Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 14

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 20/01/2023.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Rheoliad 34(3)

ATODLEN 14LL+CMaterion sydd i’w cynnwys mewn hysbysiad

RHAN 1LL+CCyffredinol

1.  Y materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn unrhyw hysbysiad a ddyroddir gan yr awdurdod yn unol â pharagraff 9 o Atodlen 13 (hysbysu penderfyniad), yw’r materion a bennir yn narpariaethau canlynol yr Atodlen hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 14 para. 1 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

2.  Rhaid i bob hysbysiad gynnwys datganiad ynglŷn â hawl unrhyw berson yr effeithir arno gan y penderfyniad i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig o dan baragraff 9(5) o Atodlen 13 (ceisiadau am ddatganiad o resymau), ac o’r modd a’r amser y ceir gwneud hynny.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 14 para. 2 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

3.  Rhaid i bob hysbysiad gynnwys datganiad ynglŷn â hawl unrhyw berson yr effeithir arno gan y penderfyniad i apelio yn erbyn y penderfyniad yn unol â pharagraffau 8 a 10 o Atodlen 12 (gweithdrefn y caiff person ei dilyn i apelio yn erbyn penderfyniadau penodol yr awdurdod), ac o’r modd a’r amser y ceir gwneud hynny.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 14 para. 3 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CDyfarniadau o ostyngiadau pan fo credyd pensiwn y wladwriaeth neu ostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) yn daladwy: pensiynwyr

4.—(1Pan ddyfernir gostyngiad o dan gynllun awdurdod i bensiynwr sy’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—LL+C

(a)y swm wythnosol arferol o dreth gyngor y byddai’r person yn atebol i’w dalu cyn dyfarnu unrhyw ostyngiad o dan gynllun awdurdod, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;

(b)yr uchafswm gostyngiad wythnosol y gallai person fod â hawl i’w gael o dan gynllun awdurdod, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;

(c)swm wythnosol arferol y gostyngiad y penderfynodd yr awdurdod fod hawl gan y person i’w gael o dan ei gynllun, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;

(d)swm a chategori unrhyw ddidyniadau annibynyddion a wnaed yn unol â chynllun yr awdurdod, os oes rhai; ac

(e)y diwrnod cyntaf y bydd hawl gan y person i gael gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod,

ac mewn unrhyw achos pan fo’r swm y cyfeirir ato ym mharagraffau (a) i (c) yn diystyru ffracsiynau o geiniog, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad i’r perwyl hwnnw.

(2Mewn achos pan fo gan bensiynwr, sy’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth, hawlogaeth yn unig i gael y credyd cynilion, rhaid i’r hysbysiad nodi hefyd y materion canlynol—

(a)swm cymwysadwy’r person a sail y cyfrifiad;

(b)symiau y credyd cynilion a gymerwyd i ystyriaeth;

(c)swm incwm a chyfalaf y person, fel yr hysbyswyd yr awdurdod ohonynt gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac y’u cymerwyd i ystyriaeth at ddibenion penderfynu’r gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod;

(d)unrhyw addasiad a wnaed i incwm neu gyfalaf y person (gweler paragraff 8 o Atodlen 1 (cyfrifo incwm pensiynwr mewn achosion credyd cynilion yn unig); ac

(e)swm cyfalaf y person yn yr achos hwnnw.

(3Pan fo hawl gan bensiynwr i ostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) (gweler paragraff 32 o Atodlen 1), rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r materion a bennir ym mharagraff 4(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 14 para. 4 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CDyfarniadau o ostyngiadau pan na thelir credyd pensiwn y wladwriaeth: pensiynwyr

5.  Pan ddyfernir gostyngiad o dan gynllun awdurdod i bensiynwr nad yw’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—LL+C

(a)y materion a bennir ym mharagraff 4(1);

(b)swm cymwysadwy’r pensiynwr a’r modd y’i cyfrifwyd;

(c)enillion wythnosol y pensiynwr; a

(d)incwm ac enillion eraill y pensiynwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 14 para. 5 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CHysbysiad pan na wneir dyfarniad o ostyngiad: pensiynwyr

6.  Os na ddyfernir gostyngiad i bensiynwr o dan gynllun awdurdod—LL+C

(a)ar sail incwm, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—

(i)y materion a bennir ym mharagraff 4(1)(a), a

(ii)y materion a bennir ym mharagraff 5(b) i (d) pan nad yw’r pensiynwr yn cael credyd pensiwn y wladwriaeth;

(b)am unrhyw reswm arall, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r rheswm pam na wnaed dyfarniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 14 para. 6 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

RHAN 5LL+CDyfarniadau o ostyngiadau pan fo cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, gostyngiad estynedig neu ostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) yn daladwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr

7.—(1Pan fo person nad yw’n bensiynwr ac sy’n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm yn cael dyfarniad o ostyngiad o dan gynllun awdurdod, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—LL+C

(a)y swm wythnosol arferol o dreth gyngor y byddai’r person yn atebol i’w dalu cyn dyfarnu unrhyw ostyngiad o dan gynllun awdurdod, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;

(b)yr uchafswm gostyngiad wythnosol y gallai person fod â hawl i’w gael o dan gynllun awdurdod, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;

(c)swm wythnosol arferol y gostyngiad y penderfynodd yr awdurdod fod hawl gan y person i’w gael o dan ei gynllun, wedi ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf;

(d)swm a chategori unrhyw ddidyniadau annibynyddion a wnaed yn unol â chynllun yr awdurdod, os oes rhai; ac

(e)y diwrnod cyntaf y bydd hawl gan y person i gael gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod,

ac mewn unrhyw achos pan fo’r swm y cyfeirir ato ym mharagraffau (a) i (c) yn diystyru ffracsiynau o geiniog, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad i’r perwyl hwnnw.

(2Pan fo hawl gan berson nad yw’n bensiynwr i gael gostyngiad estynedig neu ostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) yn unol â chynllun awdurdod, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r materion a bennir ym mharagraff 7(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 14 para. 7 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

RHAN 6LL+CDyfarniadau o ostyngiad pan fo credyd cynhwysol yn daladwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr

8.  Pan ddyfernir gostyngiad o dan gynllun awdurdod i berson sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol ac nad yw’n bensiynwr, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—LL+C

(a)y materion a bennir ym mharagraff 7(1);

(b)swm cymwysadwy’r person (gweler paragraff 3 o Atodlen 6 (swm cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol)); ac

(c)incwm y person (gweler paragraff 9 o Atodlen 6 (cyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol)).

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 14 para. 8 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

RHAN 7LL+CDyfarniadau o ostyngiad pan nad oes cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm na chredyd cynhwysol yn daladwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr

9.  Pan ddyfernir gostyngiad o dan gynllun awdurdod i berson nad yw’n bensiynwr ac nad yw’n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm na chredyd cynhwysol, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—LL+C

(a)y materion a bennir ym mharagraff 7(1);

(b)swm cymwysadwy’r person a’r modd y’i cyfrifwyd;

(c)enillion wythnosol y person; ac

(d)incwm wythnosol y person ac eithrio enillion.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 14 para. 9 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

RHAN 8LL+CHysbysiad pan na roddir dyfarniad o ostyngiad: personau nad ydynt yn bensiynwyr

10.  Pan na roddir dyfarniad o ostyngiad o dan gynllun awdurdod i berson nad yw’n bensiynwr—LL+C

(a)ar sail incwm, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—

(i)y materion a bennir ym mharagraff 7(1)(a); a

(ii)y materion a bennir ym mharagraff 8(b) ac (c) pan nad yw’r person yn cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm na chredyd cynhwysol;

(b)am unrhyw reswm arall, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r rheswm pam na wnaed dyfarniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 14 para. 10 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

RHAN 9LL+CHysbysiad pan drinnir incwm annibynnydd fel pe bai’n incwm y ceisydd: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr

11.  Pan fo awdurdod yn gwneud penderfyniad o dan ei gynllun i drin cyfalaf ac incwm annibynnydd fel pe baent yn eiddo i’r ceisydd, (gweler paragraff 6 o Atodlen 1 a pharagraff 8 o Atodlen 6), rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—LL+C

(a)y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud drwy gyfeirio at incwm a chyfalaf annibynnydd y ceisydd, a

(b)rheswm yr awdurdod dros wneud y penderfyniad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 14 para. 11 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources