33. Unrhyw fangre y bwriada’r ceisydd ei meddiannu fel cartref iddo ac y mae angen gwneud atgyweiriadau neu newidiadau hanfodol iddi, er mwyn iddi fod yn addas i’w meddiannu felly, am gyfnod o 26 wythnos o’r dyddiad y mae’r ceisydd yn cymryd y camau gyntaf i gyflawni’r atgyweiriadau neu’r newidiadau hynny, neu pa bynnag gyfnod hwy sy’n angenrheidiol er mwyn galluogi cyflawni’r atgyweiriadau neu’r newidiadau hynny.