ATODLEN 10Diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr
1.
Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw ofal plant, teithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Peilot Gweithio Am Eich Budd-dal, ond am 52 wythnos yn unig, sy’n cychwyn gyda dyddiad cael y taliad.
2.
Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Gweithgaredd Gwaith Gorfodol, ond am 52 wythnos yn unig, sy’n cychwyn gyda dyddiad cael y taliad.
F1(2A)
Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd mewn cynllun a ragnodir yn rheoliad 3 o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith (Cynlluniau i Gynorthwyo Personau i Gael Cyflogaeth) 2013 ond am 52 o wythnosau yn unig gan ddechrau gyda dyddiad derbyn y taliad.
3.
Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter, ond am 52 wythnos yn unig, sy’n cychwyn gyda dyddiad cael y taliad.
4.
Yr annedd ynghyd ag unrhyw garej, gardd ac adeiladau allanol, a feddiennir fel arfer gan y ceisydd fel cartref i’r ceisydd, gan gynnwys unrhyw fangre nas meddiennir felly ac y mae’n anymarferol neu’n afresymol ei gwerthu ar wahân, ond, er gwaethaf paragraff 7 o Atodlen 6 (cyfrifo incwm a chyfalaf aelodau o deulu’r ceisydd ac o briodas amlbriod), un annedd yn unig y caniateir ei diystyru o dan y paragraff hwn.
5.
Unrhyw fangre a gaffaelwyd i’w meddiannu gan y ceisydd ac y mae’r ceisydd yn bwriadu ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd o fewn 26 wythnos ar ôl y dyddiad caffael neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gael meddiant a dechrau meddiannu’r fangre.
6.
Unrhyw swm sy’n briodoladwy’n uniongyrchol i dderbyniadau gwerthiant unrhyw fangre a feddiennid gynt gan y ceisydd fel cartref i’r ceisydd, ac sydd i’w ddefnyddio i brynu mangre arall y bwriedir ei meddiannu felly o fewn 26 wythnos ar ôl dyddiad y gwerthiant neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gwblhau’r pryniant.
7.
Unrhyw fangre a feddiennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol—
(a)
gan bartner neu berthynas ceisydd sengl neu unrhyw aelod o’r teulu fel cartref i’r person hwnnw pan fo’r person hwnnw wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth neu’n analluog;
(b)
gan gyn-bartner y ceisydd fel cartref i’r person hwnnw; ond nid yw’r ddarpariaeth hon yn gymwys os yw’r cyn-bartner yn berson y mae’r ceisydd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, neu y ffurfiodd y ceisydd bartneriaeth sifil ag ef, sydd bellach wedi ei diddymu.
8.
Pan fo ceisydd yn cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, y cyfan o gyfalaf y ceisydd.
9.
Pan fo’r ceisydd yn aelod o gwpl cyd-hawliad yn yr ystyr o “joint-claim couple” at ddibenion Deddf Ceiswyr Gwaith 1995 a phartner y ceisydd yn cael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, y cyfan o gyfalaf y ceisydd.
10.
Unrhyw fuddiant yn y dyfodol mewn eiddo o unrhyw fath, ac eithrio tir neu fangre a osodwyd gan y ceisydd o dan brydles neu denantiaeth sy’n parhau mewn grym, gan gynnwys is-brydles neu is-denantiaeth.
11.
(1)
Asedau unrhyw fusnes sy’n eiddo, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r ceisydd, pan fo’r ceisydd yn gweithredu fel enillydd hunangyflogedig at ddibenion y busnes hwnnw, neu, os yw’r ceisydd wedi peidio â gweithredu felly, am ba gyfnod bynnag sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i ganiatáu gwaredu unrhyw ased o’r fath.
(2)
Asedau unrhyw fusnes sy’n eiddo, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r ceisydd—
(a)
os nad yw’r ceisydd yn gweithredu fel enillydd hunangyflogedig yn y busnes hwnnw, oherwydd rhyw glefyd neu anabledd corfforol neu feddyliol; ond
(b)
bod y ceisydd yn bwriadu gweithredu, neu, yn ôl fel y digwydd, gweithredu drachefn, fel enillydd hunangyflogedig yn y busnes hwnnw cyn gynted ag y bo’n gwella neu’n alluog i weithredu neu weithredu drachefn yn y busnes hwnnw,
am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y gwneir y cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, neu y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud felly, neu, os yw’n afresymol disgwyl i’r ceisydd ddechrau gweithredu neu weithredu drachefn yn y busnes hwnnw o fewn y cyfnod hwnnw, am ba bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau, i alluogi’r ceisydd i ddechrau gweithredu felly neu weithredu felly drachefn.
(3)
Yn achos person sy’n cael cymorth o dan y llwybr hunangyflogaeth, yr asedau a gaffaelwyd gan y person hwnnw at y diben o sefydlu neu gyflawni’r gweithgaredd masnachol y cafwyd cymorth o’r fath mewn perthynas ag ef.
(4)
Yn achos person sydd wedi peidio ymgymryd â’r gweithgaredd masnachol y cafwyd cymorth mewn perthynas ag ef fel a bennir yn is-baragraff (3), yr asedau sy’n berthynol i’r gweithgaredd hwnnw am ba gyfnod bynnag sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i ganiatáu gwaredu unrhyw ased o’r fath.
12.
(1)
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw ôl-daliad, neu unrhyw daliad consesiynol a wnaed i ddigolledu am ôl-ddyled oherwydd methiant i dalu’r canlynol—
(a)
unrhyw daliad a bennir ym mharagraffau 11, 13 neu 14 o Atodlen 9;
(b)
budd-dal ar sail incwm o dan Ran 7 o DCBNC;
(c)
lwfans ceisio gwaith ar sail incwm;
(d)
(e)
credyd treth gwaith a chredyd treth plant;
(f)
lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwmF2;
F3(g)
credyd cynhwysol,
ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir yr ôl-daliad neu’r taliad consesiynol.
(2)
Mewn achos pan fo cyfanswm unrhyw ôl-daliadau ac, os yw’n briodol, unrhyw daliad consesiynol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) mewn perthynas ag un o’r taliadau penodedig, budd-daliadau neu lwfansau, yn £5,000 neu’n fwy (y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn ac yn is-baragraff (3) fel “y swm perthnasol”) ac—
(a)
(b)
y’i cafwyd gan y ceisydd yn llawn ar neu ar ôl 14 Hydref 2001,
bydd is-baragraff (1) yn cael effaith mewn perthynas ag ôl-daliad neu daliad consesiynol o’r fath naill ai am gyfnod o 52 wythnos o’r dyddiad y’i cafwyd, neu, os ceir y cyfan o’r swm perthnasol yn ystod cyfnod dyfarniad o ostyngiad o dan gynllun awdurdod, am weddill y cyfnod hwnnw os yw’r cyfnod hwnnw’n hwy.
(3)
At ddibenion is-baragraff (2), ystyr “cyfnod dyfarniad o ostyngiad o dan gynllun awdurdod” (“the period of an award of a reduction under an authority’s scheme”) yw—
(a)
y dyfarniad y cafwyd y swm perthnasol ynddo gyntaf (neu ran gyntaf y swm perthnasol os telir ef mewn mwy nag un rhandaliad); a
(b)
os dilynir y dyfarniad hwnnw gan un neu ragor o ddyfarniadau pellach, sy’n dechrau yn union wedi i’r dyfarniad blaenorol ddod i ben, neu sydd bob un yn dechrau yn union wedi i’r un blaenorol ddod i ben, y cyfryw ddyfarniad pellach, ar yr amod, ar gyfer y cyfryw ddyfarniad pellach, mai’r ceisydd—
(i)
yw’r person a gafodd y swm perthnasol; neu
(ii)
yw partner y person a gafodd y swm perthnasol, neu a oedd yn bartner y person hwnnw ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw.
13.
Unrhyw swm—
(a)
a delir i’r ceisydd o ganlyniad i ddifrodi neu i golli’r cartref neu unrhyw eiddo personol, ac a fwriedir ar gyfer ei atgyweirio neu’i amnewid; neu
(b)
a gaffaelwyd gan y ceisydd (boed ar ffurf benthyciad neu fel arall) yn benodol ar yr amod y’i defnyddir i wneud atgyweiriadau hanfodol neu welliant i’r cartref,
a ddefnyddir at y diben a fwriedir, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y’i talwyd neu’i caffaelwyd felly, neu am ba bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau ar gyfer cyflawni’r atgyweiriadau, yr amnewidiad neu’r gwelliant.
14.
Unrhyw swm—
(a)
(b)
a adneuwyd felly ac sydd i’w ddefnyddio i brynu cartref arall,
am gyfnod o 26 wythnos neu am ba bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gwblhau’r pryniant.
15.
Unrhyw feddiannau personol ac eithrio rhai a gaffaelwyd gan y ceisydd gyda’r bwriad o leihau ei gyfalaf er mwyn sicrhau hawl i ostyngiad o dan gynllun awdurdod, neu gynyddu swm y gostyngiad hwnnw.
16.
Gwerth yr hawl i gael unrhyw incwm o dan flwydd-dal neu werth ildio (os oes gwerth ildio) blwydd-dal o’r fath.
17.
Pan fo cyllid ymddiriedolaeth yn deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd, gwerth cronfa’r ymddiriedolaeth a gwerth yr hawl i gael unrhyw daliad o dan yr ymddiriedolaeth honno.
18.
(1)
Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd neu bartner y ceisydd o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd neu, yn ôl fel y digwydd, partner y ceisydd.
(2)
Ond—
(a)
mae is-baragraff (1) yn gymwys, yn unig, am y cyfnod o 52 wythnos sy’n cychwyn gyda’r diwrnod pan fo’r ceisydd yn cael gyntaf unrhyw daliad o ganlyniad i’r niwed personol hwnnw;
(b)
nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i unrhyw daliad dilynol a wneir i’r ceisydd o ganlyniad i’r niwed hwnnw (pa un a wneir y taliad gan yr un person ynteu berson arall);
(c)
bydd is-baragraff (1) yn peidio â bod yn gymwys i’r taliad, neu i unrhyw ran ohono, o’r diwrnod pan na fydd y ceisydd bellach yn ei feddu;
(d)
nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i unrhyw daliad gan ymddiriedolaeth pan fo cyllid yr ymddiriedolaeth yn deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd.
(3)
At ddibenion is-baragraff (2)(c), mae’r amgylchiadau pan nad yw ceisydd bellach yn meddu taliad neu ran ohono yn cynnwys amgylchiad pan fo ceisydd wedi defnyddio taliad neu ran ohono i brynu ased.
(4)
Rhaid dehongli cyfeiriadau yn is-baragraffau (2) a (3) at y ceisydd fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at bartner y ceisydd (pan fo’n gymwys).
19.
Gwerth yr hawl i gael unrhyw incwm o dan fuddiant am oes neu o dan rent am oes.
20.
Gwerth yr hawl i gael unrhyw incwm a ddiystyrir o dan baragraff 15 o Atodlen 8 neu baragraff 29 o Atodlen 9.
21.
Gwerth ildio unrhyw bolisi yswiriant bywyd.
22.
Pan fo unrhyw daliad o gyfalaf yn ddyladwy i’w dalu mewn rhandaliadau, gwerth yr hawl i gael y rhandaliadau sydd eto i’w talu.
23.
24.
(1)
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw daliad (neu ran o daliad) a wneir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 23C o Ddeddf Plant 1989 neu adran 29 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 (dyletswydd awdurdodau lleol o hyrwyddo lles plant a phwerau i roi cymorth ariannol i bersonau sydd neu a fu yn eu gofal) i berson (“A”), ac a drosglwyddir ymlaen gan A i’r ceisydd.
(2)
Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys ac eithrio pan fo A—
(a)
wedi bod gynt yng ngofal y ceisydd, a
(b)
yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn, ac
(c)
yn parhau i fyw gyda’r ceisydd.
25.
Unrhyw—
(a)
taliad cronfa gymdeithasol a wnaed yn unol â Rhan 8 o DCBNC (y gronfa gymdeithasol); neu
(b)
cymorth achlysurol.
26.
27.
Unrhyw gyfalaf sydd i gael ei drin fel incwm yn rhinwedd paragraff 18 o Atodlen 6 (cyfalaf a drinnir fel incwm) neu baragraff 9 o Atodlen 11 (trin benthyciadau myfyriwr).
28.
Pan wneir unrhyw daliad o gyfalaf mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi’r taliad hwnnw i sterling.
29.
(1)
Unrhyw daliad a wnaed o dan neu gan yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006), Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, neu Gronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain.
(2)
Unrhyw daliad gan neu ar ran person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac a wneir i, neu er budd—
(a)
partner neu gyn-bartner y person hwnnw nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrth y person hwnnw, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, neu a ffurfiodd bartneriaeth sifil gyda’r person hwnnw, nad yw wedi ei diddymu, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ei diddymu pan fu farw;
(b)
unrhyw blentyn sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac y sydd yn aelod o deulu’r ceisydd; neu
(c)
unrhyw berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac y sydd yn aelod o deulu’r ceisydd.
(3)
Unrhyw daliad gan neu ar ran partner neu gyn-bartner person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, ar yr amod nad yw’r partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw wedi ymwahanu neu ysgaru neu, os bu farw’r naill neu’r llall, nad oeddent wedi ymwahanu neu ysgaru, neu os ffurfiodd y partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw bartneriaeth sifil, nad yw’r bartneriaeth sifil honno wedi ei diddymu, neu os bu farw’r naill neu’r llall, nad oedd y bartneriaeth wedi ei diddymu ar adeg y farwolaeth, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac a wneir i, neu er budd—
(a)
y person sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys;
(b)
unrhyw blentyn sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac y sydd yn aelod o deulu’r ceisydd; neu
(c)
unrhyw berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac y sydd yn aelod o deulu’r ceisydd.
(4)
Unrhyw daliad gan berson sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), pan—
(a)
nad oes gan y person hwnnw bartner na chyn-bartner nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb y ffurfiodd bartneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd, neu a fu, yn aelod o deulu’r person hwnnw; a
(b)
gwneir y taliad naill ai—
(i)
i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu
(ii)
os yw’r person hwnnw, ar y dyddiad y gwneir y taliad, yn blentyn, person ifanc neu’n fyfyriwr nad yw wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oes ganddo riant neu lys-riant, i warcheidwad y plentyn neu’r person ifanc hwnnw neu warcheidwad y myfyriwr hwnnw,
ond hynny am y cyfnod, yn unig, o’r dyddiad y gwneir y taliad hyd at ddiwedd cyfnod o ddwy flynedd ar ôl marwolaeth y person hwnnw.
(5)
Unrhyw daliad allan o ystad person a oedd yn dioddef o haemoffilia neu a oedd yn berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), pan—
(a)
nad oedd gan y person hwnnw, ar ddyddiad ei farwolaeth (y dyddiad perthnasol) bartner na chyn-bartner nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb yr oedd wedi ffurfio partneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn neu berson ifanc a oedd, neu a oedd wedi bod, yn aelod o deulu’r person hwnnw; a
(b)
gwneir y taliad naill ai—
(i)
i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu
(ii)
os oedd y person hwnnw, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn, person ifanc neu’n fyfyriwr nad oedd wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oedd ganddo riant neu lys-riant, i warcheidwad y plentyn neu’r person ifanc hwnnw neu warcheidwad y myfyriwr hwnnw,
ond hynny am gyfnod, yn unig, o ddwy flynedd o’r dyddiad perthnasol.
(6)
Yn achos person y gwneir taliad, y cyfeirir ato yn y paragraff hwn, iddo neu er ei fudd, unrhyw adnodd cyfalaf sy’n deillio o unrhyw daliad o incwm neu gyfalaf a wneir o dan, neu sy’n deillio o, unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau.
(7)
At ddibenion is-baragraffau (2) i (6), rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at yr Ymddiriedolaethau fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, a Chronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain.
30.
(1)
Pan fo ceisydd wedi peidio â meddiannu’r hyn a oedd gynt yn annedd a feddiennid fel y cartref, yn dilyn ymwahaniad neu ysgariad y ceisydd oddi wrth ei bartner blaenorol, neu’n dilyn diddymu partneriaeth sifil rhwng y ceisydd a’i bartner blaenorol, yr annedd honno am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y peidiodd y ceisydd â meddiannu’r annedd neu, os meddiennir yr annedd fel cartref y partner blaenorol sydd yn unig riant, cyhyd ag y’i meddiennir felly.
(2)
Yn y paragraff hwn, mae “annedd” (“dwelling”) yn cynnwys unrhyw garej, gardd ac adeiladau allanol, a feddiennid gynt gan y ceisydd fel cartref i’r ceisydd, ac unrhyw fangre nas meddiennid felly, ond y byddai’n anymarferol neu’n afresymol ei gwerthu ar wahân, megis, yn benodol, yn yr Alban, unrhyw dir crofft y lleolir yr annedd arno.
31.
Unrhyw fangre pan fo’r ceisydd yn cymryd camau rhesymol i waredu’r fangre honno, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y cymerodd y ceisydd y camau cyntaf o’r fath neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau, i alluogi’r ceisydd i waredu’r fangre honno.
32.
Unrhyw fangre y mae’r ceisydd yn bwriadu ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd, ac y mae’r ceisydd yn cymryd camau i gael meddiant ohoni ac wedi ceisio cyngor cyfreithiol, neu wedi cychwyn achos cyfreithiol gyda’r bwriad o gael meddiant, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y ceisiodd y ceisydd gyntaf y cyfryw gyngor neu y cychwynnodd gyntaf achos o’r fath, pa un bynnag yw’r cynharaf, neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi’r ceisydd i gael meddiant a dechrau meddiannu’r fangre.
33.
Unrhyw fangre y bwriada’r ceisydd ei meddiannu fel cartref iddo ac y mae angen gwneud atgyweiriadau neu newidiadau hanfodol iddi, er mwyn iddi fod yn addas i’w meddiannu felly, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y mae’r ceisydd yn cymryd y camau gyntaf i gyflawni’r atgyweiriadau neu’r newidiadau hynny, neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n angenrheidiol er mwyn galluogi cyflawni’r atgyweiriadau neu’r newidiadau hynny.
34.
Unrhyw daliad a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ddigolledu am golli (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) yr hawlogaeth i gael budd-dal tai.
35.
Gwerth yr hawl i gael pensiwn galwedigaethol neu bersonol.
36.
Gwerth unrhyw gronfeydd a ddelir o dan gynllun pensiwn personol.
37.
Gwerth yr hawl i gael unrhyw rent, ac eithrio pan fo gan y ceisydd fuddiant atchweliadol yn yr eiddo y mae’r rhent yn ddyladwy amdano.
38.
Unrhyw daliad mewn nwyddau neu wasanaethau gan elusen neu o dan neu gan yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton neu’r Gronfa Byw’n Annibynnol (2006).
39.
40.
Unrhyw daliad o ganlyniad i ostyngiad o’r dreth gyngor o dan adran 13 o Ddeddf 1992, (gostyngiad atebolrwydd am dreth gyngor), ond am y cyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad.
41.
(a)
i brynu mangre y bwriedir ei meddiannu fel cartref i’r ceisydd; neu
(b)
i gyflawni atgyweiriadau neu newidiadau sy’n ofynnol er mwyn gwneud mangre’n addas i’w meddiannu fel cartref i’r ceisydd,
ond am y cyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y cafodd y ceisydd grant o’r fath, neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i alluogi cwblhau’r pryniant, yr atgyweirio neu’r newidiadau a galluogi’r ceisydd i ddechrau meddiannu’r fangre honno fel cartref i’r ceisydd.
42.
Unrhyw ôl-daliad o bensiwn atodol a ddiystyrir o dan baragraff 53 o Atodlen 9 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion) neu o unrhyw swm a ddiystyrir o dan baragraff 54 neu 55 o’r Atodlen honno, ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir yr ôl-daliad.
43.
(1)
Unrhyw daliad neu ad-daliad a wneir—
(a)
(b)
(c)
ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad neu’r ad-daliad.
(2)
Unrhyw daliad neu ad-daliad a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Gweinidogion yr Alban neu Weinidogion Cymru sy’n gyfatebol i daliad neu ad-daliad a grybwyllir yn is-baragraff (1), ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad neu’r ad-daliad.
44.
45.
Unrhyw daliad a wneir gan naill ai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder neu Weinidogion yr Alban o dan gynllun a sefydlwyd i gynorthwyo perthnasau a phersonau eraill i ymweld â phersonau a gedwir yn y ddalfa, ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad.
46.
47.
48.
(1)
Unrhyw swm o gyfalaf y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo ac—
(a)
(b)
na ellir ei waredu ac eithrio drwy orchymyn neu gyfarwyddyd unrhyw lys o’r fath; neu
(c)
pan fo’r person dan sylw o dan 18 mlwydd oed, na ellir ei waredu ac eithrio drwy orchymyn neu gyfarwyddyd, cyn bo’r person hwnnw’n cyrraedd 18 mlwydd oed.
(2)
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i swm o gyfalaf sy’n deillio o—
(a)
dyfarniad o iawndal am niwed personol i’r person hwnnw; neu
(b)
digollediad am farwolaeth un neu’r ddau riant pan fo’r person dan sylw o dan 18 mlwydd oed.
49.
(a)
dyfarniad o iawndal am niwed personol i’r person hwnnw; neu
(b)
digollediad am farwolaeth un neu’r ddau riant pan fo’r person dan sylw o dan 18 mlwydd oed.
50.
Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd fel deiliad Croes Fictoria neu Groes Siôr.
51.
Yn achos person sy’n cael, neu sydd wedi cael, cymorth o dan y llwybr hunangyflogaeth, unrhyw swm o gyfalaf a gaffaelir gan y person hwnnw at y diben o sefydlu neu gyflawni’r gweithgaredd masnachol y ceir neu y cafwyd cymorth o’r fath mewn perthynas ag ef ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y caffaelwyd y swm hwnnw.
52.
(1)
Unrhyw daliad o ddyfarniad chwaraeon am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y cafwyd y taliad hwnnw ac eithrio i’r graddau y’i gwnaed mewn perthynas ag un neu ragor o’r eitemau a bennir yn is-baragraff (2).
(2)
Yr eitemau a bennir at ddibenion is-baragraff (1) yw bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o deulu, unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd, neu unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu’r aelod hwnnw’n atebol amdanynt.
(3)
At ddibenion is-baragraff (2) nid yw “bwyd” (“food”) yn cynnwys fitaminau, mwynau neu atchwanegiadau dietegol arbennig eraill a fwriedir ar gyfer gwella perfformiad y person yn y gamp y gwnaed y dyfarniad mewn perthynas â hi.
53.
(1)
Unrhyw daliad—
(a)
ar ffurf lwfans cynhaliaeth addysg a wnaed yn unol ag—
(i)
(ii)
(iii)
(b)
cyfatebol i lwfans cynhaliaeth addysg o’r fath, a wnaed yn unol ag—
(i)
(ii)
rheoliadau a wnaed o dan adran 181 o’r Ddeddf honno; neu
(c)
yng Nghymru a Lloegr, ar ffurf cymorth ariannol a roddir yn unol ag adran 14 o Ddeddf Addysg 2002.
(2)
Unrhyw daliad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo, a wnaed yn unol ag—
(a)
rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996;
(b)
rheoliadau a wnaed o dan adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980; neu
(c)
cyfarwyddiadau a wnaed o dan adran 73ZA o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 ac a dalwyd o dan adran 12(2)(c) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992,
mewn perthynas â chwrs astudio a ddilynir gan blentyn neu berson ifanc neu berson sy’n cael lwfans cynhaliaeth addysg neu daliad arall a wnaed yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a bennir yn is-baragraff (1).
54.
Yn achos ceisydd sy’n cymryd rhan mewn rhaglen parth cyflogaeth, unrhyw daliad disgresiynol a wneir gan gontractwr parth cyflogaeth i’r ceisydd, boed ar ffurf ffi, grant, benthyciad neu rywfodd arall, ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad.
55.
Unrhyw ôl-daliad o lwfans cynhaliaeth a delir fel cyfandaliad, ond am gyfnod o 52 wythnos yn unig, o’r dyddiad y ceir y taliad.
56.
Pan fo taliad ex gratia o £10,000 wedi ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar neu ar ôl 1 Chwefror 2001 o ganlyniad i garcharu neu gaethiwo—
(a)
y ceisydd;
(b)
partner y ceisydd;
(c)
priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig y ceisydd; neu
(d)
priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig partner y ceisydd,
gan y Japaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd, £10,000.
57.
(1)
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), swm unrhyw daliad ymddiriedolaeth a wneir i geisydd neu aelod o deulu’r ceisydd sydd yn—
(a)
person â diagnosis;
(b)
partner i berson â diagnosis, neu’r person a oedd yn bartner i berson â diagnosis ar y dyddiad y bu farw’r person â diagnosis;
(c)
rhiant person â diagnosis, person yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis, neu berson a oedd yn gweithredu felly ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis; neu
(d)
aelod o deulu’r person â diagnosis (ac eithrio partner y person hwnnw) neu berson a oedd yn aelod o deulu’r person â diagnosis (ac eithrio partner y person hwnnw) ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis.
(2)
Pan wneir taliad ymddiriedolaeth i—
(a)
person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a) neu (b), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ymddiriedolaeth ac yn diweddu ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw;
(b)
person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ymddiriedolaeth ac yn diweddu ddwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw;
(c)
person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(d), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad ymddiriedolaeth ac yn diweddu—
(i)
dwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw; neu
(ii)
ar y diwrnod cyn y diwrnod y bydd y person hwnnw—
(aa)
yn peidio â chael addysg amser llawn; neu
(bb)
yn cyrraedd 20 mlwydd oed,
pa un bynnag yw’r diweddaraf.
(3)
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), swm unrhyw daliad gan berson y gwnaed taliad ymddiriedolaeth iddo neu unrhyw daliad allan o ystad person y gwnaed taliad ymddiriedolaeth iddo, a wneir i geisydd neu aelod o deulu’r ceisydd sydd—
(a)
yn bartner y person â diagnosis neu’n berson a oedd yn bartner y person â diagnosis ar y dyddiad y bu farw’r person â diagnosis;
(b)
yn rhiant person â diagnosis, person yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis, neu berson a oedd yn gweithredu felly ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis; neu
(c)
yn aelod o deulu’r person â diagnosis (ac eithrio partner y person hwnnw) neu’n berson a oedd yn aelod o deulu’r person â diagnosis (ac eithrio partner y person hwnnw) ar y dyddiad y bu farw’r person â diagnosis,
ond i’r graddau, yn unig, na fydd taliadau o’r fath yn fwy na chyfanswm unrhyw daliadau ymddiriedolaeth a wnaed i’r person hwnnw.
(4)
Pan wneir taliad o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) i—
(a)
person y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(a), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad hwnnw ac yn diweddu ar ddyddiad marwolaeth y person hwnnw;
(b)
person y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(b), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad hwnnw ac yn diweddu ddwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw; neu
(c)
person y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(c), bydd yr is-baragraff hwnnw’n gymwys am y cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y gwneir y taliad hwnnw ac yn diweddu—
(i)
dwy flynedd ar ôl y dyddiad hwnnw; neu
(ii)
ar y diwrnod cyn y diwrnod y bydd y person hwnnw—
(aa)
yn peidio â chael addysg amser llawn; neu
(bb)
yn cyrraedd 20 mlwydd oed,
pa un bynnag yw’r diweddaraf.
(5)
Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriad at berson—
(a)
sy’n bartner y person â diagnosis;
(b)
sy’n aelod o deulu’r person â diagnosis;
(c)
yn gweithredu yn lle rhieni’r person â diagnosis,
ar ddyddiad marwolaeth y person â diagnosis yn cynnwys person a fyddai wedi bod yn berson o’r fath neu’n berson a fyddai’n gweithredu felly, pe na bai’r person â diagnosis yn preswylio mewn cartref gofal, cartref Abbeyfield neu ysbyty annibynnol ar y dyddiad hwnnw.
(6)
In y paragraff hwn—
ystyr “person â diagnosis” (“diagnosed person”) yw person y gwnaed diagnosis ei fod yn dioddef o glefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob, neu y gwnaed diagnosis ar ôl marwolaeth y person hwnnw ei fod wedi dioddef o’r clefyd hwnnw;
ystyr “ymddiriedolaeth berthnasol” (“relevant trust”) yw ymddiriedolaeth a sefydlwyd gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â phersonau a oedd yn dioddef, neu sydd yn dioddef, o glefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob, er budd personau sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â’i darpariaethau;
ystyr “taliad ymddiriedolaeth” (“trust payment”) yw taliad o dan ymddiriedolaeth berthnasol.
58.
Swm unrhyw daliad, ac eithrio pensiwn rhyfel, a wneir i ddigolledu oherwydd bod y ceisydd, partner y ceisydd, priod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig y ceisydd neu briod ymadawedig neu bartner sifil ymadawedig partner y ceisydd—
(a)
wedi bod yn gaeth lafurwr neu’n llafurwr dan orfodaeth;
(b)
wedi dioddef colled eiddo neu wedi dioddef niwed personol; neu
(c)
yn rhiant plentyn a fu farw,
yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
59.
Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol neu gan Weinidogion Cymru, i neu ar ran y ceisydd neu bartner y ceisydd mewn perthynas â gwasanaeth a ddarperir i ddatblygu neu gynnal gallu’r ceisydd neu bartner y ceisydd i fyw’n annibynnol yn llety’r ceisydd.
60.
61.
62.
Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd yn unol â rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig).
F563.
Unrhyw daliad a wneir gan y Trysorlys i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd o dan Reoliadau Taliadau ar Sail Oed 2013 (Equitable Life) fel derbynnydd blwydd-dal Equitable Life cymwys.