Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

ATODLEN 1LL+CPenderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: pensiynwyr

RHAN 4LL+CIncwm a chyfalaf at ddibenion cyfrifo cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, a swm unrhyw ostyngiad: pensiynwyr

PENNOD 3LL+CIncwm: pensiynwyr eraill

Enillion enillwyr hunangyflogedig: pensiynwyrLL+C

15.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ystyr “enillion” (“earnings”), yn achos cyflogaeth fel enillydd hunangyflogedig sy’n bensiynwr, yw incwm gros y gyflogaeth.

(2Nid yw “enillion” yn achos cyflogaeth fel enillydd hunangyflogedig yn cynnwys y canlynol—

(a)pan fo ceisydd yn meddiannu annedd fel ei gartref, a’r ceisydd, yn yr annedd honno, yn darparu prydau bwyd a llety y telir amdanynt, y taliadau hynny;

(b)unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol i geisydd—

(i)y lletyir person gydag ef yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 22C neu 23(2)(a) o Ddeddf Plant 1989(1) (darparu llety a chynhaliaeth ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal ganddynt) neu, yn ôl fel y digwydd, adran 26(1) o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(2); neu

(ii)y mae awdurdod lleol yn maethu plentyn gydag ef o dan Reoliadau Plant sy’n Derbyn Gofal (Yr Alban) 2009(3) neu sy’n ofalwr-berthynas yn yr ystyr a roddir i “kinship carer” o dan y Rheoliadau hynny;

(c)unrhyw daliad a wneir gan sefydliad gwirfoddol yn unol ag adran 59(1)(a) o Ddeddf Plant 1989 (darparu llety gan sefydliadau gwirfoddol);

(d)unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd ar gyfer person (“y person dan sylw”) nad yw fel arfer yn aelod o aelwyd y ceisydd ond y gofelir amdano dros dro gan y ceisydd, gan—

(i)awdurdod lleol, ond gan eithrio taliadau o fudd-dal tai a wneir mewn perthynas â’r person dan sylw;

(ii)sefydliad gwirfoddol;

(iii)y person dan sylw yn unol ag adran 26(3A) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(4);

(iv)Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu grŵp comisiynu clinigol a sefydlwyd o dan adran 14D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(5); neu

(v)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd gan orchymyn a wnaed o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(6);

(e)unrhyw ddyfarniad chwaraeon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

(1)

1989 p.41; yn lle adran 23 rhoddwyd adrannau 22A i 22F gan adran 8(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23). Mae adran 22C mewn grym yn Lloegr, ond adran 22C(11) yn unig sydd mewn grym yng Nghymru.

(2)

1995 p.36; diwygiwyd adran 26 gan baragraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007 (dsa 4).

(4)

1948 p.29; mewnosodwyd adran 26(3A) gan adran 42(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19).

(5)

2006 p.41. Sefydlwyd y Bwrdd Comisiynu o dan adran 1H o’r Ddeddf honno (a fewnosodwyd gan adran 9 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p.7)); mewnosodwyd adran 14D gan adran 25 o Ddeddf 2012.