12. Gwerth unrhyw gontract cynllun angladd; ac at y diben hwn, ystyr “contract cynllun angladd” (“funeral plan contract”) yw contract lle—
(a)y mae’r ceisydd yn gwneud un neu ragor o daliadau i berson arall (“y darparwr”);
(b)y mae’r darparwr yn ymgymryd i ddarparu neu sicrhau y darperir, angladd yn y Deyrnas Unedig i’r ceisydd ar farwolaeth y ceisydd; ac
(c)unig ddiben y cynllun yw darparu, neu sicrhau y darperir, angladd i’r ceisydd ar farwolaeth y ceisydd.