- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau 2 a 3, y swm cymwysadwy ar gyfer wythnos ar gyfer person nad yw yn bensiynwr yw swm cyfanredol y cyfryw rai o’r symiau canlynol sy’n gymwys yn achos y person hwnnw—
(a)swm mewn perthynas â’r person, neu os yw’r person hwnnw’n aelod o gwpl, swm mewn perthynas â’r ddau ohonynt, a benderfynir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 7 (lwfansau personol);
(b)swm mewn perthynas ag unrhyw blentyn neu berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person, a benderfynir yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 7 (symiau plentyn neu berson ifanc);
(c)os yw’r person yn aelod o deulu y mae o leiaf un aelod ohono yn blentyn neu’n berson ifanc, swm a benderfynir yn unol â Rhan 2 o Atodlen 7 (premiwm teulu);
(d)swm unrhyw bremiymau a allai fod yn gymwys i’r person, a benderfynir yn unol â Rhannau 3 a 4 o Atodlen 7 (premiymau);
(e)y swm o naill ai—
(i)yr elfen gweithgaredd perthynol i waith; neu
(ii)yr elfen gymorth,
a allai fod yn gymwys i’r person yn unol â Rhannau 5 a 6 o’r Atodlen honno (yr elfennau);
(f)swm unrhyw ychwanegiad trosiannol a allai fod yn gymwys i’r person yn unol â Rhannau 7 ac 8 o Atodlen 7 (ychwanegiad trosiannol).
(2) Yn Atodlen 7—
ystyr “priod ychwanegol” (“additional spouse”) yw priod y naill barti i’r briodas neu’r llall sy’n ychwanegol at y parti arall i’r briodas;
ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth a droswyd” (“converted employment and support allowance”) yw lwfans cyflogaeth a chymorth nad yw ar sail incwm ac y mae hawl gan berson i’w gael o ganlyniad i benderfyniad trosi yn yr ystyr a roddir i “conversion decision” gan Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008(1);
ystyr “claf” (“patient”) yw person (ac eithrio person sy’n gwneud dedfryd o garchar neu’n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad cadw ar gyfer pobl ifanc) yr ystyrir ei fod yn cael triniaeth ddi-dâl fel claf mewnol yn yr ystyr a roddir i “receiving free in-patient treatment” gan reoliad 2(4) a (5) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cleifion Mewnol mewn Ysbytai) 2005(2).
2.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ceisydd nad yw’n bensiynwr yn aelod o briodas amlbriod, ac nad oes ganddo (ar ei ben ei hunan nac ar y cyd â pharti i briodas) ddyfarniad o gredyd cynhwysol.
(2) Y swm cymwysadwy ar gyfer wythnos ar gyfer ceisydd y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yw swm cyfanredol y cyfryw rai o’r symiau canlynol sy’n gymwys yn achos y ceisydd hwnnw—
(a)y swm sy’n gymwys i’r ceisydd ac un o bartneriaid y ceisydd a benderfynir yn unol â pharagraff 1(3) o Atodlen 7 (cwpl) fel pe bai’r ceisydd a’r partner hwnnw yn gwpl;
(b)swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth rhwng y symiau a bennir yn is-baragraffau (3) ac (1)(b) o baragraff 1 o Atodlen 7 mewn perthynas â phob un o bartneriaid eraill y ceisydd;
(c)swm a benderfynir yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 7 (symiau plentyn neu berson ifanc) mewn perthynas ag unrhyw blentyn neu berson ifanc y mae’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn gyfrifol amdano ac sy’n aelod o’r un aelwyd;
(d)os yw’r ceisydd neu bartner arall o’r briodas amlbriod yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc sy’n aelod o’r un aelwyd, y swm a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 7 (premiwm teulu);
(e)swm unrhyw bremiymau a allai fod yn gymwys i’r ceisydd, a benderfynir yn unol â Rhannau 3 a 4 o Atodlen 7 (premiymau);
(f)swm naill ai—
(i)yr elfen gweithgaredd perthynol i waith; neu
(ii)yr elfen gymorth;
a allai fod yn gymwys i’r ceisydd yn unol â Rhannau 5 a 6 o’r Atodlen honno (yr elfennau);
(g)swm unrhyw ychwanegiad trosiannol a allai fod yn gymwys i’r ceisydd yn unol â Rhannau 7 ac 8 o’r Atodlen honno (ychwanegiad trosiannol).
3.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), wrth benderfynu’r swm cymwysadwy ar gyfer wythnos ar gyfer ceisydd nad yw’n bensiynwr—
(a)sydd ganddo, neu
(b)sydd ganddo (ar y cyd â phartner),
ddyfarniad o gredyd cynhwysol, rhaid i’r awdurdod ddefnyddio’r cyfrifiad neu’r amcangyfrif o swm uchaf y ceisydd, neu’r ceisydd ar y cyd â phartner y ceisydd (yn ôl fel y digwydd), yn ddarostyngedig i’r addasiad a ddisgrifir yn is-baragraff (3).
(2) Wrth benderfynu’r swm cymwysadwy ar gyfer wythnos ar gyfer ceisydd sy’n aelod o briodas amlbriod, rhaid diystyru’r ffaith bod dau o bobl yn ŵr a gwraig os yw—
(a)un ohonynt yn barti i briodas gynharach sy’n bodoli o hyd; a
(b)y parti arall i’r briodas gynharach honno yn byw ar yr un aelwyd.
(3) Yr addasiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yw lluosi’r swm uchaf gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 52.
(4) Yn y paragraff hwn ystyr “swm uchaf” (“maximum amount”) yw’r swm uchaf a gyfrifwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 8(2) o Ddeddf Diwygio Lles 2012(3).
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: