ATODLEN 13Pob ceisydd: materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun awdurdod — materion eraill
RHAN 2Penderfyniadau gan awdurdod
Hysbysu ynghylch penderfyniad
9.
(1)
Rhaid i awdurdod hysbysu mewn ysgrifen unrhyw berson yr effeithir arno gan benderfyniad a wneir gan yr awdurdod o dan ei gynllun—
(a)
yn achos penderfyniad ar gais, ar unwaith neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedyn;
(b)
mewn unrhyw achos arall, o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud y penderfyniad, neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedyn.
(2)
Os dyfarnu gostyngiad yw’r penderfyniad, rhaid i’r hysbysiad o dan is-baragraff (1) gynnwys datganiad sy’n—
(a)
rhoi gwybod i’r person yr effeithir arno am y ddyletswydd a osodir gan baragraff 7 (dyletswydd i hysbysu ynghylch newidiadau yn yr amgylchiadau);
(b)
esbonio’r canlyniadau posibl (gan gynnwys erlyn) os methir â chydymffurfio â’r ddyletswydd honno; ac
(c)
nodi’r amgylchiadau y gallai newid ynddynt effeithio ar yr hawlogaeth i gael gostyngiad neu ar swm y gostyngiad.
(3)
Os dyfarnu gostyngiad yw’r penderfyniad, rhaid i’r hysbysiad o dan is-baragraff (1) gynnwys datganiad o’r modd y bodlonir yr hawlogaeth.
(4)
Rhaid i’r hysbysiad o dan is-baragraff (1) gynnwys datganiad hefyd ynghylch y materion a bennir yn Atodlen 14.
(5)
Caiff person yr effeithir arno ac y cyflwynodd neu anfonodd yr awdurdod hysbysiad o benderfyniad ato, o fewn un mis ar ôl dyddiad yr hysbysiad o benderfyniad hwnnw, ofyn mewn ysgrifen i’r awdurdod ddarparu datganiad ysgrifenedig sy’n nodi rhesymau’r awdurdod am ei benderfyniad ar unrhyw fater a nodir yn yr hysbysiad.
(6)
Rhaid anfon y datganiad ysgrifenedig y cyfeirir ato yn is-baragraff (5) at y person sy’n gofyn amdano o fewn 14 diwrnod neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedyn.
(7)
At ddibenion y paragraff hwn rhaid trin person fel person yr effeithir arno gan benderfyniad awdurdod o dan ei gynllun os effeithir ar hawliau, dyletswyddau neu ymrwymiadau’r person hwnnw gan y penderfyniad hwnnw ac os yw’r person yn dod o fewn is-baragraff (8).
(8)
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i—
(a)
y ceisydd;
(b)
yn achos person sy’n atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd ac yn analluog am y tro i weithredu—
(i)
dirprwy a benodwyd gan y Llys Gwarchod sydd â phŵer i hawlio neu, yn ôl fel y digwydd, cael budd-dal, ar ran y person; neu
(ii)
yn yr Alban, goruchwyliwr barnwrol neu unrhyw warcheidwad sy’n gweithredu neu a benodwyd o dan Ddeddf Oedolion ag Analluedd (Yr Alban) 2000 sydd â phŵer i wneud cais neu, yn ôl fel y digwydd, cael budd-dal, ar ran y person; neu
(iii)
atwrnai sydd â phŵer cyffredinol neu bŵer i wneud cais neu, yn ôl fel y digwydd, i gael budd-dal, wedi ei benodi gan y person hwnnw o dan Ddeddf Atwrneiaethau 1971, Deddf Atwrneiaethau Parhaus 1985 neu Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 neu rywfodd arall;
(c)
person a benodwyd gan yr awdurdod o dan baragraff 1(3).