ATODLEN 14Materion sydd i’w cynnwys mewn hysbysiad
RHAN 8Hysbysiad pan na roddir dyfarniad o ostyngiad: personau nad ydynt yn bensiynwyr
10.
Pan na roddir dyfarniad o ostyngiad o dan gynllun awdurdod i berson nad yw’n bensiynwr—
(a)
ar sail incwm, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—
(i)
y materion a bennir ym mharagraff 7(1)(a); a
(ii)
y materion a bennir ym mharagraff 8(b) ac (c) pan nad yw’r person yn cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm na chredyd cynhwysol;
(b)
am unrhyw reswm arall, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r rheswm pam na wnaed dyfarniad.