xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 32(2)
1. Pan fo dau neu ragor o baragraffau 2 i 5 yn gymwys mewn unrhyw achos penodol, mae’r uchafswm cyfanredol sydd i’w ddiystyru yn yr achos hwnnw o dan y paragraffau hynny wedi ei gyfyngu i—LL+C
(a)£25 yn achos unig riant;
(b)£20 mewn unrhyw achos arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
2. Mewn achos pan fo’r ceisydd yn unig riant, £25 o’r enillion.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Yn achos enillion o unrhyw gyflogaeth neu gyflogaethau y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddi neu’n gymwys iddynt, £20.LL+C
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gyflogaeth—
(a)fel diffoddwr tân rhan-amser a gyflogir gan awdurdod tân ac achub, a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(1) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;
(b)fel diffoddwr tân rhan-amser a gyflogir gan Wasanaeth Tân ac Achub yr Alban(2);
(c)fel gwyliwr y glannau cynorthwyol mewn perthynas â gweithgareddau achub arfordirol;
(d)fel aelod o griw, neu ar gyfer lansio, bad achub pan fo’r gyflogaeth yn un rhan-amser;
(e)fel aelod o unrhyw un o’r lluoedd tiriogaethol neu’r lluoedd wrth gefn a ragnodir yn Rhan I o Atodlen 6 i Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyfraniadau) 2001(3).
(3) Os—
(a)diystyrir o dan is-baragraff (1) unrhyw enillion y ceisydd, neu enillion ei bartner os oes partner ganddo, neu enillion y ddau ohonynt; a
(b)bod gan y naill neu’r llall neu’r ddau ohonynt enillion eraill,
cymaint o’r enillion eraill hynny na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r enillion a ddiystyrwyd o dan yr is-baragraff hwnnw, yn fwy nag £20.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
4.—(1) Os yw’r ceisydd neu, os oes partner gan y ceisydd, ei bartner, yn ofalwr, neu os yw’r ddau ohonynt yn ofalwyr, £20 o unrhyw enillion a geir o gyflogaeth y ceisydd neu’r ddau ohonynt.LL+C
(2) Os dyfernir y premiwm gofalwr mewn perthynas â’r ceisydd a hefyd mewn perthynas ag unrhyw bartner y ceisydd, rhaid cydgrynhoi eu henillion at ddibenion y paragraff hwn, ond ni chaiff y swm a ddiystyrir yn unol ag is-baragraff (1) fod yn fwy nag £20 o’r swm cyfanredol.
(3) Yn y paragraff hwn mae’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn ofalwr os bodlonir paragraff 9 o Ran 3 o Atodlen 2 (premiwm gofalwr) mewn perthynas â’r ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
5.—(1) Diystyrir £20 os yw’r ceisydd neu, os oes partner gan y ceisydd, ei bartner—LL+C
(a)yn cael—
(i)budd-dal analluogrwydd hirdymor o dan adran 30A o DCBNC;
(ii)lwfans anabledd difrifol o dan adran 68 o’r Ddeddf honno;
(iii)lwfans gweini o dan adran 64 o’r Ddeddf honno;
(iv)lwfans byw i’r anabl;
(v)taliad annibyniaeth bersonol;
(vi)TALlA;
(vii)unrhyw atodiad symudedd o dan erthygl 20 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006(4) (gan gynnwys atodiad o’r fath yn rhinwedd unrhyw gynllun neu orchymyn arall) neu o dan erthygl 25A o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983(5);
(viii)yr elfen anabledd neu’r elfen anabledd difrifol o’r credyd treth gwaith o dan Atodlen 2 i Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth a’r Gyfradd Uchaf) 2002(6); neu
(ix)lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd; neu
(b)wedi ei gofrestru, neu’r ddau wedi eu cofrestru, yn ddall mewn cofrestr a gedwir gan awdurdod lleol o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(7) (gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994(8); neu
(c)yn analluog i weithio neu’n cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio yn unol â darpariaethau Rhan 12A o DCBNC (analluedd i weithio) a rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno, ac wedi bod yn analluog i weithio neu wedi cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio am gyfnod di-dor o ddim llai nag—
(i)yn achos ceisydd sy’n derfynol wael yn yr ystyr a roddir i “terminally ill” yn adran 30B(4) o DCBNC, 196 diwrnod;
(ii)mewn unrhyw achos arall, 364 diwrnod; neu
(d)yn berson, sydd â galluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith, neu’n cael ei drin fel pe bai â galluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith yn yr ystyr a roddir i “limited capacity for work” gan adran 1(4) o Ddeddf Diwygio Lles 2007, neu’n berson, sydd â galluogrwydd cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd perthynol i waith, neu’n cael ei drin fel pe bai â galluogrwydd cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd perthynol i waith yn yr ystyr a roddir i “limited capability for work-related activity” gan adran 2(5) o’r Ddeddf honno, a naill ai—
(i)y cyfnod asesu, yn yr ystyr o “assessment phase” fel y’i diffinnir yn adran 24(2) o Ddeddf Diwygio Lles 2007, wedi dod i ben; neu
(ii)rheoliad 7 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008(9) (amgylchiadau pan nad yw’r amod bod y cyfnod asesu wedi dod i ben cyn bod hawlogaeth i’r elfen gymorth neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith yn gymwys) yn gymwys.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), diystyrir £20 os oedd y ceisydd neu, os oes partner gan y ceisydd, ei bartner, o fewn cyfnod o 8 wythnos a ddaeth i ben ar y diwrnod y cyrhaeddodd y ceisydd neu bartner y ceisydd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth, yn cael dyfarniad o fudd-dal tai neu’n cael gostyngiad o dan gynllun awdurdod ac—
(a)os diystyrwyd £20 mewn perthynas ag enillion a gymerwyd i ystyriaeth yn y dyfarniad hwnnw; a
(b)os yw’r person yr oedd ei enillion yn gymwys ar gyfer y diystyru yn parhau mewn cyflogaeth ar ôl terfynu’r dyfarniad hwnnw.
(3) Mae’r diystyriad o £20 a bennir yn is-baragraff (2) yn gymwys ar yr amod nad oes toriad, ac eithrio toriad nad yw’n hwy nag 8 wythnos, yn—
(a)hawlogaeth y person i gael budd-dal tai; neu
(b)y cyfnod yr oedd yn cael gostyngiad o dan gynllun awdurdod; neu
(c)ei gyflogaeth,
yn dilyn y diwrnod cyntaf y dyfarnwyd mewn perthynas ag ef y budd-dal hwnnw neu’r gostyngiad hwnnw o dan gynllun awdurdod.
(4) £20 yw’r uchafswm y caniateir ei ddiystyru o dan y paragraff hwn, hyd yn oed, pan fo gan y ceisydd bartner, os yw’r ceisydd yn ogystal â’i bartner yn bodloni gofynion y paragraff hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
6.—(1) Os—LL+C
(a)yw’r ceisydd (neu os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, o leiaf un aelod o’r cwpl hwnnw) yn berson y mae is-baragraff (5) yn gymwys iddo;
(b)yr Ysgrifennydd Gwladol wedi ei fodloni bod y person yn ymgymryd â gwaith esempt, fel y’i diffinnir yn is-baragraff (6); ac
(c)nad yw paragraff 7 o Atodlen 1 (pensiynwyr sy’n cael credyd gwarant) yn gymwys,
y swm a bennir yn is-baragraff (7) (“y swm penodedig”).
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, nid yw paragraffau 1 i 5 ac 8 yn gymwys; ond mewn unrhyw achos pan fo’r ceisydd yn unig riant, ac os byddai’r swm penodedig yn llai na’r swm a bennir ym mharagraff 2, yna bydd paragraff 2 yn gymwys yn lle’r paragraff hwn.
(3) Er gwaethaf paragraff 5 o Atodlen 1 (cyfrifo incwm a chyfalaf: teulu’r ceisydd a phriodasau amlbriod: pensiynwyr), os yw is-baragraff (1) yn gymwys i un aelod o gwpl (“A”) rhaid peidio â’i gymhwyso i’r aelod arall o’r cwpl hwnnw (“B”) ac eithrio i’r graddau y darperir yn is-baragraff (4).
(4) Pan fo enillion A yn llai na’r swm penodedig, rhaid diystyru hefyd gymaint o enillion B, o’i gydgrynhoi ag enillion A, na fyddai’n fwy na’r swm penodedig; ond mae’r swm o enillion B y caniateir ei ddiystyru o dan yr is-baragraff hwn yn gyfyngedig i uchafswm o £20, oni fodlonir yr Ysgrifennydd Gwladol fod B hefyd yn ymgymryd â gwaith esempt.
(5) Mae’r is-baragraff yn gymwys i berson—
(a)sy’n cael lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol;
(b)sy’n cael budd-dal analluogrwydd;
(c)sy’n cael lwfans anabledd difrifol;
(d)a gredydir ag enillion ar sail analluedd i weithio neu alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith o dan reoliad 8B o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Credydau)1975(10).
(6) Ystyr “gwaith esempt” yw gwaith yn yr ystyr a roddir i “exempt work” yn—
(a)rheoliad 45(2), (3) neu (4) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008; neu (yn ôl fel y digwydd)
(b)rheoliad 17(2), (3) neu (4) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Analluedd i Weithio) (Cyffredinol) 1995(11),
ac wrth benderfynu a yw ceisydd neu aelod o gwpl yn ymgymryd ag unrhyw fath o waith esempt at ddibenion y paragraff hwn, nid yw’n berthnasol a yw’r person hwnnw, neu bartner y person hwnnw, yn ymgymryd â gwaith arall yn ogystal.
(7) Y swm penodedig yw’r swm o arian a grybwyllir o bryd i’w gilydd mewn unrhyw ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (6) ac y mae’r gwaith y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn esempt yn ei rhinwedd (neu, os oes mwy nag un ddarpariaeth berthnasol o’r fath, ac os yw’r darpariaethau hynny’n crybwyll symiau gwahanol o arian, yr uchaf o’r symiau hynny).
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
7. Unrhyw swm, neu’r gweddill o unrhyw swm, y byddid yn ei ddiystyru o dan baragraff 18 neu 19 o Atodlen 4 pe bai incwm y ceisydd nad yw’n enillion wedi bod yn ddigon i roi hawl i’r ceisydd gael diystyru’r swm llawn o dan y paragraffau hynny.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
8. Ac eithrio pan fo’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn gymwys am ddiystyriad o £20 o dan ddarpariaethau blaenorol yr Atodlen hon—LL+C
(a)rhaid diystyru £5 os oes enillion gan geisydd nad oes ganddo bartner;
(b)rhaid diystyru £10 os oes enillion gan geisydd y mae ganddo bartner.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
9. Unrhyw enillion, ac eithrio enillion y cyfeirir atynt ym mharagraff 11(9)(b) o Atodlen 1 (cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr), sy’n deillio o gyflogaeth a ddaeth i ben cyn y diwrnod pan fo’r ceisydd yn bodloni gyntaf yr amodau ar gyfer hawlogaeth i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
10.—(1) Mewn achos pan fo’r ceisydd yn berson sy’n bodloni un, o leiaf, o’r amodau a bennir yn is-baragraff (2), ac enillion net y ceisydd yn hafal i neu’n fwy na chyfanswm y symiau a bennir yn is-baragraff (3), rhaid cynyddu o £17.10 y swm o enillion y ceisydd sydd i’w diystyru o dan yr Atodlen hon.LL+C
(2) Amodau’r is-baragraff hwn yw—
(a)bod y ceisydd neu, os oes partner gan y ceisydd, naill ai’r ceisydd neu ei bartner, yn berson y mae rheoliad 20(1)(c) o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth a’r Gyfradd Uchaf) 2002(12) yn gymwys iddo; neu
(b)bod—
(i)y ceisydd, neu unrhyw bartner y ceisydd, yn 25 oed o leiaf ac yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai na 30 awr yr wythnos ar gyfartaledd; neu
(ii)os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl—
(aa)un aelod, o leiaf, o’r cwpl hwnnw’n ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd; a
(bb)swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys premiwm teulu o dan baragraff 3 o Atodlen 2; neu
(iii)y ceisydd yn unig riant sy’n ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd; neu
(iv)y ceisydd neu, os oes partner gan y ceisydd, un ohonynt, yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, a pharagraff 5(1) wedi ei fodloni mewn perthynas â’r person hwnnw.
(3) Y canlynol yw’r symiau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)—
(a)unrhyw swm a ddiystyrir o dan yr Atodlen hon;
(b)swm y costau gofal plant a gyfrifir yn ddidynadwy o dan baragraff 18(1)(c) o Atodlen 1 (cyfrifo incwm ar sail wythnosol: pensiynwyr); ac
(c)£17.10.
(4) Mae darpariaethau rheoliad 10 (gwaith am dâl) yn gymwys wrth benderfynu a yw person yn gweithio am ddim llai na 30 awr yr wythnos ar gyfartaledd ai peidio, ond hynny fel pe bai’r cyfeiriad at 16 awr yn is-baragraff (1) o’r rheoliad hwnnw yn gyfeiriad at 30 awr.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
11. Os gwneir taliad o enillion mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi’r taliad hwnnw i sterling.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
Mae adran 1A o Ddeddf Tân (Yr Alban) 2005 (dsa 5) yn cyfeirio at hyn. Mewnosodwyd adran 1A gan adran 101 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Thân (Yr Alban) 2012 (dsa 8).