ATODLEN 1LL+CPenderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: pensiynwyr

RHAN 4LL+CIncwm a chyfalaf at ddibenion cyfrifo cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, a swm unrhyw ostyngiad: pensiynwyr

PENNOD 3LL+CIncwm: pensiynwyr eraill

Cyfrifo enillion enillwyr hunangyflogedig: pensiynwyrLL+C

14.—(1Pan fo enillion ceisydd sy’n bensiynwr yn enillion o gyflogaeth fel enillydd hunangyflogedig, rhaid penderfynu swm wythnosol enillion y ceisydd hwnnw drwy gyfeirio at enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd o’r gyflogaeth honno—

(a)dros gyfnod o un flwyddyn; neu

(b)os yn ddiweddar yr ymgymerodd y ceisydd â’r gyflogaeth honno, neu os digwyddodd newid sy’n debygol o effeithio ar y patrwm busnes arferol, [F1dros ba bynnag gyfnod arall] (“cyfnod cyfrifo”) a allai, yn yr achos penodol dan sylw, alluogi penderfynu swm wythnosol enillion y ceisydd yn fwy cywir.

(2At y dibenion o benderfynu swm wythnosol enillion ceisydd y mae is-baragraff (1)(b) yn gymwys iddo, rhaid rhannu enillion y ceisydd dros y cyfnod cyfrifo gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod hwnnw a lluosi’r cyniferydd gyda 7.

(3Y cyfnod y cyfrifir swm wythnosol enillion ceisydd drosto yn unol â’r paragraff hwn fydd y cyfnod asesu ar gyfer y ceisydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)