfa tra’n disgwyl dedfryd ar ôl ei gollfarnu neu o dan ddedfryd a osodwyd gan lys (ac eithrio person a gedwir mewn ysbyty o dan ddarpariaethau Deddf Iechyd Meddwl 198396, neu, yn yr Alban, o dan ddarpariaethau Deddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 200397 neu Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 199598 neu, yng Ngogledd Iwerddon, o dan erthygl 4 neu 12 o Orchymyn Iechyd Meddwl (Gogledd Iwerddon)198699); a

(b)

wedi ei ryddhau dros dro o’r ddalfa yn unol â Rheolau a wnaed o dan ddarpariaethau Deddf Carchardai 1952100 neu Ddeddf Carchardai (Yr Alban) 1989101.

(5)

Pan fo paragraff (4) yn gymwys i berson, yna, ar gyfer unrhyw ddiwrnod pan fo’r person hwnnw yn rhydd dros dro—

(a)

os digwyddodd cyfnod o absenoldeb dros dro o dan baragraff (2)(b) neu (c) yn union cyn y cyfryw ryddhad dros dro, rhaid trin y person hwnnw at ddibenion paragraff (1) fel pe bai’r person hwnnw’n parhau i fod yn absennol o’r annedd, er gwaethaf unrhyw ddychweliad i’r annedd;

(b)

at ddibenion paragraff (3)(a), rhaid trin y person hwnnw fel pe bai’n parhau yn y ddalfa;

(c)

os nad yw’r person hwnnw’n dod o fewn is-baragraff (a), rhaid peidio ag ystyried y person hwnnw’n berson sy’n atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd lle mae’r person hwnnw’n breswylydd.

(6)

Yn y rheoliad hwn—

ystyr “a gymeradwywyd yn feddygol” (“medically approved”) yw ardystiedig gan ymarferydd meddygol;

ystyr “claf” (“patient”) yw person sy’n cael triniaeth feddygol neu driniaeth arall fel claf mewnol mewn unrhyw ysbyty neu sefydliad cyffelyb;

ystyr “llety preswyl” (“residential accommodation”) yw llety a ddarperir mewn—

(a)

cartref gofal;

(b)

ysbyty annibynnol;

(c)

Cartref Abbeyfield; neu

(d)

sefydliad a reolir neu a ddarperir gan gorff a gorfforwyd gan Siarter Brenhinol neu a gyfansoddwyd gan Ddeddf Seneddol, ac eithrio awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol;

ystyr “cwrs hyfforddi” (“training course”) yw cwrs o hyfforddiant neu gyfarwyddyd a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan, neu ar ran, neu’n unol â threfniadau a wnaed gyda, neu a gymeradwywyd gan neu ar ran, Datblygu Sgiliau yr Alban, Menter yr Alban, Menter yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd, adran o’r llywodraeth, Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol.

Annotations:
Commencement Information

I26Rhl. 26 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4Dosbarthiadau rhagnodedig o bersonau na chaniateir eu cynnwys mewn cynllun awdurdod

Dosbarthiadau o bersonau na chaniateir eu cynnwys mewn cynllun27.

Mae’r dosbarthiadau o bersonau a ddisgrifir yn rheoliadau 28 i 31 yn ddosbarthiadau o bersonau a ragnodir at ddibenion paragraff 3(1)(b) o Atodlen 1B i Ddeddf 1992102 ac y mae’n rhaid peidio â’u cynnwys mewn cynllun awdurdod, na rhoi hawl iddynt gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod.
Annotations:
Commencement Information

I27Rhl. 27 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr28.

(1)

Mae’r dosbarth o bersonau a ddisgrifir yn y rheoliad hwn yn cynnwys unrhyw berson sydd i’w drin fel rhywun nad yw ym Mhrydain Fawr.

(2)

Ac eithrio pan fo person yn dod o fewn paragraff (5) neu (6), rhaid trin person fel rhywun nad yw ym Mhrydain Fawr os nad yw’r person hwnnw’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon.

(3)

Rhaid peidio â thrin person fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon onid oes gan y person hwnnw hawl i breswylio yn un o’r lleoedd hynny.

(4)

At ddibenion paragraff (3), nid yw hawl i breswylio yn cynnwys hawl sy’n bodoli yn rhinwedd, neu yn unol ag—

(a)

rheoliad 13 o’r Rheoliadau AEE neu Erthygl 6 o Gyfarwyddeb y Cyngor Rhif 2004/38/EC103;

(b)

rheoliad 14 o’r Rheoliadau AEE, ond hynny yn unig mewn achos pan fo’r hawl yn bodoli o dan y rheoliad hwnnw oherwydd bod y person—

(i)

yn geisiwr gwaith at ddibenion y diffiniad o “qualified person” yn rheoliad 6(1) o’r Rheoliadau hynny, neu

(ii)

yn aelod o deulu (o fewn ystyr “family member” yn rheoliad 7 o’r Rheoliadau hynny) o’r cyfryw geisiwr gwaith;

(c)

Erthygl 45 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd (mewn achos pan fo person yn ceisio gwaith yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth yr Iwerddon); neu

(d)

rheoliad 15A(1) o’r Rheoliadau AEE, ond hynny yn unig mewn achos pan fo’r hawl yn bodoli o dan y rheoliad hwnnw oherwydd bod y ceisydd yn bodloni’r meini prawf ym mharagraff (4A) o’r rheoliad hwnnw neu Erthygl 20 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd (mewn achos pan fo’r hawl i breswylio yn codi oherwydd, fel arall, yr amddifedid dinesydd Prydeinig o wir fwynhau ei hawliau fel dinesydd yr Undeb Ewropeaidd)104.

(5)

Mae person yn dod o fewn y paragraff hwn os yw—

(a)

yn berson cymwys at ddibenion rheoliad 6 o’r Rheoliadau AEE fel gweithiwr neu berson hunangyflogedig;

(b)

yn aelod o deulu person y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn yr ystyr a roddir i “family member” gan reoliad 7(1)(a), (b) neu (c) o’r Rheoliadau AEE;

(c)

yn berson sydd â hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd rheoliad 15(1)(c), (d) neu (e) o’r Rheoliadau AEE;

(d)

yn berson a gofnodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel ffoadur yn yr ystyr a roddir i “refugee” gan y diffiniad yn Erthygl 1 o’r Confensiwn ynghylch Statws Ffoaduriaid a fabwysiadwyd yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951, fel y’i hestynnwyd gan Erthygl 1(2) o’r Protocol ynghylch Statws Ffoaduriaid a fabwysiadwyd yn Efrog Newydd ar 31 Ionawr 1967;

F6(e)

yn berson y rhoddwyd iddo, neu’r ystyrir y rhoddwyd iddo, ganiatâd y tu allan i’r rheolau a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971(1), pan fo’r caniatâd hwnnw yn—

(i)

caniatâd disgresiynol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi,

(ii)

caniatâd i aros o dan y consesiwn Amddifadedd Trais Domestig, neu

(iii)

caniatâd yr ystyrir y’i rhoddwyd yn rhinwedd rheoliad 3 o Reoliadau Personau a Ddadleolwyd (Diogelu Dros Dro) 2005;

(f)

yn berson sydd â diogelwch dyngarol a roddwyd o dan y rheolau hynny;

(g)

yn berson nad yw’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn yr ystyr a roddir i “subject to immigration control” gan adran 115(9) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999106 ac sydd yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i allgludo neu ddiarddel y person hwnnw neu ei symud yn orfodol drwy gyfraith rywfodd arall, o wlad arall i’r Deyrnas Unedig;

F7(h)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F8(i)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(j)

yn berson sy’n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm.

F9(k)

yn berson a drinnir fel gweithiwr at ddibenion y diffiniad o “qualified person” yn rheoliad 6(1) o’r Rheoliadau AEE yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Ymaelodaeth Croatia (Mewnfudo ac Awdurdodi Gweithwyr) 2013(4) (hawl preswylio Croatiad sy’n “wladolyn gwladwriaeth ymaelodol yn ddarostyngedig i awdurdodi gweithwyr”).

(6)

Mae person yn dod o fewn y paragraff hwn os yw’n was y Goron neu’n aelod o luoedd Ei Mawrhydi a leolwyd dramor.

(7)

Mae person a grybwyllir ym mharagraff (6) wedi ei leoli dramor os yw’n cyflawni dyletswyddau gwas y Goron neu aelod o luoedd Ei Mawrhydi dramor ac yntau, yn union cyn y lleoliad neu’r cyntaf o leoliadau olynol, yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig.

(8)

Yn y rheoliad hwn—

mae i “hawliad am loches” yr un ystyr a roddir i “claim for asylum” yn adran 94(1) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999107;
ystyr “Rheoliadau AEE” (“EEA Regulations”) yw Rheoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2006108.

Personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo29.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r dosbarth o bersonau a ddisgrifir yn y rheoliad hwn yn cynnwys unrhyw berson sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo.

(2)

Nid yw person sy’n wladolyn o wladwriaeth sydd wedi cadarnhau y Confensiwn Ewropeaidd ar Gymorth Cymdeithasol a Meddygol (a fabwysiadwyd ym Mharis ar 11 Rhagfyr 1953) neu wladwriaeth sydd wedi cadarnhau Siarter Gymdeithasol Cyngor Ewrop (a arwyddwyd yn Turin ar 18 Hydref 1961) ac sy’n bresennol yn gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig yn berson sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo at ddibenion paragraff (1).

(3)

Mae i “person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo” yr ystyr a roddir i “person subject to immigration control” yn adran 115(9) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.

Annotations:
Commencement Information

I29Rhl. 29 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Personau y mae eu cyfalaf yn fwy nag £16,00030.

(1)

Mae’r dosbarth o bersonau a ddisgrifir yn y rheoliad hwn yn cynnwys unrhyw berson y mae ei gyfalaf yn fwy nag £16,000.

(2)

Rhaid cyfrifo cyfalaf at ddibenion paragraff (1) yn unol ag Atodlen 1 (pensiynwyr) neu Atodlen 6 (personau nad ydynt yn bensiynwyr).

Annotations:
Commencement Information

I30Rhl. 30 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Myfyrwyr31.

(1)

Mae’r dosbarth o bersonau a ddisgrifir yn y rheoliad hwn yn cynnwys unrhyw berson sy’n fyfyriwr.

(2)

Yn y rheoliad hwn, mae i “myfyriwr” (“student”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Ran 1 o Atodlen 11.

(3)

Mae Atodlen 11, sy’n cynnwys materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun mewn perthynas â myfyrwyr, yn cael effaith.

Annotations:
Commencement Information

I31Rhl. 31 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

RHAN 5Materion eraill y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun awdurdod

Darpariaeth ar gyfer pensiynwyr32.

(1)

Rhaid i gynllun wneud darpariaeth mewn perthynas â’r dosbarthiadau o bersonau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 22 a 23 (dosbarthiadau A a B).

(2)

Mae Atodlenni 1 i 5, sy’n cynnwys materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun mewn perthynas â’r dosbarthiadau hynny o bersonau, yn cael effaith.

(3)

At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r darpariaethau ym mharagraff 33 o Atodlen 1 (parhad cyfnod gostyngiad estynedig) yn ofynion sylfaenol.

Annotations:
Commencement Information

I32Rhl. 32 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Darpariaeth ar gyfer personau nad ydynt yn bensiynwyr33.

(1)

Rhaid i gynllun wneud darpariaeth mewn perthynas â’r dosbarthiadau o bersonau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 24 a 25 (dosbarthiadau C a D).

(2)

Mae Atodlenni 6 i 10, sy’n cynnwys materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun mewn perthynas â’r dosbarthiadau hynny o bersonau, yn cael effaith.

(3)

At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r darpariaethau ym mharagraffau 35 (parhad cyfnod gostyngiad estynedig) a 40 (parhad cyfnod gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys)) o Atodlen 6 yn ofynion sylfaenol.

Annotations:
Commencement Information

I33Rhl. 33 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Darpariaeth ar gyfer pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr34.

(1)

Rhaid i gynllun gynnwys y darpariaethau a bennir yn Atodlenni 12 i 14.

(2)

Rhaid i’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (1) fod yn gymwys i bob cais am ostyngiad o’r dreth gyngor oni ddarperir yn wahanol.

(3)

Mae Atodlenni 12 i 14, sy’n cynnwys materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun mewn perthynas â phob ceisydd am ostyngiad o’r dreth gyngor, yn cael effaith oni ddarperir yn wahanol.

(4)

At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r darpariaethau ym mharagraffau 3 a 4 o Atodlen 13 (ôl-ddyddio) yn ofynion sylfaenol.

(5)

At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r swm sydd i’w ddiystyru yn unol â pharagraff 1(a) a (b) o Atodlen 4 (symiau sydd i’w diystyru ar gyfer pensiwn anabledd rhyfel, pensiwn rhyfel gwraig weddw a phensiwn rhyfel gŵr gweddw: pensiynwyr) a pharagraff 20(a) a (b) o Atodlen 9 (symiau sydd i’w diystyru ar gyfer pensiwn anabledd rhyfel, pensiwn rhyfel gwraig weddw a phensiwn rhyfel gŵr gweddw: personau nad ydynt yn bensiynwyr) yn lleiafswm gofynnol.

Annotations:
Commencement Information

I34Rhl. 34 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

RHAN 6Dirymu, darpariaethau trosiannol ac arbedion

Dehongli35.

Yn y Rhan hon o’r Rheoliadau—

ystyr “Rheoliadau 2012” (“2012 Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012109;

ystyr “cynllun 2013” (“2013 Scheme”) yw cynllun a wnaed gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau 2012 neu sy’n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2013 yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw awdurdod sy’n gweinyddu cynllun 2013 neu gynllun;

ystyr “cynllun” (“cynllun”) yw cynllun a wnaed gan awdurdod bilio yn unol â’r Rheoliadau hyn neu sy’n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2014 yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Annotations:
Commencement Information

I35Rhl. 35 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Dirymu ac arbedion36.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau 2012 wedi eu dirymu ar 1 Ebrill 2014.

(2)

Mae Rheoliadau 2012 yn parhau i fod yn gymwys i unrhyw geisiadau a wnaed, ac unrhyw ostyngiadau a ddyfarnwyd, yn unol â darpariaethau cynllun 2013.

Annotations:
Commencement Information

I36Rhl. 36 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Personau sydd i’w trin fel pe baent wedi gwneud cais am ostyngiad37.

(1)

Rhaid trin person sy’n dod o fewn un o’r categorïau o berson a ddisgrifir ym mharagraff (2) fel pe bai wedi gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun ar 15 Chwefror 2014.

(2)

Mae person y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn berson—

(a)

sy’n cael gostyngiad o dan gynllun 2013 ar 15 Chwefror 2014;

(b)

sydd wedi gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun 2013 na phenderfynwyd arno yn union cyn 15 Chwefror 2014;

(c)

sydd wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i awdurdod perthnasol ynghylch penderfyniad yr awdurdod mewn perthynas â hawliad am ostyngiad o dan gynllun 2013, ac yn disgwyl penderfyniad yr awdurdod mewn cysylltiad â’r hysbysiad ysgrifenedig yn union cyn 15 Chwefror 2014;

(d)

sydd wedi apelio at Dribiwnlys Prisio Cymru yn erbyn penderfyniad awdurdod perthnasol mewn perthynas â hawliad am ostyngiad o dan gynllun 2013, ac yn disgwyl yr apêl neu’r penderfyniad mewn cysylltiad â’r apêl yn union cyn 15 Chwefror 2014;

(e)

sydd wedi apelio yn erbyn penderfyniad Tribiwnlys Prisio Cymru mewn perthynas â hawliad am ostyngiad o dan gynllun 2013, ac yn disgwyl yr apêl yn union cyn 15 Chwefror 2014.

(3)

At ddibenion paragraff (2)(e), disgwylir apêl yn erbyn penderfyniad mewn cysylltiad â hawliad am ostyngiad o dan gynllun 2013—

(a)

os yw’r apêl yn erbyn penderfyniad wedi ei dwyn ond heb ei phenderfynu; neu

(b)

os yw’r cais am ganiatâd i apelio yn erbyn y penderfyniad wedi ei wneud ond heb ei benderfynu.

Annotations:
Commencement Information

I37Rhl. 37 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Ceisiadau a gafwyd rhwng 15 Chwefror 2014 a 31 Mawrth 201438.

Rhaid trin person sy’n gwneud hawliad am ostyngiad o dan gynllun 2013 ar unrhyw ddiwrnod yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 15 Chwefror 2014 ac yn gorffen ar 31 Mawrth 2014 fel pe bai wedi gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun ar yr un diwrnod.

Annotations:
Commencement Information

I38Rhl. 38 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Dyddiad pan fo newid yn yr amgylchiadau yn cael effaith39.

(1)

Pan fo person (P), yn rhinwedd rheoliad 37(1) neu 38, yn cael ei drin fel pe bai wedi gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun, ac—

(a)

ar 15 Chwefror 2014, bod P yn berson y mae’r darpariaethau perthnasol yn gymwys iddo, neu, ar unrhyw ddiwrnod yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 15 Chwefror 2014 ac yn gorffen ar 31 Mawrth 2014, y daw P yn berson y mae’r darpariaethau hynny yn gymwys iddo; a

(b)

bod y dyddiad effeithiol ar gyfer y newid yn yr amgylchiadau yn unol â’r darpariaethau perthnasol yn ddyddiad ar ôl 31 Mawrth 2014,

rhaid penderfynu’r cais fel pe bai’r newid yn yr amgylchiadau heb ddigwydd, ond rhaid ailbenderfynu’r cais ar y dyddiad effeithiol i gymryd i ystyriaeth y newid yn yr amgylchiadau.

(2)

Ym mharagraff (1), ystyr “darpariaethau perthnasol” (“relevant provisions”) yw—

(a)

darpariaeth yng nghynllun 2013 yn rhinwedd rheoliad 30(2) o Reoliadau 2012, a pharagraff 40(10) i (12) o Atodlen 1 iddynt (dyddiad pan fo newid yn yr amgylchiadau yn cael effaith: pensiynwyr);

(b)

darpariaeth yng nghynllun 2013 yn rhinwedd rheoliad 31(2) o Reoliadau 2012, a pharagraff 46(10) i (12) o Atodlen 6 iddynt (dyddiad pan fo newid yn yr amgylchiadau yn cael effaith: personau nad ydynt yn bensiynwyr); neu

(c)

paragraff 105(10) i (12) o’r cynllun a ragnodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofal) (Cymru) 2012110 (dyddiad pan fo newid yn yr amgylchiadau yn cael effaith).
Annotations:
Commencement Information

I39Rhl. 39 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Hysbysu ynghylch newid yn yr amgylchiadau40.

Pan fo person, yn rhinwedd rheoliad 37(1) neu 38, yn cael ei drin fel pe bai wedi gwneud cais o dan gynllun, nid yw’r darpariaethau canlynol mewn cynllun awdurdod perthnasol yn gymwys mewn perthynas â chais y person hwnnw—

(a)

darpariaeth mewn cynllun yn rhinwedd rheoliad 33(3) o’r Rheoliadau hyn, a pharagraff 1(7) o Atodlen 13 iddynt (pwy gaiff wneud cais); neu

(b)

paragraff 107(7) o’r cynllun a ragnodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofal) (Cymru) 2013 (pwy gaiff wneud cais).

Annotations:
Commencement Information

I40Rhl. 40 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru