ATODLEN 13Pob ceisydd: materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun awdurdod — materion eraill
RHAN 3Dyfarniad neu daliad o ostyngiad
Dyfarniad neu daliad o ostyngiad o dan gynllun
10.
(1)
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), pan fo hawl gan berson i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod mewn perthynas ag atebolrwydd y person hwnnw am dreth gyngor fel y caiff effaith mewn perthynas â blwyddyn ariannol, rhaid i’r awdurdod fodloni hawlogaeth y person hwnnw drwy leihau, i’r graddau sy’n bosibl, swm atebolrwydd y person hwnnw, y cyfeirir ato yn rheoliad 20(2) o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992.
(2)
Pan fo—
(a)
hawl gan berson i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod mewn perthynas ag atebolrwydd y person hwnnw am dreth gyngor yr awdurdod fel y caiff effaith mewn perthynas â blwyddyn ariannol;
(b)
y person sydd â hawl i gael y gostyngiad yn atebol ar y cyd ac yn unigol am y dreth gyngor; ac
(c)
yr awdurdod yn penderfynu y byddai’n amhriodol bodloni hawlogaeth y person hwnnw drwy leihau swm atebolrwydd y person hwnnw, y cyfeirir ato yn rheoliad 20(2) o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992,
caiff yr awdurdod wneud taliad i’r person hwnnw o swm y gostyngiad y mae hawl gan y person hwnnw i’w gael, wedi ei dalgrynnu, pan fo angen, i’r geiniog agosaf.
(3)
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4) rhaid gwneud unrhyw daliad a wneir o dan is-baragraffau (1) neu (2) i’r person sydd â hawl i gael y gostyngiad.
(4)
Os gwnaed y cais gan berson ac eithrio’r person sydd â hawl i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod a’r person cyntaf hwnnw’n berson sy’n gweithredu yn unol â phenodiad o dan baragraff 1(3) (personau a benodir i weithredu dros berson sy’n analluog i weithredu) neu a drinnir fel pe bai wedi ei benodi felly yn rhinwedd paragraff 1(4), caniateir talu swm y gostyngiad i’r person hwnnw.