ATODLEN 14Materion sydd i’w cynnwys mewn hysbysiad
RHAN 9Hysbysiad pan drinnir incwm annibynnydd fel pe bai’n incwm y ceisydd: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr
11.
Pan fo awdurdod yn gwneud penderfyniad o dan ei gynllun i drin cyfalaf ac incwm annibynnydd fel pe baent yn eiddo i’r ceisydd, (gweler paragraff 6 o Atodlen 1 a pharagraff 8 o Atodlen 6), rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—
(a)
y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud drwy gyfeirio at incwm a chyfalaf annibynnydd y ceisydd, a
(b)
rheswm yr awdurdod dros wneud y penderfyniad hwnnw.