7. Yn achos ceisydd sy’n bensiynwr ac yn cael credyd gwarant, neu geisydd y mae’i bartner yn cael credyd gwarant, rhaid diystyru’r cyfan o gyfalaf ac incwm y ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
8.—(1) Wrth benderfynu incwm a chyfalaf ceisydd sy’n bensiynwr ac y mae ganddo, neu y mae gan ei bartner, ddyfarniad o gredyd pensiwn y wladwriaeth sy’n cynnwys y credyd cynilion yn unig, rhaid i awdurdod, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn, ddefnyddio’r cyfrifiad neu’r amcangyfrif o incwm a chyfalaf y ceisydd neu, yn ôl fel y digwydd, incwm a chyfalaf partner y ceisydd, a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben o benderfynu’r dyfarniad o gredyd pensiwn y wladwriaeth.
(2) Os yw’r cyfrifiad neu’r amcangyfrif a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn cynnwys swm a gymerwyd i ystyriaeth yn y penderfyniad hwnnw ar gyfer incwm net, ni chaiff yr awdurdod addasu’r swm hwnnw ac eithrio i’r graddau y mae’n angenrheidiol er mwyn cymryd i ystyriaeth—
(a)swm unrhyw gredyd cynilion sy’n daladwy;
(b)mewn perthynas ag unrhyw blant dibynnol y ceisydd, costau gofal plant a gymerir i ystyriaeth o dan baragraff 18 (cyfrifo incwm ar sail wythnosol);
(c)y swm uchaf a ddiystyrir o dan gynllun awdurdod mewn perthynas ag—
(i)enillion unig riant; neu
(ii)taliadau cynnal, boed o dan orchymyn llys ai peidio, a wneir gan neu sy’n ddyledus gan—
(aa)partner blaenorol y ceisydd neu bartner blaenorol partner y ceisydd; neu
(bb)rhiant plentyn neu berson ifanc pan fo’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw’n aelod o deulu’r ceisydd, ac eithrio pan y ceisydd neu bartner y ceisydd yw’r rhiant hwnnw;
(d)unrhyw swm sydd i’w ddiystyru yn rhinwedd paragraff 10(1) o Atodlen 3 (symiau sydd i’w diystyru o enillion ceisydd);
(e)incwm a chyfalaf unrhyw bartner y ceisydd a drinnir fel aelod o aelwyd y ceisydd o dan reoliad 8, i’r graddau nas cymerir i ystyriaeth wrth benderfynu incwm net y person sy’n hawlio credyd pensiwn y wladwriaeth;
(f)paragraff 6 (amgylchiadau pan fo cyfalaf ac incwm annibynnydd i gael eu trin fel eiddo i’r ceisydd), os yw’r awdurdod yn penderfynu bod y ddarpariaeth yn gymwys yn achos y ceisydd;
(g)pa bynnag ostyngiad pellach (os oes un) a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod o dan adran 13A(1)(c) o Ddeddf 1992(1);
(h)unrhyw swm sydd i’w ddiystyru yn rhinwedd paragraff 6 o Atodlen 3 (symiau sydd i’w diystyru o incwm ceisydd: pensiynwyr).
(3) Nid yw paragraffau 10 i 30 o’r Atodlen hon yn gymwys i swm yr incwm net sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-baragraff (1), ond maent yn gymwys (i’r graddau y maent yn berthnasol) at y diben o benderfynu unrhyw addasiadau yn y swm hwnnw a wneir gan yr awdurdod o dan is-baragraff (2).
(4) Pan fo is-baragraff (5) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod gyfrifo cyfalaf y ceisydd yn unol â pharagraffau 25 i 30 (cyfrifo cyfalaf: pensiynwyr).
(5) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—
(a)pan fo’r Ysgrifennydd Gwladol yn hysbysu’r awdurdod y penderfynwyd bod cyfalaf y ceisydd yn £16,000 neu’n llai, neu pan fo’r awdurdod yn penderfynu bod cyfalaf y ceisydd yn £16,000 neu’n llai;
(b)pan fo cyfalaf y ceisydd, ar ôl gwneud y penderfyniad hwnnw, yn codi i fwy nag £16,000; ac
(c)y cynydd yn digwydd pan fo cyfnod incwm asesedig mewn grym, yn yr ystyr a roddir i “assessed income period” gan adrannau 6 a 9 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(2).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
Amnewidiwyd adran 13A gan adran 10 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p.17).