Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

Newidiadau dros amser i: RHAN 6

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

RHAN 6LL+CDirymu, darpariaethau trosiannol ac arbedion

DehongliLL+C

35.  Yn y Rhan hon o’r Rheoliadau—

ystyr “Rheoliadau 2012” (“2012 Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012(1);

ystyr “cynllun 2013” (“2013 Scheme”) yw cynllun a wnaed gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau 2012 neu sy’n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2013 yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw awdurdod sy’n gweinyddu cynllun 2013 neu gynllun;

ystyr “cynllun” (“cynllun”) yw cynllun a wnaed gan awdurdod bilio yn unol â’r Rheoliadau hyn neu sy’n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2014 yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 35 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Dirymu ac arbedionLL+C

36.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau 2012 wedi eu dirymu ar 1 Ebrill 2014.

(2Mae Rheoliadau 2012 yn parhau i fod yn gymwys i unrhyw geisiadau a wnaed, ac unrhyw ostyngiadau a ddyfarnwyd, yn unol â darpariaethau cynllun 2013.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 36 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Personau sydd i’w trin fel pe baent wedi gwneud cais am ostyngiadLL+C

37.—(1Rhaid trin person sy’n dod o fewn un o’r categorïau o berson a ddisgrifir ym mharagraff (2) fel pe bai wedi gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun ar 15 Chwefror 2014.

(2Mae person y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn berson—

(a)sy’n cael gostyngiad o dan gynllun 2013 ar 15 Chwefror 2014;

(b)sydd wedi gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun 2013 na phenderfynwyd arno yn union cyn 15 Chwefror 2014;

(c)sydd wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i awdurdod perthnasol ynghylch penderfyniad yr awdurdod mewn perthynas â hawliad am ostyngiad o dan gynllun 2013, ac yn disgwyl penderfyniad yr awdurdod mewn cysylltiad â’r hysbysiad ysgrifenedig yn union cyn 15 Chwefror 2014;

(d)sydd wedi apelio at Dribiwnlys Prisio Cymru yn erbyn penderfyniad awdurdod perthnasol mewn perthynas â hawliad am ostyngiad o dan gynllun 2013, ac yn disgwyl yr apêl neu’r penderfyniad mewn cysylltiad â’r apêl yn union cyn 15 Chwefror 2014;

(e)sydd wedi apelio yn erbyn penderfyniad Tribiwnlys Prisio Cymru mewn perthynas â hawliad am ostyngiad o dan gynllun 2013, ac yn disgwyl yr apêl yn union cyn 15 Chwefror 2014.

(3At ddibenion paragraff (2)(e), disgwylir apêl yn erbyn penderfyniad mewn cysylltiad â hawliad am ostyngiad o dan gynllun 2013—

(a)os yw’r apêl yn erbyn penderfyniad wedi ei dwyn ond heb ei phenderfynu; neu

(b)os yw’r cais am ganiatâd i apelio yn erbyn y penderfyniad wedi ei wneud ond heb ei benderfynu.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 37 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Ceisiadau a gafwyd rhwng 15 Chwefror 2014 a 31 Mawrth 2014LL+C

38.  Rhaid trin person sy’n gwneud hawliad am ostyngiad o dan gynllun 2013 ar unrhyw ddiwrnod yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 15 Chwefror 2014 ac yn gorffen ar 31 Mawrth 2014 fel pe bai wedi gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun ar yr un diwrnod.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 38 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Dyddiad pan fo newid yn yr amgylchiadau yn cael effaithLL+C

39.—(1Pan fo person (P), yn rhinwedd rheoliad 37(1) neu 38, yn cael ei drin fel pe bai wedi gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun, ac—

(a)ar 15 Chwefror 2014, bod P yn berson y mae’r darpariaethau perthnasol yn gymwys iddo, neu, ar unrhyw ddiwrnod yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 15 Chwefror 2014 ac yn gorffen ar 31 Mawrth 2014, y daw P yn berson y mae’r darpariaethau hynny yn gymwys iddo; a

(b)bod y dyddiad effeithiol ar gyfer y newid yn yr amgylchiadau yn unol â’r darpariaethau perthnasol yn ddyddiad ar ôl 31 Mawrth 2014,

rhaid penderfynu’r cais fel pe bai’r newid yn yr amgylchiadau heb ddigwydd, ond rhaid ailbenderfynu’r cais ar y dyddiad effeithiol i gymryd i ystyriaeth y newid yn yr amgylchiadau.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “darpariaethau perthnasol” (“relevant provisions”) yw—

(a)darpariaeth yng nghynllun 2013 yn rhinwedd rheoliad 30(2) o Reoliadau 2012, a pharagraff 40(10) i (12) o Atodlen 1 iddynt (dyddiad pan fo newid yn yr amgylchiadau yn cael effaith: pensiynwyr);

(b)darpariaeth yng nghynllun 2013 yn rhinwedd rheoliad 31(2) o Reoliadau 2012, a pharagraff 46(10) i (12) o Atodlen 6 iddynt (dyddiad pan fo newid yn yr amgylchiadau yn cael effaith: personau nad ydynt yn bensiynwyr); neu

(c)paragraff 105(10) i (12) o’r cynllun a ragnodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofal) (Cymru) 2012(2) (dyddiad pan fo newid yn yr amgylchiadau yn cael effaith).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 39 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Hysbysu ynghylch newid yn yr amgylchiadauLL+C

40.  Pan fo person, yn rhinwedd rheoliad 37(1) neu 38, yn cael ei drin fel pe bai wedi gwneud cais o dan gynllun, nid yw’r darpariaethau canlynol mewn cynllun awdurdod perthnasol yn gymwys mewn perthynas â chais y person hwnnw—

(a)darpariaeth mewn cynllun yn rhinwedd rheoliad 33(3) o’r Rheoliadau hyn, a pharagraff 1(7) o Atodlen 13 iddynt (pwy gaiff wneud cais); neu

(b)paragraff 107(7) o’r cynllun a ragnodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofal) (Cymru) 2013 (pwy gaiff wneud cais).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 40 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

(1)

O.S. 2012/3144 (Cy.316) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/112 (Cy.17).

(2)

O.S. 2012/3145 (Cy.317) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/112 (Cy.17).

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources