ATODLEN 2Symiau cymwysadwy: pensiynwyr

RHAN 3Premiymau

Premiwm anabledd uwch

7.

(1)

Yr amod yw bod—

(a)

elfen ofal y lwfans byw i’r anabl yn daladwy ar y gyfradd uchaf a ragnodir o dan adran 72(3) o DCBNC, neu y byddai’n daladwy oni bai am atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o’r Ddeddf honno, neu oni bai am leihad oherwydd traddodi i ysbyty;

(b)

elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol yn daladwy ar y gyfradd uwch a ragnodir yn unol ag adran 78(2) o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu y byddai’n daladwy oni bai am atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 86 o’r Ddeddf honno; neu

(c)

TALlA yn daladwy,

mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc sy’n aelod o deulu’r ceisydd.

(2)

Os peidir â bodloni’r amod yn is-baragraff (1) oherwydd marwolaeth plentyn neu berson ifanc, yr amod yw fod hawl gan y ceisydd neu bartner i gael budd-dal plant mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc o dan adran 145A o DCBNC (hawlogaeth ar ôl marwolaeth plentyn neu berson ifanc cymwys).