Rheoliad 32(2)
ATODLEN 4LL+CSymiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: pensiynwyr
1. Yn ychwanegol at unrhyw swm sydd i’w ddiystyru yn unol â pharagraffau 2 i 6, £10 o unrhyw rai o’r canlynol—LL+C
(a)pensiwn anabledd rhyfel (ac eithrio i’r graddau y mae pensiwn o’r fath i gael ei ddiystyru o dan baragraff 2 neu 3);
(b)pensiwn rhyfel gwraig weddw neu bensiwn rhyfel gŵr gweddw;
(c)pensiwn sy’n daladwy i berson fel gwraig weddw, gŵr gweddw neu bartner sifil sy’n goroesi, o dan unrhyw bŵer Ei Mawrhydi, ac eithrio o dan ddeddfiad, i wneud darpariaeth ynglŷn â phensiynau ar gyfer neu mewn perthynas â phersonau a wnaed yn anabl neu a fu farw o ganlyniad i wasanaethu fel aelodau o luoedd arfog y Goron;
(d)taliad incwm gwarantedig ac, os yw swm y taliad hwnnw wedi ei ostwng i lai na £10 gan bensiwn neu daliad sy’n dod o fewn erthygl 39(1)(a) neu (b) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011(1), cymaint o’r pensiwn neu’r taliad hwnnw na fyddai, o’i gydgrynhoi â swm unrhyw daliad incwm gwarantedig a ddiystyrwyd, yn fwy na £10;
(e)taliad a wnaed i ddigolledu am fethiant i dalu unrhyw bensiwn neu daliad a grybwyllir yn unrhyw un o’r is-baragraffau blaenorol;
(f)pensiwn a delir gan lywodraeth gwlad y tu allan i Brydain Fawr, sy’n cyfateb i unrhyw un o’r pensiynau neu’r taliadau a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (d) uchod;
(g)pensiwn a delir i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol, o dan unrhyw ddarpariaeth arbennig a wneir gan gyfraith Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, neu unrhyw ran ohoni, neu Weriniaeth Awstria.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
2. Y cyfan o unrhyw swm a gynhwysir mewn pensiwn y mae paragraff 1 yn ymwneud ag ef mewn perthynas ag—LL+C
(a)angen y ceisydd am weini cyson;
(b)anabledd eithriadol o ddifrifol y ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
3. Unrhyw atodiad symudedd o dan erthygl 20 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006(2) (gan gynnwys atodiad o’r fath yn rhinwedd unrhyw gynllun neu orchymyn arall) neu o dan erthygl 25A o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983(3) neu unrhyw daliad y bwriedir iddo ddigolledu am fethiant i dalu atodiad o’r fath.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
4. Unrhyw bensiwn atodol o dan erthygl 23(2) o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006 (pensiynau i wŷr priod a gwragedd priod sy’n goroesi, a phartneriaid sifil sy’n goroesi) ac unrhyw daliad cyfatebol a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn i unrhyw berson nad oes hawl ganddo o dan y Gorchymyn hwnnw.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
5. Yn achos pensiwn a ddyfarnwyd ar y gyfradd atodol o dan erthygl 27(3) o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983 (pensiynau i wŷr priod a gwragedd priod sy’n goroesi, a phartneriaid sifil sy’n goroesi), y swm a bennir ym mharagraff 1(c) o Atodlen 4 i’r Cynllun hwnnw.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
6.—(1) Unrhyw daliad—LL+C
(a)a wneir o dan unrhyw un o’r Offerynnau Dosbarthu i wraig neu ŵr gweddw, neu bartner sifil sy’n goroesi person—
(i)yr oedd ei farwolaeth i’w briodoli i wasanaeth mewn swyddogaeth gyfatebol i wasanaeth fel aelod o luoedd arfog y Goron; a
(ii)y terfynodd ei wasanaeth yn y cyfryw swyddogaeth cyn 31 Mawrth 1973; a
(b)sy’n hafal i’r swm a bennir yn erthygl 23(2) o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006.
(2) Yn y paragraff hwn ystyr “yr Offerynnau Dosbarthu” (“the Dispensing Instruments”) yw Gorchymyn y Cyfrin Gyngor ar 19 Rhagfyr 1881, Y Warant Frenhinol ar 27 Hydref 1884 a’r Gorchymyn gan Ei Fawrhydi ar 14 Ionawr 1922 (dyfarniadau eithriadol o dâl, tâl aneffeithiol a lwfansau).
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
7. £15 o unrhyw lwfans rhiant gweddw y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adran 39A o DCBNC.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
8. £15 o unrhyw lwfans mam weddw y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adran 37 o DCBNC.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
9. Pan fo ceisydd yn meddiannu annedd fel ei gartref, a’r ceisydd, yn yr annedd honno, yn darparu prydau bwyd a llety, swm, mewn perthynas â phob person y darperir llety o’r fath iddo am y cyfan neu unrhyw ran o wythnos, sy’n hafal i—LL+C
(a)pan nad yw swm cyfanredol unrhyw daliadau a wneir mewn perthynas ag unrhyw un wythnos mewn perthynas â llety o’r fath a ddarperir i berson o’r fath yn fwy nag £20, 100 y cant o’r cyfryw daliadau; neu
(b)pan fo swm cyfanredol unrhyw daliadau o’r fath yn fwy nag £20, £20 a 50 y cant o’r swm dros ben £20.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
10. Os yw’r ceisydd—LL+C
(a)yn berchen buddiant rhydd-ddaliad neu lesddaliad unrhyw eiddo neu’n denant unrhyw eiddo; a
(b)yn meddiannu rhan o’r eiddo hwnnw; ac
(c)â chytundeb rhyngddo a pherson arall sy’n caniatáu i’r person hwnnw feddiannu rhan arall o’r eiddo hwnnw am dalu rhent ac—
(i)y swm a delir gan y person hwnnw yn llai nag £20 yr wythnos, y cyfan o’r swm hwnnw; neu
(ii)y swm a delir yn £20 neu ragor yr wythnos, £20.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
11. Pan fo ceisydd yn cael incwm o dan flwydd-dal a brynwyd gyda benthyciad, sy’n bodloni’r amodau canlynol—LL+C
(a)bod y benthyciad wedi ei wneud fel rhan o gynllun a oedd yn peri bod dim llai na 90 y cant o dderbyniadau’r benthyciad yn cael eu defnyddio gan y person y rhoddwyd y benthyciad iddo i brynu blwydd-dal a ddaw i ben ar ddiwedd oes y person hwnnw, neu ddiwedd oes yr un sy’n goroesi o blith dau neu ragor o bersonau (y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn fel “y derbynyddion blwydd-dal”) sy’n cynnwys y person y rhoddwyd y benthyciad iddo;
(b)ar yr adeg y gwnaed y benthyciad, bod y person y’i rhoddwyd iddo neu bob un o’r derbynyddion blwydd-dal, wedi cyrraedd 65 oed;
(c)bod y benthyciad wedi ei sicrhau ar annedd ym Mhrydain Fawr, a bod y person y gwnaed y benthyciad iddo, neu un o’r derbynyddion blwydd-dal, yn berchen ystâd neu fuddiant yn yr annedd honno;
(d)bod y person y gwnaed y benthyciad iddo, neu un o’r derbynyddion blwydd-dal, yn meddiannu’r annedd y sicrhawyd y benthyciad arni, fel cartref y person neu’r derbynnydd blwydd-dal hwnnw ar yr adeg y telir y llog; ac
(e)y telir y llog sy’n daladwy ar y benthyciad gan y person y rhoddwyd y benthyciad iddo neu gan un o’r derbynyddion blwydd-dal,
y swm, a gyfrifir ar sail wythnosol, sy’n hafal i—
(i)pan fo adran 369 o Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988(4) (llog morgais sy’n daladwy ar ôl didynnu treth) yn gymwys i’r taliadau o’r llog ar y benthyciad, y llog sy’n daladwy ar ôl didynnu swm sy’n hafal i’r dreth incwm ar y cyfryw daliadau yn unol â’r ganran gymwysadwy o dreth incwm, o fewn yr ystyr a roddir i “the applicable percentage of income tax” gan adran 369(1A) o’r Ddeddf honno;
(ii)mewn unrhyw achos arall, y llog sy’n daladwy ar y benthyciad heb ddidynnu swm o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Unrhyw daliad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, a wneir i’r ceisydd gan Ymddiriedolwyr wrth arfer disgresiwn sy’n arferadwy gan yr Ymddiriedolwyr.LL+C
(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i daliadau a wneir i’r ceisydd gan Ymddiriedolwyr wrth arfer disgresiwn sy’n arferadwy ganddynt at y diben o—
(a)caffael bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin neu danwydd cartref;
(b)talu rhent, treth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn atebol i’w talu;
(c)talu costau tai o fath a bennir yn Atodlen 2 i Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(5).
(3) Mewn achos y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, £20 neu—
(a)os yw’r taliad yn llai nag £20, y cyfan o’r taliad;
(b)os, yn achos y ceisydd, diystyrir £10 yn unol â pharagraff 1(a) i (g), £10 neu’r taliad cyfan os yw’n llai na £10; neu
(c)os, yn achos y ceisydd, diystyrir £15 o dan baragraff 7 neu baragraff 8 ac—
(i)nad oes gan y ceisydd ddiystyriad o dan baragraff 1(a) i (g), £5 neu’r taliad cyfan os yw’n llai na £5;
(ii)pan fo gan y ceisydd ddiystyriad o dan baragraff 1(a) i (g), dim.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
13. Unrhyw gynnydd mewn pensiwn neu lwfans o dan Ran 2 neu 3 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006 a delir mewn perthynas â dibynnydd ac eithrio partner y pensiynwr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
14. Unrhyw daliad y mae llys wedi gorchymyn ei wneud i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd o ganlyniad i unrhyw ddamwain, anaf neu glefyd a ddioddefwyd gan y person neu blentyn y person y gwneir y taliad iddo neu mewn perthynas ag ef.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
15. Taliadau cyfnodol a wneir i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd o dan gytundeb yr ymunwyd ynddo i setlo hawliad a wnaed gan y ceisydd neu, yn ôl fel y digwydd, partner y ceisydd, am anaf a ddioddefwyd gan y ceisydd neu bartner y ceisydd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 4 para. 15 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
16. Unrhyw incwm sy’n daladwy y tu allan i’r Deyrnas Unedig, yn ystod unrhyw gyfnod pan fo gwaharddiad yn erbyn trosglwyddo’r incwm hwnnw i’r Deyrnas Unedig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 4 para. 16 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
17. Unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi taliadau incwm, a wneir mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, i sterling.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 4 para. 17 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
18. Pan fo’r ceisydd yn gwneud cyfraniad rhiant mewn perthynas â myfyriwr sy’n dilyn cwrs mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu’n ymgymryd ag addysg yn y Deyrnas Unedig, a’r cyfraniad hwnnw wedi ei asesu at y diben o gyfrifo—LL+C
(a)o dan, neu’n unol â rheoliadau a wnaed o dan bwerau a roddir gan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(6), dyfarniad y myfyriwr hwnnw;
(b)o dan reoliadau a wnaed wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(7), bwrsari, ysgoloriaeth neu lwfans arall y myfyriwr hwnnw o dan yr adran honno, neu o dan reoliadau a wnaed wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 73 o’r Ddeddf 1980 honno, unrhyw daliad i’r myfyriwr hwnnw o dan yr adran honno; neu
(c)benthyciad myfyriwr y myfyriwr hwnnw,
swm sy’n hafal i swm wythnosol y cyfraniad rhiant hwnnw, ond hynny mewn perthynas, yn unig, â’r cyfnod yr asesir bod y cyfraniad hwnnw’n daladwy ar ei gyfer.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 4 para. 18 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
19.—(1) Pan fo’r ceisydd yn rhiant myfyriwr sydd o dan 25 oed, mewn addysg uwch, a naill ai—LL+C
(a)ddim yn cael unrhyw ddyfarniad, grant na benthyciad myfyriwr mewn perthynas â’r addysg honno; neu
(b)yn cael dyfarniad a roddir yn rhinwedd Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno, neu fwrsari, ysgoloriaeth neu lwfans arall o dan adran 49(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980, neu daliad o dan adran 73 o’r Ddeddf 1980 honno,
a’r ceisydd yn gwneud taliadau i gyfrannu tuag at gynnal y myfyriwr, ac eithrio cyfraniad rhiant sy’n dod o fewn paragraff 18, swm a bennir yn is-baragraff (2) mewn perthynas â phob wythnos yn ystod tymor y myfyriwr.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), bydd y swm yn hafal i—
(a)swm wythnosol y taliadau; neu
(b)y swm ar gyfer lwfans personol i geisydd sengl sydd o dan 25 oed llai swm wythnosol unrhyw ddyfarniad, bwrsari, ysgoloriaeth, lwfans neu daliad y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(b),
pa un bynnag yw’r lleiaf.
(3) Yn y paragraff hwn a pharagraff 18 mae cyfeiriad at “benthyciad myfyriwr” neu “grant” yn gyfeiriad at fenthyciad myfyriwr neu grant o fewn ystyr Atodlen 11.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 4 para. 19 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
20.—(1) Pan fo swm cymwysadwy ceisydd yn cynnwys swm ar gyfer premiwm teulu, £15 o unrhyw daliad cynnal, boed o dan orchymyn llys ai peidio, a wnaed neu sy’n ddyladwy, gan briod, partner sifil, cyn-briod neu gyn-bartner sifil y ceisydd, neu briod, partner sifil, cyn-briod neu gyn-bartner sifil partner y ceisydd.LL+C
(2) At ddibenion is-baragraff (1), os oes mwy nag un taliad cynnal i’w gymryd i ystyriaeth mewn unrhyw wythnos, rhaid cydgrynhoi’r holl daliadau o’r fath a’u trin fel pe baent yn daliad sengl.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 4 para. 20 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
21. Ac eithrio mewn achos sy’n dod o dan baragraff 10 o Atodlen 3, pan fo’r ceisydd yn berson sy’n bodloni unrhyw un o’r amodau yn is-baragraff (2) o’r paragraff hwnnw, unrhyw swm o gredyd treth gwaith i fyny at £17.10.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 4 para. 21 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
22. Pan nad yw cyfanswm gwerth unrhyw gyfalaf a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 5 (cyfalaf a ddiystyrir at ddibenion penderfynu incwm tybiedig yn unig) yn fwy na £10,000, unrhyw incwm sy’n deillio mewn gwirionedd o gyfalaf o’r fath.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 4 para. 22 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
23. Ac eithrio yn achos incwm o gyfalaf a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 5, unrhyw incwm gwirioneddol o gyfalaf.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 4 para. 23 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
24. Os oedd gan y ceisydd, neu’r person a oedd yn bartner y ceisydd ar 31 Mawrth 2003, hawlogaeth ar y dyddiad hwnnw i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm ond peidiodd yr hawlogaeth honno ar neu cyn 5 Ebrill 2003 yn rhinwedd, yn unig, rheoliad 13 o Reoliadau Budd-dal Tai (Cyffredinol) Diwygio (Rhif 3) 1999(8) fel yr oedd mewn grym ar y dyddiad hwnnw, y cyfan o incwm y ceisydd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 4 para. 24 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)