xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
39.—(1) Bydd gan geisydd sydd â hawl i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod (yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D) yr hawl i gael gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys)—
(a)os oedd hawl gan y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael budd-dal cyfrannol cymwys;
(b)os peidiodd yr hawlogaeth i gael budd-dal cyfrannol cymwys oherwydd bod y ceisydd neu bartner y ceisydd—
(i)wedi cychwyn cyflogaeth fel enillydd cyflogedig neu hunangyflogedig;
(ii)wedi cynyddu eu henillion o gyflogaeth o’r fath; neu
(iii)wedi cynyddu nifer yr oriau a weithid mewn cyflogaeth o’r fath,
a disgwylir i’r gyflogaeth honno neu, yn ôl fel y digwydd, yr enillion uwch hynny, neu’r nifer uwch o oriau, barhau am bum wythnos neu ragor;
(c)os oedd y ceisydd neu bartner y ceisydd wedi bod â hawl i gael, ac wedi bod yn cael, budd-dal cyfrannol cymwys neu gyfuniad o fudd-daliadau cyfrannol cymwys am gyfnod di-dor o 26 wythnos o leiaf, cyn y diwrnod y peidiodd yr hawlogaeth i gael budd-dal cyfrannol cymwys; a
(d)nad oedd hawl gan y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael, ac nad oedd yn cael, budd-dal cymwys ar sail incwm, yn yr wythnos ostyngiad olaf pan oedd hawl gan y ceisydd, neu bartner y ceisydd i gael budd-dal cyfrannol cymwys.
(2) Rhaid trin ceisydd fel pe bai hawl ganddo i ostyngiad o dan gynllun awdurdod yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D—
(a)os peidiodd hawl y ceisydd i gael gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod oherwydd bod y ceisydd wedi gadael yr annedd yr oedd y ceisydd yn preswylio ynddi;
(b)os oedd y diwrnod y gadawodd y ceisydd yr annedd naill ai yn yr wythnos y peidiodd ei hawlogaeth i gael budd-dal cyfrannol cymwys, neu yn yr wythnos flaenorol; ac
(c)os peidiodd yr hawlogaeth i fudd-dal cyfrannol cymwys mewn unrhyw un o’r amgylchiadau a restrir yn is-baragraff (1)(b).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 6 para. 39 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)