Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

Uchafswm y gostyngiad treth gyngor o dan gynllun awdurdod: pensiynwyr

2.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (4), uchafswm gostyngiad treth gyngor person mewn perthynas â diwrnod yw 100 y cant o’r swm A/B, os—

(a)A yw’r swm a bennir gan yr awdurdod fel y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol berthnasol mewn perthynas â’r annedd y mae’r person yn preswylio ynddi ac y mae’r person yn atebol amdano, yn ddarostyngedig i unrhyw ddisgownt a allai fod yn briodol i’r annedd honno o dan Ddeddf 1992; a

(b)B yw nifer y diwrnodau yn y flwyddyn ariannol honno,

llai unrhyw ddidyniadau mewn perthynas ag annibynyddion sydd i’w gwneud o dan baragraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr).

(2Wrth gyfrifo uchafswm gostyngiad treth gyngor person o dan gynllun awdurdod, rhaid cymryd i ystyriaeth unrhyw ostyngiad yn y swm y mae’r person hwnnw’n atebol i’w dalu mewn perthynas â’r dreth gyngor a wnaed o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad yn Neddf 1992, neu ddeddfiad a wnaed o dan y Ddeddf honno (ac eithrio gostyngiad o dan gynllun awdurdod).

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), pan fo ceisydd yn atebol ar y cyd ac yn unigol am dreth gyngor mewn perthynas ag annedd y mae’r ceisydd yn preswylio ynddi ar y cyd ag un neu ragor o bersonau eraill, wrth benderfynu’r uchafswm gostyngiad treth gyngor yn achos y ceisydd yn unol ag is-baragraff (1), rhaid rhannu’r swm A gyda nifer y personau sy’n atebol ar y cyd ac yn unigol am y dreth honno.

(4Pan fo ceisydd yn atebol ar y cyd ac yn unigol am dreth gyngor mewn perthynas ag annedd gyda phartner yn unig, nid yw is-baragraff (3) yn gymwys yn achos y ceisydd hwnnw.

(5Nid yw’r cyfeiriad yn is-baragraff (3) at berson y mae ceisydd yn atebol ar y cyd ag ef ac yn unigol am dreth gyngor yn cynnwys myfyriwr y mae paragraff 3 o Atodlen 11 (myfyrwyr a eithrir o hawlogaeth i ostyngiad o dan gynllun awdurdod) yn gymwys iddo.

(6Yn y paragraff hwn, ystyr “blwyddyn ariannol berthnasol” (“relevant financial year”), mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod penodol, yw’r flwyddyn ariannol y mae’r diwrnod dan sylw’n digwydd ynddi.