ATODLEN 6Penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr

RHAN 4Incwm a chyfalaf at ddibenion cyfrifo cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, a swm unrhyw ostyngiad

PENNOD 2Incwm a chyfalaf pan ddyfarnwyd credyd cynhwysol

Cyfrifo incwm a chyfalaf: personau, nad ydynt yn bensiynwyr, sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol

9.

(1)

Wrth benderfynu incwm ceisydd—

(a)

y mae ganddo, neu

(b)

y mae ganddo (ar y cyd â phartner),

ddyfarniad o gredyd cynhwysol, rhaid i awdurdod, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn, ddefnyddio’r cyfrifiad neu’r amcangyfrif o incwm y ceisydd neu incwm y ceisydd a phartner y ceisydd ar y cyd (yn ôl fel y digwydd), a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben o benderfynu’r dyfarniad o gredyd cynhwysol.

(2)

Rhaid i’r awdurdod addasu swm yr incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) drwy luosi’r swm gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 52.

(3)

Ni chaiff yr awdurdod addasu swm yr incwm fel y’i haddaswyd eisoes yn unol ag is-baragraff (2) ac eithrio i’r graddau y mae’n angenrheidiol er mwyn cymryd i ystyriaeth—

(a)

swm y dyfarniad o gredyd cynhwysol a benderfynwyd yn unol ag is-baragraff (4);

(b)

paragraff 8 (incwm a chyfalaf annibynnydd sydd i’w trin fel eiddo i’r ceisydd), os yw’r awdurdod yn penderfynu bod y ddarpariaeth yn gymwys yn achos y ceisydd;

(c)

pa bynnag ostyngiad pellach (os oes un) a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod o dan adran 13A(1)(c) o Ddeddf 1992 (pŵer awdurdod bilio i leihau swm y dreth gyngor sy’n daladwy).

(4)

Rhaid penderfynu’r swm ar gyfer y dyfarniad o gredyd cynhwysol sydd i’w gymryd i ystyriaeth at ddibenion is-baragraff (3)(a) drwy luosi swm y credyd cynhwysol gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 52.

(5)

Mae paragraff 8 (incwm a chyfalaf annibynnydd sydd i’w trin fel eiddo i’r ceisydd) yn gymwys at ddibenion penderfynu unrhyw addasiadau sydd i’w gwneud i’r ffigur ar gyfer incwm o dan is-baragraff (3).

(6)

Wrth benderfynu cyfalaf ceisydd—

(a)

y mae ganddo, neu

(b)

y mae ganddo (ar y cyd â phartner),

ddyfarniad o gredyd cynhwysol, rhaid i awdurdod ddefnyddio’r cyfrifiad neu’r amcangyfrif o gyfalaf y ceisydd neu gyfalaf y ceisydd a phartner y ceisydd ar y cyd (yn ôl fel y digwydd), a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben o benderfynu’r dyfarniad o gredyd cynhwysol.