ATODLEN 1Penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: pensiynwyr

RHAN 4Incwm a chyfalaf at ddibenion cyfrifo cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, a swm unrhyw ostyngiad: pensiynwyr

PENNOD 3Incwm: pensiynwyr eraill

Enillion enillwyr hunangyflogedig: pensiynwyr

15.

(1)

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ystyr “enillion” (“earnings”), yn achos cyflogaeth fel enillydd hunangyflogedig sy’n bensiynwr, yw incwm gros y gyflogaeth.

(2)

Nid yw “enillion” yn achos cyflogaeth fel enillydd hunangyflogedig yn cynnwys y canlynol—

(a)

pan fo ceisydd yn meddiannu annedd fel ei gartref, a’r ceisydd, yn yr annedd honno, yn darparu prydau bwyd a llety y telir amdanynt, y taliadau hynny;

(b)

unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol i geisydd—

(i)

y lletyir person gydag ef yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 22C neu 23(2)(a) o Ddeddf Plant 1989134 (darparu llety a chynhaliaeth ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal ganddynt) neu, yn ôl fel y digwydd, adran 26(1) o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995135; neu

(ii)

y mae awdurdod lleol yn maethu plentyn gydag ef o dan Reoliadau Plant sy’n Derbyn Gofal (Yr Alban) 2009136 neu sy’n ofalwr-berthynas yn yr ystyr a roddir i “kinship carer” o dan y Rheoliadau hynny;

(c)

unrhyw daliad a wneir gan sefydliad gwirfoddol yn unol ag adran 59(1)(a) o Ddeddf Plant 1989 (darparu llety gan sefydliadau gwirfoddol);

(d)

unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd ar gyfer person (“y person dan sylw”) nad yw fel arfer yn aelod o aelwyd y ceisydd ond y gofelir amdano dros dro gan y ceisydd, gan—

(i)

awdurdod lleol, ond gan eithrio taliadau o fudd-dal tai a wneir mewn perthynas â’r person dan sylw;

(ii)

sefydliad gwirfoddol;

(iii)

y person dan sylw yn unol ag adran 26(3A) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948137;

(iv)

Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu grŵp comisiynu clinigol a sefydlwyd o dan adran 14D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006138; neu

(v)

Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd gan orchymyn a wnaed o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006139;

(e)

unrhyw ddyfarniad chwaraeon.