ATODLEN 4Symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: pensiynwyr

10.

Os yw’r ceisydd—

(a)

yn berchen buddiant rhydd-ddaliad neu lesddaliad unrhyw eiddo neu’n denant unrhyw eiddo; a

(b)

yn meddiannu rhan o’r eiddo hwnnw; ac

(c)

â chytundeb rhyngddo a pherson arall sy’n caniatáu i’r person hwnnw feddiannu rhan arall o’r eiddo hwnnw am dalu rhent ac—

(i)

y swm a delir gan y person hwnnw yn llai nag £20 yr wythnos, y cyfan o’r swm hwnnw; neu

(ii)

y swm a delir yn £20 neu ragor yr wythnos, £20.