xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1. Mae paragraffau 2 i 7 yn gymwys i gais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 12 para. 1 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
2. Caniateir gwneud cais—LL+C
(a)mewn ysgrifen,
(b)drwy gyfathrebiad electronig yn unol â Rhan 4, neu
(c)os yw’r awdurdod wedi cyhoeddi rhif teleffon at y diben o gael ceisiadau o’r fath, dros y teleffon.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 12 para. 2 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Rhaid gwneud unrhyw gais a wneir mewn ysgrifen i’r swyddfa ddynodedig a rhaid iddo fod—LL+C
(a)ar ffurflen sydd wedi ei chwblhau’n briodol ac a gymeradwywyd gan yr awdurdod at ddibenion gwneud cais mewn ysgrifen; neu
(b)yn y cyfryw ffurf ysgrifenedig y mae’r awdurdod yn derbyn sy’n ddigonol mewn amgylchiadau unrhyw achos penodol (neu ddosbarth o achosion) o ystyried digonolrwydd yr wybodaeth a thystiolaeth ysgrifenedig.
(2) Mae cais mewn ysgrifen yn ddiffygiol os na wneir y cais ar y ffurf a ddisgrifir ym mharagraff 3(1)(a) neu (b).
(3) Rhaid i unrhyw ffurflen a ddarperir gan yr awdurdod at y diben o wneud cais mewn ysgrifen gael ei darparu’n ddi-dâl.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 12 para. 3 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
4.—(1) Pan fo cais a wneir mewn ysgrifen yn ddiffygiol oherwydd—LL+C
(a)ei fod wedi ei wneud ar y ffurflen a gymeradwywyd at y diben ond nad yw’r awdurdod yn ei dderbyn fel ffurflen a gwblhawyd yn briodol, caiff yr awdurdod ofyn i’r ceisydd gwblhau’r cais diffygiol; neu
(b)ei fod wedi ei wneud mewn ysgrifen ond nid ar y ffurflen a gymeradwywyd at y diben hwnnw, ac nad yw’r awdurdod yn derbyn y cais fel un ar ffurf ysgrifenedig sy’n ddigonol yn amgylchiadau’r achos, o ystyried digonolrwydd yr wybodaeth a’r dystiolaeth ysgrifenedig, caiff yr awdurdod gyflenwi copi o’r ffurflen gymeradwy i’r ceisydd neu ofyn am wybodaeth neu dystiolaeth bellach.
(2) Bydd cais a wneir ar ffurflen a ddarparwyd gan yr awdurdod wedi ei gwblhau’n briodol os cwblheir ef yn unol â’r cyfarwyddiadau ar y ffurflen, gan gynnwys unrhyw gyfarwyddiadau i ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth mewn cysylltiad â’r cais.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 12 para. 4 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
5.—(1) Os yw cais a wneir drwy gyfathrebiad electronig yn ddiffygiol, rhaid i’r awdurdod roi cyfle i’r person sy’n gwneud y cais gywiro’r diffyg.LL+C
(2) Bydd cais a wneir drwy gyfathrebiad electronig yn ddiffygiol os nad yw’r ceisydd yn darparu’r holl wybodaeth y gofynnir amdani gan yr awdurdod.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 12 para. 5 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
6. Mewn achos penodol caiff awdurdod benderfynu na fydd cais a wneir dros y teleffon yn ddilys oni fydd y person sy’n gwneud y cais yn cymeradwyo datganiad ysgrifenedig o amgylchiadau’r person hwnnw a ddarperir gan yr awdurdod.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 12 para. 6 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
7.—(1) Os yw cais a wneir dros y teleffon yn ddiffygiol, rhaid i’r awdurdod roi cyfle i’r person sy’n gwneud y cais gywiro’r diffyg.LL+C
(2) Bydd cais a wneir dros y teleffon yn ddiffygiol os na fydd y ceisydd yn darparu’r holl wybodaeth y gofynnir amdani gan yr awdurdod yn ystod yr alwad teleffon.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 12 para. 7 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)