ATODLEN 6Penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr
RHAN 5Gostyngiadau estynedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Gostyngiadau estynedig – symudwyr: personau nad ydynt yn bensiynwyr
37.
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)
i symudwr; a
(b)
o’r dydd Llun sy’n dilyn diwrnod y symud.
(2)
Swm y gostyngiad estynedig a ddyfernir, o’r dydd Llun pan ddaw’r paragraff hwn yn gymwys tan ddiwedd y cyfnod gostyngiad estynedig, yw swm y gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod (“yr awdurdod cyntaf”) y byddai hawl wedi bod gan y symudwr i’w gael pe na bai hawl y symudwr, neu bartner y symudwr, i gael budd-dal cymwys ar sail incwm wedi dod i ben.
(3)
Pan fo atebolrwydd symudwr i dalu treth gyngor mewn perthynas â’r annedd newydd yn atebolrwydd i ail awdurdod, caiff y gostyngiad estynedig gymryd ffurf taliad gan yr awdurdod cyntaf i—
(a)
yr ail awdurdod; neu
(b)
yn uniongyrchol i’r symudwr.