Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

ATODLEN 1LL+CPenderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: pensiynwyr

RHAN 5LL+CGostyngiadau estynedig: pensiynwyr

Gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): pensiynwyrLL+C

32.—(1Ac eithrio yn achos ceisydd sy’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth, bydd gan geisydd sydd â hawl i ostyngiad o dan gynllun awdurdod (yn rhinwedd perthyn i ddosbarth A neu B) yr hawl i gael gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys)—

(a)os oedd hawl gan y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael budd-dal cyfrannol cymwys;

(b)os peidiodd yr hawlogaeth i gael budd-dal cyfrannol cymwys oherwydd bod y ceisydd neu bartner y ceisydd—

(i)wedi cychwyn cyflogaeth fel enillydd cyflogedig neu hunangyflogedig;

(ii)wedi cynyddu eu henillion o gyflogaeth o’r fath; neu

(iii)wedi cynyddu nifer yr oriau a weithid mewn cyflogaeth o’r fath,

a disgwylir i’r gyflogaeth honno neu, yn ôl fel y digwydd, y cynnydd hwnnw yn yr enillion, neu’r cynnydd hwnnw yn nifer yr oriau, barhau am bum wythnos neu ragor;

(c)os oedd y ceisydd neu bartner y ceisydd wedi bod â hawl i gael, ac wedi bod yn cael, budd-dal cyfrannol cymwys neu gyfuniad o fudd-daliadau cyfrannol cymwys am gyfnod di-dor o 26 wythnos o leiaf, cyn y diwrnod y peidiodd yr hawlogaeth i gael budd-dal cyfrannol cymwys; a

(d)nad oedd hawl gan y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael, ac nad oedd yn cael, budd-dal cymwys ar sail incwm, yn yr wythnos ostyngiad olaf pan oedd hawl gan y ceisydd, neu bartner y ceisydd i gael budd-dal cyfrannol cymwys.

(2Rhaid trin ceisydd fel pe bai hawl ganddo i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod yn rhinwedd perthyn i ddosbarth A neu B—

(a)os peidiodd hawl y ceisydd i gael gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod oherwydd bod ceisydd wedi gadael yr annedd yr oedd y ceisydd yn preswylio ynddi;

(b)os oedd y diwrnod y gadawodd y ceisydd yr annedd naill ai yn yr wythnos y peidiodd ei hawlogaeth i fudd-dal cyfrannol cymwys, neu yn yr wythnos flaenorol; ac

(c)os peidiodd yr hawlogaeth i fudd-dal cyfrannol cymwys mewn unrhyw un o’r amgylchiadau a restrir yn is-baragraff (1)(b).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Parhad y cyfnod gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): pensiynwyrLL+C

33.—(1Pan fo gan geisydd hawl i gael gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys), mae’r cyfnod gostyngiad estynedig yn cychwyn ar y diwrnod sy’n dilyn yn union ar ôl y diwrnod y daeth hawl y ceisydd, neu bartner y ceisydd, i gael budd-dal cyfrannol cymwys i ben.

(2Mae’r cyfnod gostyngiad estynedig yn dod i ben—

(a)ar ddiwedd cyfnod o bedair wythnos; neu

(b)ar y dyddiad pan nad yw’r ceisydd sy’n cael y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) yn atebol am dreth gyngor, os yw hynny’n digwydd gyntaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Swm y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): pensiynwyrLL+C

34.—(1Ar gyfer unrhyw wythnos yn ystod y cyfnod gostyngiad estynedig, swm y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) y mae hawl gan y ceisydd i’w gael yw’r mwyaf o’r canlynol—

(a)swm y gostyngiad treth gyngor yr oedd hawl gan y ceisydd i’w gael yn rhinwedd perthyn i ddosbarth A neu B yn yr wythnos ostyngiad olaf cyn i hawl y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael budd-dal cyfrannol cymwys ddod i ben;

(b)swm y gostyngiad o dan gynllun awdurdod y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael yn rhinwedd perthyn i ddosbarth A neu B ar gyfer unrhyw wythnos ostyngiad yn ystod y cyfnod gostyngiad estynedig, pe na bai paragraff 32 (gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): pensiynwyr) yn gymwys i’r ceisydd; neu

(c)swm y gostyngiad o dan gynllun awdurdod y byddai hawl wedi bod gan bartner y ceisydd i’w gael yn rhinwedd perthyn i ddosbarth A neu B, pe na bai paragraff 32 yn gymwys i’r ceisydd.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys yn achos symudwr.

(3Pan fo ceisydd yn cael gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) o dan y paragraff hwn, a bod partner y ceisydd yn gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, rhaid i awdurdod beidio â dyfarnu gostyngiad yn unol â’r cais hwnnw yn ystod y cyfnod gostyngiad estynedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) – symudwyr: pensiynwyrLL+C

35.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)i symudwr(1); a

(b)o’r dydd Llun sy’n dilyn diwrnod y symud.

(2Swm y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) a ddyfernir, o’r dydd Llun pan ddaw’r paragraff hwn yn gymwys tan ddiwedd y cyfnod gostyngiad estynedig, yw swm y gostyngiad a ddyfarnwyd i’r symudwr o dan gynllun yr awdurdod (“yr awdurdod cyntaf”) ar gyfer yr wythnos ostyngiad olaf cyn y daeth hawl y symudwr, neu bartner y symudwr, i gael budd-dal cyfrannol cymwys i ben.

(3Os yw atebolrwydd symudwr i dalu treth gyngor mewn perthynas â’r annedd newydd yn atebolrwydd i ail awdurdod, caiff y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) gymryd ffurf taliad gan yr awdurdod cyntaf i—

(a)yr ail awdurdod; neu

(b)yn uniongyrchol i’r symudwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 35 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Y berthynas rhwng gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) a hawlogaeth i ostyngiad treth gyngor yn rhinwedd perthyn i ddosbarth A neu B: pensiynwyrLL+C

36.—(1Os byddai gostyngiad ceisydd o dan gynllun awdurdod wedi dod i ben pan beidiodd hawl y ceisydd i fudd-dal cyfrannol cymwys yn yr amgylchiadau a restrir ym mharagraff 32(1)(b), ni fydd y gostyngiad hwnnw’n peidio â chael effaith tan ddiwedd y cyfnod gostyngiad estynedig.

(2Ni fydd Rhan 6 (cyfnod yr hawlogaeth a newid yn yr amgylchiadau) yn gymwys i unrhyw ostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) sy’n daladwy yn unol â pharagraff 34(1)(a) neu baragraff 35 (swm gostyngiad estynedig – symudwyr: pensiynwyr).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 36 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Gostyngiadau parhaus pan hawlir credyd pensiwn y wladwriaeth: pensiynwyrLL+C

37.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)hawl gan y ceisydd i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod;

(b)is-baragraff (2) wedi ei fodloni; ac

(c)naill ai—

(i)y ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth neu, os parhaodd hawlogaeth y ceisydd i lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm y tu hwnt i’r oedran hwnnw, wedi cyrraedd 65 mlwydd oed; neu

(ii)partner y ceisydd wedi hawlio credyd pensiwn y wladwriaeth mewn gwirionedd.

(2Ni fodlonir yr is-baragraff hwn ac eithrio pan fo’r Ysgrifennydd Gwladol wedi ardystio wrth yr awdurdod fod partner y ceisydd wedi hawlio credyd pensiwn y wladwriaeth mewn gwirionedd, neu fod—

(a)dyfarniad y ceisydd o—

(i)cymhorthdal incwm wedi terfynu oherwydd bod y ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth; neu

(ii)lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm wedi terfynu oherwydd bod y ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth neu 65 mlwydd oed; a

(b)y ceisydd wedi hawlio neu’n cael ei drin fel pe bai wedi hawlio neu ei bod yn ofynnol i’r ceisydd wneud hawliad am gredyd pensiwn y wladwriaeth.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), mewn achos pan fo’r paragraff hwn yn gymwys rhaid parhau i ddyfarnu gostyngiad o dan gynllun awdurdod am y cyfnod o 4 wythnos sy’n cychwyn ar y diwrnod sy’n dilyn y diwrnod y peidiodd hawlogaeth y ceisydd i gael cymhorthdal incwm neu, yn ôl fel y digwydd, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, os yw’r ceisydd, a chyhyd ag y bo’r ceisydd, fel arall yn bodloni’r amodau ar gyfer hawlogaeth i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod.

(4Pan ddyfernir gostyngiad o dan gynllun awdurdod am y cyfnod o 4 wythnos yn unol ag is-baragraff (3) uchod, a diwrnod olaf y cyfnod hwnnw’n digwydd ar ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod olaf wythnos ostyngiad, yna rhaid parhau i ddyfarnu’r gostyngiad o dan y cynllun tan ddiwedd yr wythnos ostyngiad y mae diwrnod olaf y cyfnod hwnnw’n digwydd ynddi.

(5Drwy gydol y cyfnod o 4 wythnos a bennir yn is-baragraff (3) ac unrhyw gyfnod pellach a bennir yn is-baragraff (4)—

(a)rhaid diystyru’r cyfan o incwm a chyfalaf y ceisydd;

(b)uchafswm gostyngiad treth gyngor y ceisydd fydd yr hyn a oedd yn gymwys yn achos y ceisydd yn union cyn dechrau’r cyfnod hwnnw.

(6Rhaid cyfrifo’r uchafswm gostyngiad treth gyngor yn unol â pharagraff 2(1) os, er y dyddiad pan gyfrifwyd ef ddiwethaf—

(a)bu cynnydd yn atebolrwydd treth gyngor y ceisydd; neu

(b)daeth newid yn ddyladwy yn y didyniad o dan baragraff 3 (didyniadau annibynyddion).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 37 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Gostyngiadau estynedig: symudwyr i mewn i ardal awdurdodLL+C

38.—(1Pan fo—

(a)cais wedi ei wneud i awdurdod am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, a

(b)y ceisydd, neu bartner y ceisydd, yn cael gostyngiad estynedig gan—

(i)awdurdod bilio arall yng Nghymru;

(ii)awdurdod bilio yn Lloegr;

(iii)awdurdod lleol yn yr Alban, neu

(iv)awdurdod lleol yng Ngogledd Iwerddon,

rhaid i’r awdurdod bilio leihau unrhyw ostyngiad y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan ei gynllun, o swm y gostyngiad estynedig hwnnw.

(2At ddibenion y paragraff hwn mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” yn adran 1 o Ddeddf 1992.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 38 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

(1)

Gweler hefyd baragraff 38 mewn perthynas â phersonau sy’n symud i ardal un awdurdod o ardal awdurdod arall.