xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
10. Pan na roddir dyfarniad o ostyngiad o dan gynllun awdurdod i berson nad yw’n bensiynwr—
(a)ar sail incwm, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—
(i)y materion a bennir ym mharagraff 7(1)(a); a
(ii)y materion a bennir ym mharagraff 8(b) ac (c) pan nad yw’r person yn cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm na chredyd cynhwysol;
(b)am unrhyw reswm arall, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r rheswm pam na wnaed dyfarniad.