Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013
2013 No. 3029 (Cy. 301)
Treth Gyngor, Cymru
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19921 a pharagraffau 2 i 7 o Atodlen 1B i’r Ddeddf honno.
Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.