ATODLEN 4Symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: pensiynwyr

11.

Pan fo ceisydd yn cael incwm o dan flwydd-dal a brynwyd gyda benthyciad, sy’n bodloni’r amodau canlynol—

(a)

bod y benthyciad wedi ei wneud fel rhan o gynllun a oedd yn peri bod dim llai na 90 y cant o dderbyniadau’r benthyciad yn cael eu defnyddio gan y person y rhoddwyd y benthyciad iddo i brynu blwydd-dal a ddaw i ben ar ddiwedd oes y person hwnnw, neu ddiwedd oes yr un sy’n goroesi o blith dau neu ragor o bersonau (y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn fel “y derbynyddion blwydd-dal”) sy’n cynnwys y person y rhoddwyd y benthyciad iddo;

(b)

ar yr adeg y gwnaed y benthyciad, bod y person y’i rhoddwyd iddo neu bob un o’r derbynyddion blwydd-dal, wedi cyrraedd 65 oed;

(c)

bod y benthyciad wedi ei sicrhau ar annedd ym Mhrydain Fawr, a bod y person y gwnaed y benthyciad iddo, neu un o’r derbynyddion blwydd-dal, yn berchen ystâd neu fuddiant yn yr annedd honno;

(d)

bod y person y gwnaed y benthyciad iddo, neu un o’r derbynyddion blwydd-dal, yn meddiannu’r annedd y sicrhawyd y benthyciad arni, fel cartref y person neu’r derbynnydd blwydd-dal hwnnw ar yr adeg y telir y llog; ac

(e)

y telir y llog sy’n daladwy ar y benthyciad gan y person y rhoddwyd y benthyciad iddo neu gan un o’r derbynyddion blwydd-dal,

y swm, a gyfrifir ar sail wythnosol, sy’n hafal i—

(i)

pan fo adran 369 o Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988189 (llog morgais sy’n daladwy ar ôl didynnu treth) yn gymwys i’r taliadau o’r llog ar y benthyciad, y llog sy’n daladwy ar ôl didynnu swm sy’n hafal i’r dreth incwm ar y cyfryw daliadau yn unol â’r ganran gymwysadwy o dreth incwm, o fewn yr ystyr a roddir i “the applicable percentage of income tax” gan adran 369(1A) o’r Ddeddf honno;

(ii)

mewn unrhyw achos arall, y llog sy’n daladwy ar y benthyciad heb ddidynnu swm o’r fath.