ATODLEN 6Penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr
RHAN 1Symiau cymwysadwy at ddibenion cyfrifo cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, a swm unrhyw ostyngiad: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Priodasau amlbriod: personau nad ydynt yn bensiynwyr
2.
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ceisydd nad yw’n bensiynwr yn aelod o briodas amlbriod, ac nad oes ganddo (ar ei ben ei hunan nac ar y cyd â pharti i briodas) ddyfarniad o gredyd cynhwysol.
(2)
Y swm cymwysadwy ar gyfer wythnos ar gyfer ceisydd y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yw swm cyfanredol y cyfryw rai o’r symiau canlynol sy’n gymwys yn achos y ceisydd hwnnw—
(a)
y swm sy’n gymwys i’r ceisydd ac un o bartneriaid y ceisydd a benderfynir yn unol â pharagraff 1(3) o Atodlen 7 (cwpl) fel pe bai’r ceisydd a’r partner hwnnw yn gwpl;
(b)
swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth rhwng y symiau a bennir yn is-baragraffau (3) ac (1)(b) o baragraff 1 o Atodlen 7 mewn perthynas â phob un o bartneriaid eraill y ceisydd;
(c)
swm a benderfynir yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 7 (symiau plentyn neu berson ifanc) mewn perthynas ag unrhyw blentyn neu berson ifanc y mae’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn gyfrifol amdano ac sy’n aelod o’r un aelwyd;
(d)
os yw’r ceisydd neu bartner arall o’r briodas amlbriod yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc sy’n aelod o’r un aelwyd, y swm a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 7 (premiwm teulu);
(e)
swm unrhyw bremiymau a allai fod yn gymwys i’r ceisydd, a benderfynir yn unol â Rhannau 3 a 4 o Atodlen 7 (premiymau);
(f)
swm naill ai—
(i)
yr elfen gweithgaredd perthynol i waith; neu
(ii)
yr elfen gymorth;
a allai fod yn gymwys i’r ceisydd yn unol â Rhannau 5 a 6 o’r Atodlen honno (yr elfennau);
(g)
swm unrhyw ychwanegiad trosiannol a allai fod yn gymwys i’r ceisydd yn unol â Rhannau 7 ac 8 o’r Atodlen honno (ychwanegiad trosiannol).