27. Mae’r dosbarthiadau o bersonau a ddisgrifir yn rheoliadau 28 i 31 yn ddosbarthiadau o bersonau a ragnodir at ddibenion paragraff 3(1)(b) o Atodlen 1B i Ddeddf 1992(1) ac y mae’n rhaid peidio â’u cynnwys mewn cynllun awdurdod, na rhoi hawl iddynt gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 27 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
28.—(1) Mae’r dosbarth o bersonau a ddisgrifir yn y rheoliad hwn yn cynnwys unrhyw berson sydd i’w drin fel rhywun nad yw ym Mhrydain Fawr.
(2) Ac eithrio pan fo person yn dod o fewn paragraff (5) neu (6), rhaid trin person fel rhywun nad yw ym Mhrydain Fawr os nad yw’r person hwnnw’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon.
(3) Rhaid peidio â thrin person fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon onid oes gan y person hwnnw hawl i breswylio yn un o’r lleoedd hynny.
(4) At ddibenion paragraff (3), nid yw hawl i breswylio yn cynnwys hawl sy’n bodoli yn rhinwedd, neu yn unol ag—
(a)rheoliad 13 o’r Rheoliadau AEE neu Erthygl 6 o Gyfarwyddeb y Cyngor Rhif 2004/38/EC(2);
(b)rheoliad 14 o’r Rheoliadau AEE, ond hynny yn unig mewn achos pan fo’r hawl yn bodoli o dan y rheoliad hwnnw oherwydd bod y person—
(i)yn geisiwr gwaith at ddibenion y diffiniad o “qualified person” yn rheoliad 6(1) o’r Rheoliadau hynny, neu
(ii)yn aelod o deulu (o fewn ystyr “family member” yn rheoliad 7 o’r Rheoliadau hynny) o’r cyfryw geisiwr gwaith;
(c)Erthygl 45 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd (mewn achos pan fo person yn ceisio gwaith yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth yr Iwerddon); neu
(d)rheoliad 15A(1) o’r Rheoliadau AEE, ond hynny yn unig mewn achos pan fo’r hawl yn bodoli o dan y rheoliad hwnnw oherwydd bod y ceisydd yn bodloni’r meini prawf ym mharagraff (4A) o’r rheoliad hwnnw neu Erthygl 20 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd (mewn achos pan fo’r hawl i breswylio yn codi oherwydd, fel arall, yr amddifedid dinesydd Prydeinig o wir fwynhau ei hawliau fel dinesydd yr Undeb Ewropeaidd)(3).
(5) Mae person yn dod o fewn y paragraff hwn os yw—
(a)yn berson cymwys at ddibenion rheoliad 6 o’r Rheoliadau AEE fel gweithiwr neu berson hunangyflogedig;
(b)yn aelod o deulu person y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn yr ystyr a roddir i “family member” gan reoliad 7(1)(a), (b) neu (c) o’r Rheoliadau AEE;
(c)yn berson sydd â hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd rheoliad 15(1)(c), (d) neu (e) o’r Rheoliadau AEE;
(d)yn berson a gofnodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel ffoadur yn yr ystyr a roddir i “refugee” gan y diffiniad yn Erthygl 1 o’r Confensiwn ynghylch Statws Ffoaduriaid a fabwysiadwyd yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951, fel y’i hestynnwyd gan Erthygl 1(2) o’r Protocol ynghylch Statws Ffoaduriaid a fabwysiadwyd yn Efrog Newydd ar 31 Ionawr 1967;
[F1(e)yn berson y rhoddwyd iddo, neu’r ystyrir y rhoddwyd iddo, ganiatâd y tu allan i’r rheolau a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971(1), pan fo’r caniatâd hwnnw yn—
(i)caniatâd disgresiynol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi,
(ii)caniatâd i aros o dan y consesiwn Amddifadedd Trais Domestig, neu
(iii)caniatâd yr ystyrir y’i rhoddwyd yn rhinwedd rheoliad 3 o Reoliadau Personau a Ddadleolwyd (Diogelu Dros Dro) 2005;]
(f)yn berson sydd â diogelwch dyngarol a roddwyd o dan y rheolau hynny;
(g)yn berson nad yw’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn yr ystyr a roddir i “subject to immigration control” gan adran 115(9) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999(4) ac sydd yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i allgludo neu ddiarddel y person hwnnw neu ei symud yn orfodol drwy gyfraith rywfodd arall, o wlad arall i’r Deyrnas Unedig;
F2(h). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F3(i). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(j)yn berson sy’n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm.
[F4(k)yn berson a drinnir fel gweithiwr at ddibenion y diffiniad o “qualified person” yn rheoliad 6(1) o’r Rheoliadau AEE yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Ymaelodaeth Croatia (Mewnfudo ac Awdurdodi Gweithwyr) 2013(4) (hawl preswylio Croatiad sy’n “wladolyn gwladwriaeth ymaelodol yn ddarostyngedig i awdurdodi gweithwyr”).]
(6) Mae person yn dod o fewn y paragraff hwn os yw’n was y Goron neu’n aelod o luoedd Ei Mawrhydi a leolwyd dramor.
(7) Mae person a grybwyllir ym mharagraff (6) wedi ei leoli dramor os yw’n cyflawni dyletswyddau gwas y Goron neu aelod o luoedd Ei Mawrhydi dramor ac yntau, yn union cyn y lleoliad neu’r cyntaf o leoliadau olynol, yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig.
(8) Yn y rheoliad hwn—
mae i “hawliad am loches” yr un ystyr a roddir i “claim for asylum” yn adran 94(1) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999(5);
ystyr “Rheoliadau AEE” (“EEA Regulations”) yw Rheoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2006(6).
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 28(5)(e) wedi ei amnewid (15.1.2014) gan Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/66), rhlau. 1, 5(a)
F2Rhl. 28(5)(h) wedi ei hepgor (15.1.2014) yn rhinwedd Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/66), rhlau. 1, 5(b)
F3Rhl. 28(5)(i) wedi ei hepgor (15.1.2014) yn rhinwedd Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/66), rhlau. 1, 5(c)
F4Rhl. 28(5)(k) wedi ei fewnosod (15.1.2014) gan Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/66), rhlau. 1, 5(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 28 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
29.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r dosbarth o bersonau a ddisgrifir yn y rheoliad hwn yn cynnwys unrhyw berson sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo.
(2) Nid yw person sy’n wladolyn o wladwriaeth sydd wedi cadarnhau y Confensiwn Ewropeaidd ar Gymorth Cymdeithasol a Meddygol (a fabwysiadwyd ym Mharis ar 11 Rhagfyr 1953) neu wladwriaeth sydd wedi cadarnhau Siarter Gymdeithasol Cyngor Ewrop (a arwyddwyd yn Turin ar 18 Hydref 1961) ac sy’n bresennol yn gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig yn berson sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo at ddibenion paragraff (1).
(3) Mae i “person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo” yr ystyr a roddir i “person subject to immigration control” yn adran 115(9) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 29 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
30.—(1) Mae’r dosbarth o bersonau a ddisgrifir yn y rheoliad hwn yn cynnwys unrhyw berson y mae ei gyfalaf yn fwy nag £16,000.
(2) Rhaid cyfrifo cyfalaf at ddibenion paragraff (1) yn unol ag Atodlen 1 (pensiynwyr) neu Atodlen 6 (personau nad ydynt yn bensiynwyr).
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 30 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
31.—(1) Mae’r dosbarth o bersonau a ddisgrifir yn y rheoliad hwn yn cynnwys unrhyw berson sy’n fyfyriwr.
(2) Yn y rheoliad hwn, mae i “myfyriwr” (“student”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Ran 1 o Atodlen 11.
(3) Mae Atodlen 11, sy’n cynnwys materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun mewn perthynas â myfyrwyr, yn cael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 31 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
Mewnosodwyd Atodlen 1B gan adran 10(2) a (3)(a) o, ac paragraff 1 I Atodlen 4 i'r Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p.17).
OJ Rhif L 158, 30.4.04, t. 77.
Cyhoeddwyd fersiwn gydgrynoëdig o’r Cytuniad hwn yn y Cyfnodolyn Swyddogol ar 30.3.2010 C 83.
Gwnaed diwygiadau perthnasol i adran 94(1) gan adran 44 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002 (p.41) ond nid yw’r darpariaethau hynny mewn grym. Mae diwygiadau eraill wedi eu gwneud, ond nid ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2006/1003; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2011/544, 2012/1547, 2012/2560.