Premiwm gofalwrLL+C
9.—(1) Yr amod yw fod hawl i gael lwfans gofalwr gan y ceisydd neu bartner y ceisydd, neu’r ddau ohonynt.
(2) Os oes premiwm gofalwr wedi ei ddyfarnu, ond—
(a)bu farw’r person y dyfarnwyd y lwfans gofalwr mewn perthynas â’i ofal; neu
(b)os peidiodd hawl y person y dyfarnwyd y premiwm mewn perthynas ag ef i gael lwfans gofalwr, neu os peidiodd â chael ei drin fel pe bai hawl ganddo i gael lwfans gofalwr,
rhaid trin y paragraff hwn fel pe bai wedi ei fodloni am gyfnod o wyth wythnos o’r dyddiad perthnasol a bennir yn is-baragraff (3).
(3) Y dyddiad perthnasol at ddibenion is-baragraff (2) yw—
(a)mewn achos o fewn is-baragraff (2)(a), y dydd Sul sy’n dilyn marwolaeth y person y dyfarnwyd y lwfans gofalwr mewn perthynas â’i ofal (neu ddyddiad y farwolaeth os digwyddodd y farwolaeth ar ddydd Sul);
(b)mewn achos o fewn is-baragraff (2)(b), y dyddiad y peidiodd hawl y person a oedd â hawl i gael lwfans gofalwr.
(4) At ddibenion y paragraff hwn, rhaid trin person fel pe bai ganddo hawl i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr yn ystod unrhyw gyfnod nad oedd o fewn cyfnod dyfarniad, ond y gwnaed taliad mewn perthynas ag ef yn lle dyfarniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 Rhn. 3 para. 9 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)