ATODLEN 1Penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: pensiynwyr
RHAN 4Incwm a chyfalaf at ddibenion cyfrifo cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, a swm unrhyw ostyngiad: pensiynwyr
PENNOD 3Incwm: pensiynwyr eraill
Cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig
24.
(1)
Rhaid cyfrifo’r swm sydd i’w ddidynnu mewn perthynas â threth incwm o dan baragraff 23(1)(b)(i), (2)(b)(i) neu (8)(a)(i) (cyfrifo elw net enillwyr hunangyflogedig)—
(a)
ar sail swm yr incwm trethadwy, a
(b)
(2)
Ond, os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid cyfrifo’r enillion y cymhwysir y gyfradd dreth sylfaenol iddynt a swm y rhyddhadau personol sy’n ddidynadwy o dan y paragraff hwn ar sail pro rata.
(3)
Y swm sydd i’w ddidynnu mewn perthynas â chyfraniadau nawdd cymdeithasol o dan baragraff 23(1)(b)(i), (2)(b)(ii) neu (8)(a)(ii) yw cyfanswm y canlynol—
(a)
swm y cyfraniadau Dosbarth 2 sy’n daladwy o dan adran 11(1) o DCBNC neu, yn ôl fel y digwydd, adran 11(3) o DCBNC ar y gyfradd sy’n gymwys i’r cyfnod asesu ac eithrio pan fo incwm trethadwy’r ceisydd yn llai na’r swm a bennir yn adran 11(4) o’r Ddeddf honno (eithriad enillion isel) ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n gymwys i’r cyfnod asesu; ond os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid lleihau’r swm a bennir ar gyfer y flwyddyn dreth honno pro rata; a
(b)
swm y cyfraniadau Dosbarth 4 (os oes rhai) a fyddai’n daladwy o dan adran 15 o DCBNC (cyfraniadau Dosbarth 4 sy’n adenilladwy o dan y Deddfau Treth Incwm) ar y gyfradd ganrannol sy’n gymwys i’r cyfnod asesu ar gymaint o’r incwm trethadwy ag sydd uwchlaw’r terfyn isaf, ond nid uwchlaw’r terfyn uchaf o elwau a chynyddiadau cymwys ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n gymwys i’r cyfnod asesu; ond os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid lleihau’r terfynau hynny pro rata.
(4)
Yn y paragraff hwn ystyr “incwm trethadwy” (“chargeable income”) yw—
(a)
ac eithrio pan fo paragraff (b) yn gymwys, yr enillion sy’n deillio o gyflogaeth llai unrhyw dreuliau a ddidynnwyd o dan baragraff 23(3)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, paragraff 23(4);
(b)
yn achos cyflogaeth fel gwarchodwr plant, un rhan o dair o enillion y gyflogaeth honno.