Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 2

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 21/01/2015.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Rheoliad 32(2)

ATODLEN 2LL+CSymiau cymwysadwy: pensiynwyr

RHAN 1LL+CLwfansau personol

Lwfans personolLL+C

1.  Y swm a bennir yng ngholofn (2) isod mewn perthynas â phob person neu gwpl a bennir yng ngholofn (1) yw’r swm a bennir at ddibenion paragraff 1(1)(a) o Atodlen 1.

Colofn (1)

Person, cwpl neu briodas amlbriod

Colofn (2)

Swm

(1Ceisydd sengl neu unig riant—

(a)

o dan 65 oed;

[F1£148.35;]
(b)

65 oed neu drosodd.

[F1£165.15.]

(2Cwpl—

(a)

y ddau aelod o dan 65 oed;

[F2£226.50;]
(b)

un aelod neu’r ddau yn 65 oed neu drosodd

[F2£247.20.]

(3Os yw’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod ac nad oes yr un aelod o’r briodas wedi cyrraedd 65 oed—

(a)

ar gyfer y ceisydd a’r parti arall i’r briodas;

[F3£226.50;]
(b)

ar gyfer pob priod ychwanegol sy’n aelod o’r un aelwyd â’r ceisydd.

[F3£78.15]

(4Os yw’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod ac un neu ragor o aelodau’r briodas yn 65 oed neu drosodd—

(a)

ar gyfer y ceisydd a’r parti arall i’r briodas;

[F4£247.20;]
(b)

ar gyfer pob priod ychwanegol sy’n aelod o’r un aelwyd â’r ceisydd.

[F4£82.05.]

Symiau plentyn neu berson ifancLL+C

2.—(1Y symiau a bennir yng ngholofn (2) isod, mewn perthynas â phob person a bennir yng ngholofn (1), yw’r symiau ar gyfer y cyfnod perthnasol a bennir yng ngholofn (1), a bennir at ddibenion paragraff 1(1)(b) o Atodlen 1.

Colofn (1)

Plentyn neu berson ifanc

Colofn (2)

Swm

Person mewn perthynas â’r cyfnod—
(a)

sy’n cychwyn ar ddyddiad geni’r person hwnnw ac yn dod i ben ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y person hwnnw;

[F5£66.33;]
(b)

sy’n cychwyn ar y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y person hwnnw ac yn diweddu ar y diwrnod cyn ugeinfed pen-blwydd y person hwnnw.

[F5£66.33.]

(2Yng ngholofn (1) o’r tabl, yn is-baragraff (1) ystyr “y dydd Llun cyntaf ym Medi” (“the first Monday in September”) yw’r dydd Llun sy’n digwydd gyntaf yn ystod mis Medi mewn unrhyw flwyddyn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 Rhn. 1 para. 2 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CPremiwm teulu

Premiwm teuluLL+C

3.  Y swm at ddibenion paragraff 1(1)(c) o Atodlen 1 mewn perthynas â theulu y mae o leiaf un aelod ohono’n blentyn neu’n berson ifanc yw £17.40.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 Rhn. 2 para. 3 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CPremiymau

4.  At ddibenion paragraff 1(1)(d) o Atodlen 1, bydd y premiymau a bennir yn Rhan 4 yn gymwysadwy i geisydd sy’n bodloni’r amod a bennir yn y Rhan hon mewn perthynas â’r premiwm hwnnw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 Rhn. 3 para. 4 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

5.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), at ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon, unwaith y bydd premiwm yn gymwysadwy i geisydd o dan y Rhan hon, rhaid trin person fel pe bai’n cael unrhyw fudd-dal—LL+C

(a)yn achos budd-dal y mae Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Budd-daliadau Sy’n Gorgyffwrdd) 1979(1) yn gymwys iddo, yn ystod unrhyw gyfnod y byddai’r person, oni bai am y ddarpariaeth o’r Rheoliadau hynny, yn cael y budd-dal hwnnw; a

(b)yn ystod unrhyw gyfnod a dreulir gan berson yn ymgymryd â chwrs o hyfforddiant neu gyfarwyddyd a ddarperir neu a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(2), neu gan Ddatblygu Sgiliau yr Alban, Menter yr Alban neu Fenter yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd o dan adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990(3) neu yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’r person hwnnw’n cael lwfans hyfforddi.

(2At ddibenion y premiwm gofalwr o dan baragraff 9, ni ddylid trin person fel pe bai’n cael lwfans gofalwr yn rhinwedd is-baragraff (1)(a) ac eithrio pan a chyhyd ag y bo’r person yr hawliwyd y lwfans mewn perthynas â’i ofal yn dal i gael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 Rhn. 3 para. 5 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Premiwm anabledd difrifolLL+C

6.—(1Yr amod yw fod y ceisydd yn berson ag anabledd difrifol.

(2At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin ceisydd fel pe bai’n berson ag anabledd difrifol—

(a)yn achos ceisydd sengl, unig riant neu geisydd a drinnir fel pe na bai ganddo bartner o ganlyniad i is-baragraff (3) os, ac yn unig os—

(i)yw’r ceisydd yn cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; a

(ii)yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), nad oes gan y ceisydd unrhyw annibynyddion sy’n 18 oed neu drosodd ac yn preswylio fel arfer gyda’r ceisydd, neu y mae’r ceisydd fel arfer y preswylio gyda hwy; a

(iii)nad oes neb sydd â hawl i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr mewn perthynas â gofalu am y ceisydd;

(b)yn achos ceisydd sydd â phartner, os ac yn unig os—

(i)yw’r ceisydd yn cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA;

(ii)yw partner y ceisydd hefyd yn cael lwfans o’r fath neu, pan fo’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod, pob aelod arall o’r briodas honno’n cael lwfans o’r fath; a

(iii)yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), nad oes gan y ceisydd unrhyw annibynyddion sy’n 18 oed neu drosodd ac yn preswylio fel arfer gyda’r ceisydd, neu y mae’r ceisydd fel arfer y preswylio gyda hwy,

a naill ai mae person sydd â hawl i gael ac yn cael, lwfans gofalwr mewn perthynas â gofalu am un aelod yn unig o’r cwpl, neu, os yw’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod, am un neu ragor ond nid pob un o aelodau’r briodas, neu, yn ôl fel y digwydd, nad oes person sydd â hawl i gael ac yn cael, lwfans o’r fath mewn perthynas â gofalu am y naill na’r llall o aelodau’r cwpl, neu am unrhyw aelod o’r briodas.

(3Pan fo gan geisydd bartner nad yw’n bodloni’r amod yn is-baragraff (2)(b)(ii), a’r partner hwnnw’n ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall o fewn ystyr is-baragraff (4), rhaid trin y partner hwnnw at ddibenion is-baragraff (2) fel pe na bai’r partner hwnnw’n bartner i’r ceisydd.

(4At ddibenion is-baragraff (3), mae person yn ddall os yw’r person hwnnw wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gedwir gan awdurdod lleol o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(4) (gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994(5).

(5At ddibenion is-baragraff (4), yn achos person y peidiwyd â’i gofrestru fel person dall wedi iddo adennill ei olwg, rhaid ei drin, er gwaethaf hynny, fel pe bai’n ddall ac yn bodloni’r amod ychwanegol a bennir yn yr is-baragraff hwnnw am gyfnod o 28 wythnos yn dilyn y dyddiad y peidiwyd â chofrestru’r person felly.

(6At ddibenion is-baragraff (2)(a)(ii) a (2)(b)(iii) rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth—

(a)person sy’n cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; neu

(b)person sy’n ddall neu a drinnir fel pe bai’n ddall o fewn ystyr is-baragraffau (4) a (5).

(7At ddibenion is-baragraff (2)(b) rhaid trin person—

(a)fel pe bai’n cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, os byddai’r person hwnnw’n yn cael y lwfans hwnnw neu’r elfen honno felly, pe na bai wedi bod yn glaf am gyfnod hwy na 28 diwrnod;

(b)fel pe bai’n cael elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y gyfradd a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 os byddai’r person yn cael yr elfen honno felly, pe na bai wedi bod yn glaf am gyfnod hwy na 28 diwrnod, er gwaethaf adran 86 o’r Ddeddf honno a rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno;

(c)fel pe bai’n cael TALlA, os byddai’r person hwnnw’n cael y taliad hwnnw felly oni bai am atal y taliad dros dro yn unol ag unrhyw delerau cynllun digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn sy’n caniatáu ataliad dros dro oherwydd bod person yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb;

(d)fel pe bai hawl ganddo i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr, os byddai ganddo hawl i gael ac y byddai’n cael y lwfans hwnnw felly pe na bai’r person y mae’r person hwnnw’n gofalu amdano yn glaf mewn ysbyty am gyfnod hwy nag 28 diwrnod.

(8At ddibenion is-baragraff (2)(a)(iii) a (2)(b)—

(a)rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth ddyfarniad o lwfans gofalwr, i’r graddau y mae taliad o’r cyfryw ddyfarniad wedi ei ôl-ddyddio ar gyfer cyfnod cyn y dyddiad y talwyd y dyfarniad gyntaf; a

(b)mae cyfeiriadau at berson sy’n cael lwfans gofalwr yn cynnwys cyfeiriadau at berson a fyddai wedi bod yn cael y lwfans hwnnw oni bai am weithredu cyfyngiad o dan adran 6B neu 7 o Ddeddf Twyll Nawdd Cymdeithasol 2001(6) (darpariaethau colli budd-dal).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 2 Rhn. 3 para. 6 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Premiwm anabledd uwchLL+C

7.—(1Yr amod yw bod—

(a)elfen ofal y lwfans byw i’r anabl yn daladwy ar y gyfradd uchaf a ragnodir o dan adran 72(3) o DCBNC, neu y byddai’n daladwy oni bai am atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o’r Ddeddf honno, neu oni bai am leihad oherwydd traddodi i ysbyty;

(b)elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol yn daladwy ar y gyfradd uwch a ragnodir yn unol ag adran 78(2) o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu y byddai’n daladwy oni bai am atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 86 o’r Ddeddf honno; neu

(c)TALlA yn daladwy,

mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc sy’n aelod o deulu’r ceisydd.

(2Os peidir â bodloni’r amod yn is-baragraff (1) oherwydd marwolaeth plentyn neu berson ifanc, yr amod yw fod hawl gan y ceisydd neu bartner i gael budd-dal plant mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc o dan adran 145A o DCBNC (hawlogaeth ar ôl marwolaeth plentyn neu berson ifanc cymwys).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 Rhn. 3 para. 7 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Premiwm plentyn anablLL+C

8.  Yr amod yw fod plentyn neu berson ifanc y mae’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn gyfrifol amdano ac sy’n aelod o aelwyd y ceisydd—

(a)yn cael lwfans byw i’r anabl neu daliad annibyniaeth bersonol neu nad yw bellach yn cael y cyfryw lwfans neu daliad oherwydd bod y plentyn neu berson ifanc yn glaf, ar yr amod bod y plentyn neu berson ifanc yn parhau’n aelod o’r teulu; neu

(b)yn ddall o fewn ystyr paragraff 6(4) neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall yn unol â pharagraff 6(5); neu

(c)yn blentyn neu berson ifanc y mae adran 145A o DCBNC (hawlogaeth ar ôl marwolaeth plentyn neu berson ifanc cymwys) yn gymwys at ddibenion hawlogaeth i fudd-dal plant ond yn unig am y cyfnod a ragnodir o dan yr adran honno, ac y cynhwyswyd premiwm plentyn anabl mewn perthynas ag ef yn swm cymwysadwy’r ceisydd yn union cyn marwolaeth y plentyn neu’r person ifanc hwnnw, neu peidiwyd â’i gynnwys yn swm cymwysadwy’r ceisydd oherwydd marwolaeth y plentyn neu’r person ifanc hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 2 Rhn. 3 para. 8 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Premiwm gofalwrLL+C

9.—(1Yr amod yw fod hawl i gael lwfans gofalwr gan y ceisydd neu bartner y ceisydd, neu’r ddau ohonynt.

(2Os oes premiwm gofalwr wedi ei ddyfarnu, ond—

(a)bu farw’r person y dyfarnwyd y lwfans gofalwr mewn perthynas â’i ofal; neu

(b)os peidiodd hawl y person y dyfarnwyd y premiwm mewn perthynas ag ef i gael lwfans gofalwr, neu os peidiodd â chael ei drin fel pe bai hawl ganddo i gael lwfans gofalwr,

rhaid trin y paragraff hwn fel pe bai wedi ei fodloni am gyfnod o wyth wythnos o’r dyddiad perthnasol a bennir yn is-baragraff (3).

(3Y dyddiad perthnasol at ddibenion is-baragraff (2) yw—

(a)mewn achos o fewn is-baragraff (2)(a), y dydd Sul sy’n dilyn marwolaeth y person y dyfarnwyd y lwfans gofalwr mewn perthynas â’i ofal (neu ddyddiad y farwolaeth os digwyddodd y farwolaeth ar ddydd Sul);

(b)mewn achos o fewn is-baragraff (2)(b), y dyddiad y peidiodd hawl y person a oedd â hawl i gael lwfans gofalwr.

(4At ddibenion y paragraff hwn, rhaid trin person fel pe bai ganddo hawl i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr yn ystod unrhyw gyfnod nad oedd o fewn cyfnod dyfarniad, ond y gwnaed taliad mewn perthynas ag ef yn lle dyfarniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 Rhn. 3 para. 9 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Personau sy’n cael taliadau consesiynolLL+C

10.  At y diben o benderfynu a oes premiwm yn gymwysadwy i berson o dan baragraffau 6 i 9, rhaid trin unrhyw daliad consesiynol, a wnaed i ddigolledu’r person hwnnw oherwydd methiant i dalu unrhyw fudd-dal a grybwyllir yn y paragraffau hynny, fel pe bai’n daliad o’r budd-dal hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 2 Rhn. 3 para. 10 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Person sy’n cael budd-dalLL+C

11.  At ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon, mae person i’w ystyried fel pe bai’n cael unrhyw fudd-dal os, ac yn unig os, telir y budd-dal mewn perthynas â’r person hwnnw ac mae’r person i’w ystyried felly yn ystod, yn unig, pa bynnag gyfnod y telir y budd-dal hwnnw mewn perthynas ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 2 Rhn. 3 para. 11 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CSymiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 2 Rhn. 4 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Premiwm

Swm

12.—(1Premiwm Anabledd Difrifol—

(a)

pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 6(2)(a);

[F6£61.10;]
(b)

pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 6(2)(b)—

(i)

mewn achos pan fo rhywun yn cael lwfans gofalwr neu pan fo’r person hwnnw neu unrhyw bartner yn bodloni’r amod hwnnw yn rhinwedd paragraff 6(7) yn unig;

[F6£61.10;]
(ii)

mewn achos pan nad oes neb yn cael lwfans o’r fath.

[F6£122.20.]

(2Premiwm Anabledd Uwch.

(2) [F7£24.08 ]mewn perthynas â phob plentyn neu berson ifanc y mae’r amodau a bennir ym mharagraff 7 wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef.

(3Premiwm Plentyn Anabl.

(3) [F8£59.50 ]mewn perthynas â phob plentyn neu berson ifanc y mae’r amod a bennir ym mharagraff 8 wedi ei fodloni mewn perthynas ag ef.

(4Premiwm Gofalwr.

(4) [F9£34.20 ]mewn perthynas â phob person sy’n bodloni’r amod a bennir ym mharagraff 9.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources