ATODLEN 4Symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: pensiynwyr

1.

Yn ychwanegol at unrhyw swm sydd i’w ddiystyru yn unol â pharagraffau 2 i 6, £10 o unrhyw rai o’r canlynol—

(a)

pensiwn anabledd rhyfel (ac eithrio i’r graddau y mae pensiwn o’r fath i gael ei ddiystyru o dan baragraff 2 neu 3);

(b)

pensiwn rhyfel gwraig weddw neu bensiwn rhyfel gŵr gweddw;

(c)

pensiwn sy’n daladwy i berson fel gwraig weddw, gŵr gweddw neu bartner sifil sy’n goroesi, o dan unrhyw bŵer Ei Mawrhydi, ac eithrio o dan ddeddfiad, i wneud darpariaeth ynglŷn â phensiynau ar gyfer neu mewn perthynas â phersonau a wnaed yn anabl neu a fu farw o ganlyniad i wasanaethu fel aelodau o luoedd arfog y Goron;

(d)

taliad incwm gwarantedig ac, os yw swm y taliad hwnnw wedi ei ostwng i lai na £10 gan bensiwn neu daliad sy’n dod o fewn erthygl 39(1)(a) neu (b) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011186, cymaint o’r pensiwn neu’r taliad hwnnw na fyddai, o’i gydgrynhoi â swm unrhyw daliad incwm gwarantedig a ddiystyrwyd, yn fwy na £10;

(e)

taliad a wnaed i ddigolledu am fethiant i dalu unrhyw bensiwn neu daliad a grybwyllir yn unrhyw un o’r is-baragraffau blaenorol;

(f)

pensiwn a delir gan lywodraeth gwlad y tu allan i Brydain Fawr, sy’n cyfateb i unrhyw un o’r pensiynau neu’r taliadau a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (d) uchod;

(g)

pensiwn a delir i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol, o dan unrhyw ddarpariaeth arbennig a wneir gan gyfraith Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, neu unrhyw ran ohoni, neu Weriniaeth Awstria.