xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3.—(1) Y myfyrwyr a eithrir o’r hawlogaeth i gael gostyngiad treth gyngor o dan gynllun awdurdod yw’r canlynol—
(a)myfyrwyr sy’n bensiynwyr; a
(b)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (7)—
(i)myfyrwyr amser llawn, a
(ii)myfyrwyr sy’n bersonau a drinnir fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr.
(2) Nid yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys i fyfyriwr—
(a)sy’n berson sy’n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm;
(b)sy’n unig riant;
(c)y byddai ei swm cymwysadwy, oni bai am y paragraff hwn, yn cynnwys y premiwm anabledd neu’r premiwm anabledd difrifol;
(d)y byddai ei swm cymwysadwy, yn cynnwys y premiwm anabledd pe na bai’r myfyriwr yn cael ei drin fel pe bai’n alluog i weithio yn rhinwedd penderfyniad a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 171E o DCBNC;
(e)sydd yn analluog i weithio, neu’n cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio, ac wedi bod yn analluog felly neu’n cael ei drin felly yn unol â darpariaethau Rhan 12A o DCBNC (analluedd i weithio) a rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno am gyfnod di-dor o ddim llai na 196 diwrnod; ac at y diben hwn rhaid trin unrhyw ddau neu ragor o gyfnodau ar wahân, a wahenir gan doriad o ddim mwy na 56 diwrnod fel un cyfnod di-dor;
(f)sydd â’i alluedd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig, neu a drinnir ef fel pe bai ei alluedd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig, ac y bu ganddo, neu y triniwyd ef fel pe bai ganddo, alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith yn unol â Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008(1) am gyfnod di-dor o ddim llai na 196 diwrnod; ac at y diben hwn rhaid trin unrhyw ddau neu ragor o gyfnodau ar wahân a wahenir gan doriad o ddim mwy na 84 diwrnod fel un cyfnod di-dor;
(g)sydd â phartner sydd hefyd yn fyfyriwr amser llawn, os trinnir y myfyriwr neu’r partner hwnnw fel pe bai’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc;
(h)sy’n geisydd sengl y lleolwyd plentyn gydag ef gan awdurdod lleol neu gorff gwirfoddol o fewn yr ystyr a roddir i “placed” gan Ddeddf Plant 1989(2) neu, yn yr Alban, wedi ei letya gydag ef yn yr ystyr a roddir i “boarded out” gan Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(3);
(i)sydd—
(i)o dan 21 mlwydd oed ac nad yw ei gwrs astudio yn gwrs addysg uwch,
(ii)yn 21 mlwydd oed ac wedi cyrraedd yr oedran hwnnw yn ystod cwrs astudio nad yw’n gwrs addysg uwch, neu
(iii)yn berson ifanc cymwys neu’n blentyn yn yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “qualifying young person” a “child” gan adran 142 o DCBNC (plentyn a pherson ifanc cymwys);
(j)os, mewn perthynas ag ef—
(i)penderfynwyd ar ofyniad atodol yn yr ystyr a roddir i “supplementary requirement” o dan baragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003;
(ii)rhoddwyd lwfans neu, yn ôl fel y digwydd, bwrsari, sy’n cynnwys swm o dan reoliad 4 o Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr (Yr Alban) 2007 neu, yn ôl fel y digwydd, o dan Reoliadau Awdurdodau Addysg (Bwrsariaethau) (Yr Alban) 2007(4), mewn perthynas â threuliau a dynnir;
(iii)gwnaed taliad o dan adran 2 o Ddeddf Addysg 1962(5) neu o dan neu yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
(iv)rhoddwyd grant o dan reoliad 13 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005(6), rheoliad 13 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 2000(7), neu reoliad 41 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) (Gogledd Iwerddon) 2009; neu
(v)penderfynwyd ar ofyniad atodol yn yr ystyr a roddir i “supplementary requirement” o dan baragraff 9 o Atodlen 6 i Reoliadau Dyfarniadau Myfyrwyr (Gogledd Iwerddon) 2003(8) neu gwnaed taliad o dan erthygl 50(3) o Orchymyn Addysg a Llyfrgelloedd (Gogledd Iwerddon) 1986,
o ganlyniad i anabledd y myfyriwr oherwydd byddardod.
(3) Mae is-baragraff (2)(i)(ii) yn gymwys i geisydd hyd at ddiwedd y cwrs, yn unig, y cyrhaeddodd y ceisydd yr oedran o 21 ynddo.
(4) At ddibenion is-baragraff (2), unwaith y bydd is-baragraff (2)(e) yn gymwys i fyfyriwr amser llawn, os yw’r myfyriwr hwnnw wedyn, am gyfnod o 56 diwrnod neu lai, yn peidio â bod yn analluog i weithio, neu gael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio, yna, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, pan â’r myfyriwr yn analluog i weithio drachefn, neu pan drinnir ef drachefn fel pe bai’n analluog i weithio, rhaid cymhwyso’r is-baragraff hwnnw i’r myfyriwr hwnnw ar unwaith, am gyhyd ag y bo’n parhau’n analluog i weithio, neu cyhyd ag y’i trinnir fel pe bai’n analluog i weithio.
(5) Yn is-baragraff (2)(i) mae’r cyfeiriad at gwrs addysg uwch yn gyfeiriad at gwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988(9).
(6) Rhaid trin myfyriwr amser llawn y mae paragraff (i) o is-baragraff (2) yn gymwys iddo fel pe bai’n bodloni’r is-baragraff hwnnw o’r dyddiad y gwnaeth y myfyriwr hwnnw gais am y gofyniad atodol, lwfans, bwrsari neu daliad, yn ôl fel y digwydd.
(7) Nid yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys i fyfyriwr amser llawn am y cyfnod a bennir yn is-baragraff (8) os—
(a)yw’r myfyriwr, ar unrhyw adeg yn ystod blwyddyn academaidd, gyda chydsyniad y sefydliad addysgol perthnasol, yn peidio â mynychu neu ymgymryd â chwrs oherwydd bod y myfyriwr—
(i)yn ymgymryd â gofalu am berson arall; neu
(ii)yn sâl;
(b)yw’r myfyriwr yn ddiweddarach wedi peidio ag ymgymryd â gofalu am y person hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, os yw’r myfyriwr yn ddiweddarach wedi gwella o’r salwch hwnnw; ac
(c)nad yw’r myfyriwr yn gymwys i gael grant neu fenthyciad myfyriwr mewn perthynas â’r cyfnod a bennir yn is-baragraff (8).
(8) Y cyfnod a bennir at ddibenion is-baragraff (7) yw’r cyfnod, na fydd yn hwy nag un flwyddyn, sy’n cychwyn ar y diwrnod y peidiodd y myfyriwr ag ymgymryd â gofalu am y person hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, y diwrnod y cafodd y myfyriwr adferiad o’r salwch hwnnw ac yn diweddu ar y diwrnod cyn—
(a)y diwrnod y mae’r myfyriwr yn ailddechrau mynychu neu ymgymryd â’r cwrs; neu
(b)y diwrnod y bydd y sefydliad addysgol perthnasol wedi cytuno y caiff y myfyriwr ailddechrau mynychu neu ymgymryd â’r cwrs,
pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf.