Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 4

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 19/01/2024.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Rheoliad 32(2)

ATODLEN 4LL+CSymiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: pensiynwyr

1.  Yn ychwanegol at unrhyw swm sydd i’w ddiystyru yn unol â pharagraffau 2 i 6, £10 o unrhyw rai o’r canlynol—LL+C

(a)pensiwn anabledd rhyfel (ac eithrio i’r graddau y mae pensiwn o’r fath i gael ei ddiystyru o dan baragraff 2 neu 3);

(b)pensiwn rhyfel gwraig weddw neu bensiwn rhyfel gŵr gweddw;

(c)pensiwn sy’n daladwy i berson fel gwraig weddw, gŵr gweddw neu bartner sifil sy’n goroesi, o dan unrhyw bŵer Ei Mawrhydi, ac eithrio o dan ddeddfiad, i wneud darpariaeth ynglŷn â phensiynau ar gyfer neu mewn perthynas â phersonau a wnaed yn anabl neu a fu farw o ganlyniad i wasanaethu fel aelodau o luoedd arfog y Goron;

(d)taliad incwm gwarantedig ac, os yw swm y taliad hwnnw wedi ei ostwng i lai na £10 gan bensiwn neu daliad sy’n dod o fewn erthygl 39(1)(a) neu (b) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011(1), cymaint o’r pensiwn neu’r taliad hwnnw na fyddai, o’i gydgrynhoi â swm unrhyw daliad incwm gwarantedig a ddiystyrwyd, yn fwy na £10;

(e)taliad a wnaed i ddigolledu am fethiant i dalu unrhyw bensiwn neu daliad a grybwyllir yn unrhyw un o’r is-baragraffau blaenorol;

(f)pensiwn a delir gan lywodraeth gwlad y tu allan i Brydain Fawr, sy’n cyfateb i unrhyw un o’r pensiynau neu’r taliadau a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (d) uchod;

(g)pensiwn a delir i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol, o dan unrhyw ddarpariaeth arbennig a wneir gan gyfraith Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, neu unrhyw ran ohoni, neu Weriniaeth Awstria.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

2.  Y cyfan o unrhyw swm a gynhwysir mewn pensiwn y mae paragraff 1 yn ymwneud ag ef mewn perthynas ag—LL+C

(a)angen y ceisydd am weini cyson;

(b)anabledd eithriadol o ddifrifol y ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

3.  Unrhyw atodiad symudedd o dan erthygl 20 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006(2) (gan gynnwys atodiad o’r fath yn rhinwedd unrhyw gynllun neu orchymyn arall) neu o dan erthygl 25A o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983(3) neu unrhyw daliad y bwriedir iddo ddigolledu am fethiant i dalu atodiad o’r fath.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

4.  Unrhyw bensiwn atodol o dan erthygl 23(2) o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006 (pensiynau i wŷr priod a gwragedd priod sy’n goroesi, a phartneriaid sifil sy’n goroesi) ac unrhyw daliad cyfatebol a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn i unrhyw berson nad oes hawl ganddo o dan y Gorchymyn hwnnw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

5.  Yn achos pensiwn a ddyfarnwyd ar y gyfradd atodol o dan erthygl 27(3) o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983 (pensiynau i wŷr priod a gwragedd priod sy’n goroesi, a phartneriaid sifil sy’n goroesi), y swm a bennir ym mharagraff 1(c) o Atodlen 4 i’r Cynllun hwnnw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

6.—(1Unrhyw daliad—LL+C

(a)a wneir o dan unrhyw un o’r Offerynnau Dosbarthu i wraig neu ŵr gweddw, neu bartner sifil sy’n goroesi person—

(i)yr oedd ei farwolaeth i’w briodoli i wasanaeth mewn swyddogaeth gyfatebol i wasanaeth fel aelod o luoedd arfog y Goron; a

(ii)y terfynodd ei wasanaeth yn y cyfryw swyddogaeth cyn 31 Mawrth 1973; a

(b)sy’n hafal i’r swm a bennir yn erthygl 23(2) o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006.

(2Yn y paragraff hwn ystyr “yr Offerynnau Dosbarthu” (“the Dispensing Instruments”) yw Gorchymyn y Cyfrin Gyngor ar 19 Rhagfyr 1881, Y Warant Frenhinol ar 27 Hydref 1884 a’r Gorchymyn gan Ei Fawrhydi ar 14 Ionawr 1922 (dyfarniadau eithriadol o dâl, tâl aneffeithiol a lwfansau).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

7.  £15 o unrhyw lwfans rhiant gweddw y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adran 39A o DCBNC.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

8.  £15 o unrhyw lwfans mam weddw y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adran 37 o DCBNC.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

9.  Pan fo ceisydd yn meddiannu annedd fel ei gartref, a’r ceisydd, yn yr annedd honno, yn darparu prydau bwyd a llety, swm, mewn perthynas â phob person y darperir llety o’r fath iddo am y cyfan neu unrhyw ran o wythnos, sy’n hafal i—LL+C

(a)pan nad yw swm cyfanredol unrhyw daliadau a wneir mewn perthynas ag unrhyw un wythnos mewn perthynas â llety o’r fath a ddarperir i berson o’r fath yn fwy nag £20, 100 y cant o’r cyfryw daliadau; neu

(b)pan fo swm cyfanredol unrhyw daliadau o’r fath yn fwy nag £20, £20 a 50 y cant o’r swm dros ben £20.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

10.  Os yw’r ceisydd—LL+C

(a)yn berchen buddiant rhydd-ddaliad neu lesddaliad unrhyw eiddo neu’n denant unrhyw eiddo; a

(b)yn meddiannu rhan o’r eiddo hwnnw; ac

(c)â chytundeb rhyngddo a pherson arall sy’n caniatáu i’r person hwnnw feddiannu rhan arall o’r eiddo hwnnw am dalu rhent ac—

(i)y swm a delir gan y person hwnnw yn llai nag £20 yr wythnos, y cyfan o’r swm hwnnw; neu

(ii)y swm a delir yn £20 neu ragor yr wythnos, £20.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

11.  Pan fo ceisydd yn cael incwm o dan flwydd-dal a brynwyd gyda benthyciad, sy’n bodloni’r amodau canlynol—LL+C

(a)bod y benthyciad wedi ei wneud fel rhan o gynllun a oedd yn peri bod dim llai na 90 y cant o dderbyniadau’r benthyciad yn cael eu defnyddio gan y person y rhoddwyd y benthyciad iddo i brynu blwydd-dal a ddaw i ben ar ddiwedd oes y person hwnnw, neu ddiwedd oes yr un sy’n goroesi o blith dau neu ragor o bersonau (y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn fel “y derbynyddion blwydd-dal”) sy’n cynnwys y person y rhoddwyd y benthyciad iddo;

(b)ar yr adeg y gwnaed y benthyciad, bod y person y’i rhoddwyd iddo neu bob un o’r derbynyddion blwydd-dal, wedi cyrraedd 65 oed;

(c)bod y benthyciad wedi ei sicrhau ar annedd ym Mhrydain Fawr, a bod y person y gwnaed y benthyciad iddo, neu un o’r derbynyddion blwydd-dal, yn berchen ystâd neu fuddiant yn yr annedd honno;

(d)bod y person y gwnaed y benthyciad iddo, neu un o’r derbynyddion blwydd-dal, yn meddiannu’r annedd y sicrhawyd y benthyciad arni, fel cartref y person neu’r derbynnydd blwydd-dal hwnnw ar yr adeg y telir y llog; ac

(e)y telir y llog sy’n daladwy ar y benthyciad gan y person y rhoddwyd y benthyciad iddo neu gan un o’r derbynyddion blwydd-dal,

y swm, a gyfrifir ar sail wythnosol, sy’n hafal i—

(i)pan fo adran 369 o Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988(4) (llog morgais sy’n daladwy ar ôl didynnu treth) yn gymwys i’r taliadau o’r llog ar y benthyciad, y llog sy’n daladwy ar ôl didynnu swm sy’n hafal i’r dreth incwm ar y cyfryw daliadau yn unol â’r ganran gymwysadwy o dreth incwm, o fewn yr ystyr a roddir i “the applicable percentage of income tax” gan adran 369(1A) o’r Ddeddf honno;

(ii)mewn unrhyw achos arall, y llog sy’n daladwy ar y benthyciad heb ddidynnu swm o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

12.—(1Unrhyw daliad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, a wneir i’r ceisydd gan Ymddiriedolwyr wrth arfer disgresiwn sy’n arferadwy gan yr Ymddiriedolwyr.LL+C

(2Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i daliadau a wneir i’r ceisydd gan Ymddiriedolwyr wrth arfer disgresiwn sy’n arferadwy ganddynt at y diben o—

(a)caffael bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin neu danwydd cartref;

(b)talu rhent, treth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn atebol i’w talu;

(c)talu costau tai o fath a bennir yn Atodlen 2 i Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(5).

(3Mewn achos y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, £20 neu—

(a)os yw’r taliad yn llai nag £20, y cyfan o’r taliad;

(b)os, yn achos y ceisydd, diystyrir £10 yn unol â pharagraff 1(a) i (g), £10 neu’r taliad cyfan os yw’n llai na £10; neu

(c)os, yn achos y ceisydd, diystyrir £15 o dan baragraff 7 neu baragraff 8 ac—

(i)nad oes gan y ceisydd ddiystyriad o dan baragraff 1(a) i (g), £5 neu’r taliad cyfan os yw’n llai na £5;

(ii)pan fo gan y ceisydd ddiystyriad o dan baragraff 1(a) i (g), dim.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

13.  Unrhyw gynnydd mewn pensiwn neu lwfans o dan Ran 2 neu 3 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006 a delir mewn perthynas â dibynnydd ac eithrio partner y pensiynwr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

14.  Unrhyw daliad y mae llys wedi gorchymyn ei wneud i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd o ganlyniad i unrhyw ddamwain, anaf neu glefyd a ddioddefwyd gan y person neu blentyn y person y gwneir y taliad iddo neu mewn perthynas ag ef.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

15.  Taliadau cyfnodol a wneir i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd o dan gytundeb yr ymunwyd ynddo i setlo hawliad a wnaed gan y ceisydd neu, yn ôl fel y digwydd, partner y ceisydd, am anaf a ddioddefwyd gan y ceisydd neu bartner y ceisydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 4 para. 15 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

16.  Unrhyw incwm sy’n daladwy y tu allan i’r Deyrnas Unedig, yn ystod unrhyw gyfnod pan fo gwaharddiad yn erbyn trosglwyddo’r incwm hwnnw i’r Deyrnas Unedig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 4 para. 16 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

17.  Unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi taliadau incwm, a wneir mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, i sterling.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 4 para. 17 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

18.  Pan fo’r ceisydd yn gwneud cyfraniad rhiant mewn perthynas â myfyriwr sy’n dilyn cwrs mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu’n ymgymryd ag addysg yn y Deyrnas Unedig, a’r cyfraniad hwnnw wedi ei asesu at y diben o gyfrifo—LL+C

(a)o dan, neu’n unol â rheoliadau a wnaed o dan bwerau a roddir gan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(6), dyfarniad y myfyriwr hwnnw;

(b)o dan reoliadau a wnaed wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(7), bwrsari, ysgoloriaeth neu lwfans arall y myfyriwr hwnnw o dan yr adran honno, neu o dan reoliadau a wnaed wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 73 o’r Ddeddf 1980 honno, unrhyw daliad i’r myfyriwr hwnnw o dan yr adran honno; neu

(c)benthyciad myfyriwr y myfyriwr hwnnw,

swm sy’n hafal i swm wythnosol y cyfraniad rhiant hwnnw, ond hynny mewn perthynas, yn unig, â’r cyfnod yr asesir bod y cyfraniad hwnnw’n daladwy ar ei gyfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 4 para. 18 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

19.—(1Pan fo’r ceisydd yn rhiant myfyriwr sydd o dan 25 oed, mewn addysg uwch, a naill ai—LL+C

(a)ddim yn cael unrhyw ddyfarniad, grant na benthyciad myfyriwr mewn perthynas â’r addysg honno; neu

(b)yn cael dyfarniad a roddir yn rhinwedd Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno, neu fwrsari, ysgoloriaeth neu lwfans arall o dan adran 49(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980, neu daliad o dan adran 73 o’r Ddeddf 1980 honno,

a’r ceisydd yn gwneud taliadau i gyfrannu tuag at gynnal y myfyriwr, ac eithrio cyfraniad rhiant sy’n dod o fewn paragraff 18, swm a bennir yn is-baragraff (2) mewn perthynas â phob wythnos yn ystod tymor y myfyriwr.

(2At ddibenion is-baragraff (1), bydd y swm yn hafal i—

(a)swm wythnosol y taliadau; neu

(b)y swm ar gyfer lwfans personol i geisydd sengl sydd o dan 25 oed llai swm wythnosol unrhyw ddyfarniad, bwrsari, ysgoloriaeth, lwfans neu daliad y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(b),

pa un bynnag yw’r lleiaf.

(3Yn y paragraff hwn a pharagraff 18 mae cyfeiriad at “benthyciad myfyriwr” neu “grant” yn gyfeiriad at fenthyciad myfyriwr neu grant o fewn ystyr Atodlen 11.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 4 para. 19 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

20.—(1Pan fo swm cymwysadwy ceisydd yn cynnwys swm ar gyfer premiwm teulu, £15 o unrhyw daliad cynnal, boed o dan orchymyn llys ai peidio, a wnaed neu sy’n ddyladwy, gan briod, partner sifil, cyn-briod neu gyn-bartner sifil y ceisydd, neu briod, partner sifil, cyn-briod neu gyn-bartner sifil partner y ceisydd.LL+C

(2At ddibenion is-baragraff (1), os oes mwy nag un taliad cynnal i’w gymryd i ystyriaeth mewn unrhyw wythnos, rhaid cydgrynhoi’r holl daliadau o’r fath a’u trin fel pe baent yn daliad sengl.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 4 para. 20 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

21.  Ac eithrio mewn achos sy’n dod o dan baragraff 10 o Atodlen 3, pan fo’r ceisydd yn berson sy’n bodloni unrhyw un o’r amodau yn is-baragraff (2) o’r paragraff hwnnw, unrhyw swm o gredyd treth gwaith i fyny at £17.10.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 4 para. 21 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

22.  Pan nad yw cyfanswm gwerth unrhyw gyfalaf a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 5 (cyfalaf a ddiystyrir at ddibenion penderfynu incwm tybiedig yn unig) yn fwy na £10,000, unrhyw incwm sy’n deillio mewn gwirionedd o gyfalaf o’r fath.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 4 para. 22 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

23.  Ac eithrio yn achos incwm o gyfalaf a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 5, unrhyw incwm gwirioneddol o gyfalaf.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 4 para. 23 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

24.  Os oedd gan y ceisydd, neu’r person a oedd yn bartner y ceisydd ar 31 Mawrth 2003, hawlogaeth ar y dyddiad hwnnw i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm ond peidiodd yr hawlogaeth honno ar neu cyn 5 Ebrill 2003 yn rhinwedd, yn unig, rheoliad 13 o Reoliadau Budd-dal Tai (Cyffredinol) Diwygio (Rhif 3) 1999(8) fel yr oedd mewn grym ar y dyddiad hwnnw, y cyfan o incwm y ceisydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 4 para. 24 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources