ATODLEN 4Symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: pensiynwyr

I120

1

Pan fo swm cymwysadwy ceisydd yn cynnwys swm ar gyfer premiwm teulu, £15 o unrhyw daliad cynnal, boed o dan orchymyn llys ai peidio, a wnaed neu sy’n ddyladwy, gan briod, partner sifil, cyn-briod neu gyn-bartner sifil y ceisydd, neu briod, partner sifil, cyn-briod neu gyn-bartner sifil partner y ceisydd.

2

At ddibenion is-baragraff (1), os oes mwy nag un taliad cynnal i’w gymryd i ystyriaeth mewn unrhyw wythnos, rhaid cydgrynhoi’r holl daliadau o’r fath a’u trin fel pe baent yn daliad sengl.