Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
18. Pan fo’r ceisydd yn gwneud cyfraniad rhiant mewn perthynas â myfyriwr sy’n dilyn cwrs mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu’n ymgymryd ag addysg yn y Deyrnas Unedig, a’r cyfraniad hwnnw wedi ei asesu at y diben o gyfrifo—LL+C
(a)o dan, neu’n unol â rheoliadau a wnaed o dan bwerau a roddir gan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), dyfarniad y myfyriwr hwnnw;
(b)o dan reoliadau a wnaed wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(2), bwrsari, ysgoloriaeth neu lwfans arall y myfyriwr hwnnw o dan yr adran honno, neu o dan reoliadau a wnaed wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 73 o’r Ddeddf 1980 honno, unrhyw daliad i’r myfyriwr hwnnw o dan yr adran honno; neu
(c)benthyciad myfyriwr y myfyriwr hwnnw,
swm sy’n hafal i swm wythnosol y cyfraniad rhiant hwnnw, ond hynny mewn perthynas, yn unig, â’r cyfnod yr asesir bod y cyfraniad hwnnw’n daladwy ar ei gyfer.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 18 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)