Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 09/01/2020.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
29.—(1) Pan drinnir ceisydd sy’n bensiynwr fel pe bai’n meddu cyfalaf o dan baragraff 28(1) (cyfalaf tybiannol), rhaid lleihau’r swm y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu—
(a)yn achos wythnos sy’n dilyn—
(i)yr wythnos berthnasol y bodlonir mewn perthynas â hi yr amodau a bennir yn is-baragraff (2); neu
(ii)wythnos sy’n dilyn yr wythnos berthnasol honno ac yn bodloni’r amodau hynny,
o swm sydd i’w benderfynu o dan is-baragraff (3);
(b)yn achos wythnos nad yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys iddi, ond pan fo—
(i)yr wythnos honno’n wythnos sy’n dilyn yr wythnos berthnasol; a
(ii)yr wythnos berthnasol honno’n wythnos y bodlonir ynddi’r amod yn is-baragraff (4),
o swm sydd i’w benderfynu o dan is-baragraff (5).
(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i wythnos ostyngiad pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amodau canlynol—
(a)bod y ceisydd yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor o dan gynllun awdurdod; a
(b)oni bai am baragraff 28(1), byddai’r ceisydd wedi cael gostyngiad mwy yn y dreth gyngor o dan gynllun awdurdod yn yr wythnos honno.
(3) Mewn achos y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, rhaid i swm y gostyngiad yn swm y cyfalaf y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu at ddibenion is-baragraff (1)(a) fod yn hafal i swm cyfanredol y canlynol—
(a)swm sy’n hafal i’r swm ychwanegol o ostyngiad yn y dreth gyngor, y cyfeirir ato yn is-baragraff (2)(b);
(b)os yw’r ceisydd wedi hawlio credyd pensiwn y wladwriaeth yn ogystal, swm unrhyw gredyd pensiwn y wladwriaeth neu unrhyw swm ychwanegol o gredyd pensiwn y wladwriaeth y byddai’r ceisydd wedi bod â hawl i’w gael mewn perthynas â’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 21(1) o Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(1) (cyfalaf tybiannol);
(c)os yw’r ceisydd wedi hawlio budd-dal tai yn ogystal, swm unrhyw fudd-dal tai neu unrhyw swm ychwanegol o fudd-dal tai y byddai’r ceisydd wedi bod â hawl i’w gael mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 47(1) o Reoliadau Budd-dal Tai (Personau a gyrhaeddodd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006(2) (cyfalaf tybiannol);
(d)os yw’r ceisydd wedi hawlio lwfans ceisio gwaith yn ogystal, swm unrhyw lwfans ceisio gwaith ar sail incwm y byddai’r ceisydd wedi bod â hawl i’w gael mewn perthynas â’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 113 o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996(3) (cyfalaf tybiannol); ac
(e)os yw’r ceisydd wedi hawlio lwfans cyflogaeth a chymorth yn ogystal, swm unrhyw lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm y byddai’r ceisydd wedi bod â hawl i’w gael mewn perthynas â’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 115 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008(4) (cyfalaf tybiannol).
(4) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (7), at ddibenion is-baragraff (1)(b) yr amod yw fod y ceisydd yn bensiynwr ac y byddai hawl ganddo i gael gostyngiad yn y dreth gyngor o dan gynllun awdurdod yn yr wythnos berthnasol oni bai am baragraff 28(1).
(5) Mewn achos o’r fath, mae swm y gostyngiad yn swm y cyfalaf y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu at ddibenion is-baragraff (1)(b) yn hafal i swm cyfanredol y canlynol—
(a)swm y gostyngiad mewn treth gyngor y byddai hawl gan y ceisydd i’w gael yn yr wythnos berthnasol oni bai am baragraff 28(1);
(b)os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 21 o Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002, i gael credyd pensiwn y wladwriaeth mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, o fewn yr ystyr a roddir i “benefit week” yn rheoliad 1(2) o’r Rheoliadau hynny (dehongli), sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael;
(c)os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 47(1) o Reoliadau Budd-dal Tai (Personau a gyrhaeddodd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006, i gael budd-dal tai neu swm ychwanegol o fudd-dal tai mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm sy’n hafal i—
(i)mewn achos pan nad oes budd-dal tai yn daladwy, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael; neu
(ii)mewn unrhyw achos arall, y swm sy’n hafal i’r swm ychwanegol o fudd-dal tai y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael;
(d)os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 113 o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996, i gael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, o fewn yr ystyr a roddir i “benefit week” yn rheoliad 1(3) o’r Rheoliadau hynny (dehongli), sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael; ac
(e)os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 115 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008, i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, o fewn yr ystyr a roddir i “benefit week” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau hynny (dehongli), sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael.
(6) Ond os yw’r swm a grybwyllir ym mharagraff (a), (b), (c), (d) neu (e) o is-baragraff (5) (“y swm perthnasol”) mewn perthynas â rhan-wythnos, rhaid penderfynu’r swm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan y paragraff hwnnw drwy—
(a)rhannu’r swm perthnasol gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y rhan-wythnos honno, a
(b)lluosi canlyniad y cyfrifiad hwnnw gyda 7.
(7) Rhaid ailbenderfynu’r swm a benderfynwyd o dan is-baragraff (5), o dan yr is-baragraff hwnnw, os yw’r ceisydd yn gwneud cais pellach am ostyngiad yn y dreth gyngor a’r amodau yn is-baragraff (8) wedi eu bodloni, ac mewn achos o’r fath—
(a)mae paragraffau (a) i (e) o is-baragraff (5) yn gymwys fel pe rhoddid y geiriau “wythnos ddilynol berthnasol” yn lle’r geiriau “wythnos berthnasol”; a
(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (9), mae’r swm fel y’i hailbenderfynwyd yn cael effaith o’r wythnos gyntaf sy’n dilyn yr wythnos ddilynol berthnasol sydd dan sylw.
(8) Yr amodau yw—
(a)y gwneir cais pellach 26 neu ragor o wythnosau ar ôl—
(i)y dyddiad y gwnaeth y ceisydd y cais am ostyngiad yn y dreth gyngor y triniwyd y ceisydd gyntaf mewn perthynas ag ef, fel pe bai’n meddu’r cyfalaf dan sylw o dan baragraff 28(1);
(ii)mewn achos pan wnaed o leiaf un ailbenderfyniad yn unol ag is-baragraff (7), y dyddiad y gwnaeth y ceisydd gais ddiwethaf am ostyngiad yn y dreth gyngor a arweiniodd at ailbenderfynu’r swm wythnosol, neu
(iii)y dyddiad y peidiodd ddiwethaf hawl y ceisydd i gael gostyngiad yn y dreth gyngor o dan gynllun yr awdurdod,
pa un bynnag ddigwyddodd ddiwethaf; a
(b)y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i gael gostyngiad yn y dreth gyngor o dan gynllun awdurdod, oni bai am baragraff 28(1).
(9) Rhaid i’r swm a ailbenderfynir yn unol ag is-baragraff (7) beidio â chael effaith os yw’n llai na’r swm a oedd yn gymwys yn yr achos hwnnw yn union cyn ailbenderfynu ac mewn achos o’r fath rhaid i’r swm uchaf barhau i gael effaith.
(10) At ddibenion y paragraff hwn—
ystyr “rhan-wythnos” (“part-week”) yw—
mewn perthynas â swm a grybwyllir yn is-baragraff (5)(a), yw cyfnod sy’n llai nag wythnos ac y caniateir gostyngiad yn y dreth gyngor ar ei gyfer o dan gynllun awdurdod;
mewn perthynas â swm a grybwyllir yn is-baragraff (5)(b), yw cyfnod sy’n llai nag wythnos ac y mae budd-dal tai yn daladwy ar ei gyfer;
mewn perthynas â swm a grybwyllir yn is-baragraff (5)(c), (d) neu (e) yw—
cyfnod o lai nag wythnos, sydd y cyfan o’r cyfnod y mae cymhorthdal incwm, neu, yn ôl fel y digwydd, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, yn daladwy ar ei gyfer; a
unrhyw gyfnod arall o lai nag wythnos y mae’n daladwy ar ei gyfer;
ystyr “wythnos berthnasol” (“relevant week”) yw’r wythnos ostyngiad neu’r rhan-wythnos pan gymerwyd i ystyriaeth y cyfalaf dan sylw, yr amddifadodd y ceisydd ei hunan ohono o fewn ystyr paragraff 28(1)—
am y tro cyntaf, at y diben o benderfynu hawlogaeth y ceisydd i ostyngiad o dan gynllun awdurdod; neu
ar achlysur dilynol at y diben o benderfynu neu ailbenderfynu hawlogaeth y ceisydd i ostyngiad ar yr achlysur dilynol hwnnw, a phan barodd y penderfyniad neu’r ailbenderfyniad hwnnw fod y ceisydd naill ai’n dechrau cael neu’n peidio â chael gostyngiad o dan gynllun awdurdod;
ac os pennir mwy nag un wythnos ostyngiad drwy gyfeirio at baragraffau (a) a (b) o’r diffiniad hwn, y ddiweddaraf neu’r ddiweddarach o’r cyfryw wythnosau gostyngiad neu, yn ôl fel y digwydd, y ddiweddaraf neu’r ddiweddarach o’r cyfryw ran-wythnosau, yw’r wythnos berthnasol;
ystyr “wythnos ddilynol berthnasol” (“relevant subsequent week”) yw’r wythnos ostyngiad neu’r rhan-wythnos sy’n cynnwys y diwrnod pan wnaed y cais pellach, neu, os gwnaed mwy nag un cais pellach, pan wnaed y cais olaf o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: