ATODLEN 13Pob ceisydd: materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun awdurdod — materion eraill
RHAN 1Ceisiadau
Tystiolaeth a gwybodaeth
5.
(1)
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i berson sy’n gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod fodloni is-baragraff (2), mewn perthynas â’r person sy’n gwneud y cais yn ogystal ag unrhyw berson arall y mae’n gwneud y cais mewn perthynas ag ef.
(2)
Bodlonir yr is-baragraff hwn mewn perthynas â pherson—
(a)
os cyflwynir y cais ynghyd ag—
(i)
datganiad o rif yswiriant gwladol y person a gwybodaeth neu dystiolaeth sy’n cadarnhau bod y rhif hwnnw wedi ei ddyrannu i’r person; neu
(ii)
gwybodaeth neu dystiolaeth a fydd yn galluogi awdurdod i ganfod y rhif yswiriant gwladol sydd wedi ei ddyrannu i’r person; neu
(b)
os yw’r person wedi gwneud cais am i rif yswiriant gwladol gael ei ddyrannu i’r person hwnnw, ac os cyflwynwyd y cais am ostyngiad ynghyd ag—
(i)
tystiolaeth o’r cais am i rif yswiriant gwladol gael ei ddyrannu felly; a
(ii)
gwybodaeth neu dystiolaeth sy’n galluogi ei ddyrannu felly.
(3)
Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)
yn achos plentyn neu berson ifanc y gwneir cais am ostyngiad mewn perthynas ag ef;
(b)
i berson—
(i)
a drinnir at ddibenion y cynllun hwnnw fel pe na bai ym Mhrydain Fawr;
(ii)
(iii)
na ddyrannwyd iddo rif yswiriant gwladol eisoes.
(4)
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), rhaid i berson sy’n gwneud cais, neu berson y dyfarnwyd iddo ostyngiad o dan gynllun awdurdod, ddarparu pa bynnag dystysgrifau, dogfennau, gwybodaeth a thystiolaeth mewn cysylltiad â’r cais neu’r dyfarniad, neu unrhyw gwestiwn sy’n codi o’r cais neu’r dyfarniad, y gofynnir amdanynt yn rhesymol gan yr awdurdod er mwyn penderfynu ynghylch hawlogaeth y person hwnnw, neu barhad ei hawlogaeth, i ostyngiad o dan gynllun yr awdurdod, a rhaid iddo wneud hynny o fewn un mis wedi i’r awdurdod ofyn iddo wneud hynny, neu pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod.
(5)
Nid oes dim yn y paragraff hwn sy’n ei gwneud yn ofynnol bod person yn darparu unrhyw dystysgrifau, dogfennau, gwybodaeth neu dystiolaeth mewn perthynas â thaliad y mae is-baragraff (7) yn gymwys iddo.
(6)
Pan wneir cais gan awdurdod o dan is-baragraff (4), rhaid i’r awdurdod—
(a)
hysbysu’r ceisydd, neu’r person y dyfarnwyd gostyngiad iddo o dan gynllun yr awdurdod, ynghylch dyletswydd y ceisydd o dan baragraff 7 (dyletswydd i hysbysu ynghylch newidiadau yn yr amgylchiadau) i hysbysu’r awdurdod ynghylch unrhyw newid yn yr amgylchiadau; a
(b)
heb leihau dim ar gwmpas y ddyletswydd o dan baragraff 7, dynodi i’r person, naill ai ar lafar neu drwy hysbysiad neu drwy gyfeirio at ryw ddogfen arall sydd ar gael i’r person yn ddi-dâl os gofynnir amdani, y math o newid yn yr amgylchiadau y mae’n ofynnol hysbysu’r awdurdod yn ei gylch.
(7)
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw un o’r taliadau canlynol—
(a)
taliad—
(i)
a ddiystyrwyd o dan baragraff 28 o Atodlen 9 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr) neu baragraff 38 o Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr); neu
(ii)
a wnaed o dan neu gan yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton neu Gronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain;
(b)
taliad a ddiystyrir o dan baragraff 16 o Atodlen 5 (taliadau a wnaed o dan ymddiriedolaethau penodol a thaliadau penodol eraill) ac eithrio taliad o dan y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006);
(c)
taliad a ddiystyrir o dan baragraff 5(9)(b) neu (c) o Atodlen 6 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr) ac eithrio taliad a wnaed o dan y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006).
(8)
Pan fo ceisydd, neu berson y mae gostyngiad o dan gynllun awdurdod wedi ei ddyfarnu iddo, neu unrhyw bartner, wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth ac yn aelod o gynllun pensiwn personol neu’n berson sydd â hawlogaeth i gael pensiwn o dan gynllun pensiwn personol, rhaid i’r person, pan ofynnir iddo gan yr awdurdod, ddarparu’r wybodaeth ganlynol—
(a)
enw a chyfeiriad deiliad y gronfa bensiwn;
(b)
pa bynnag wybodaeth arall, gan gynnwys unrhyw rif cyfeirnod neu rif polisi, y mae ei hangen i alluogi adnabod y cynllun pensiwn personol.