ATODLEN 1Penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: pensiynwyr
RHAN 5Gostyngiadau estynedig: pensiynwyr
Parhad y cyfnod gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): pensiynwyr
33.
(1)
Pan fo gan geisydd hawl i gael gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys), mae’r cyfnod gostyngiad estynedig yn cychwyn ar y diwrnod sy’n dilyn yn union ar ôl y diwrnod y daeth hawl y ceisydd, neu bartner y ceisydd, i gael budd-dal cyfrannol cymwys i ben.
(2)
Mae’r cyfnod gostyngiad estynedig yn dod i ben—
(a)
ar ddiwedd cyfnod o bedair wythnos; neu
(b)
ar y dyddiad pan nad yw’r ceisydd sy’n cael y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) yn atebol am dreth gyngor, os yw hynny’n digwydd gyntaf.