Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

Ôl-ddyddio ceisiadau: personau nad ydynt yn bensiynwyrLL+C

4.—(1Pan fo ceisydd, sy’n berson nad yw’n bensiynwr—

(a)yn gwneud cais o dan gynllun awdurdod sy’n cynnwys (neu y mae’r ceisydd yn ddiweddarach yn gofyn am iddo gynnwys) cyfnod cyn bo’r cais wedi ei wneud; a

(b)o ddiwrnod yn y cyfnod hwnnw, hyd at y dyddiad y gwnaeth y ceisydd y cais (neu y gofynnodd yn ddiweddarach am i’r cais gynnwys cyfnod blaenorol), yr oedd gan y ceisydd, yn ddi-dor, reswm da dros fethu â gwneud cais (neu ofyn am i’r cais gynnwys y cyfnod hwnnw),

rhaid trin y cais fel pe bai wedi ei wneud ar y dyddiad a benderfynir yn unol ag is-baragraff (2).

(2Y dyddiad hwnnw yw’r diweddaraf o’r canlynol—

(a)y diwrnod cyntaf pan oedd gan y ceisydd reswm da yn ddi-dor;

(b)y diwrnod 3 mis cyn y dyddiad y gwnaed y cais;

(c)y diwrnod 3 mis cyn y dyddiad pan ofynnodd y ceisydd am i’r cais gynnwys cyfnod blaenorol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 13 para. 4 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)