Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

Newidiadau dros amser i: PENNOD 3

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Schedule 6 Part 4 Chapter 3n1:

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

PENNOD 3LL+CIncwm: personau nad ydynt yn bensiynwyr

Enillion cyfartalog wythnosol enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyrLL+C

10.—(1Pan fo incwm ceisydd nad yw’n bensiynwr yn enillion o gyflogaeth fel enillydd cyflogedig, rhaid amcangyfrif enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd drwy gyfeirio at enillion y ceisydd o’r gyflogaeth honno—

(a)dros gyfnod yn union cyn yr wythnos ostyngiad y gwneir y cais ynddi neu y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud ynddi, ac sy’n gyfnod o—

(i)5 wythnos, os telir i’r ceisydd fesul wythnos; neu

(ii)2 fis, os telir i’r ceisydd fesul mis; neu

(b)boed paragraff (a)(i) neu (ii) yn gymwys ai peidio, os yw enillion ceisydd yn amrywio, dros ba bynnag gyfnod arall sy’n rhagflaenu’r wythnos ostyngiad y gwneir y cais ynddi, neu y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud ynddi, a allai, mewn unrhyw achos penodol, alluogi amcangyfrif enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd yn fwy cywir.

(2Os yw’r ceisydd wedi bod yn gyflogedig am gyfnod llai na’r cyfnod a bennir yn is-baragraff (1)(a)(i) neu (ii)—

(a)os cafodd y ceisydd unrhyw enillion am y cyfnod y bu yn y gyflogaeth honno, ac os yw’r enillion hynny yn debygol o gynrychioli enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd o’r gyflogaeth honno, rhaid amcangyfrif enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd drwy gyfeirio at yr enillion hynny;

(b)mewn unrhyw achos arall, rhaid i’r awdurdod amcangyfrif enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd(1).

(3Os yw swm enillion y ceisydd yn newid, rhaid i’r awdurdod amcangyfrif enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd drwy gyfeirio at enillion tebygol y ceisydd o’r gyflogaeth dros ba bynnag gyfnod sy’n briodol er mwyn amcangyfrif yr enillion wythnosol cyfartalog yn gywir, ond ni chaiff hyd y cyfnod, mewn unrhyw achos, fod yn hwy na 52 wythnos.

(4At ddibenion y paragraff hwn rhaid cyfrifo enillion y ceisydd yn unol â pharagraffau 14 a 15 (enillion enillwyr cyflogedig).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 10 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Enillion wythnosol cyfartalog enillwyr hunangyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyrLL+C

11.—(1Pan fo incwm ceisydd nad yw’n bensiynwr yn enillion o gyflogaeth fel enillydd hunangyflogedig, rhaid amcangyfrif enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd hwnnw drwy gyfeirio at enillion y ceisydd hwnnw o’r gyflogaeth honno dros ba bynnag gyfnod sy’n briodol er mwyn amcangyfrif yr enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd hwnnw yn gywir, ond ni chaiff hyd y cyfnod, mewn unrhyw achos, fod yn hwy na 52 wythnos.

(2At ddibenion y paragraff hwn rhaid cyfrifo enillion y ceisydd yn unol â pharagraffau 16, 24 a 25 (enillion ac elw net enillwyr hunangyflogedig).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 6 para. 11 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Incwm wythnosol cyfartalog ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyrLL+C

12.—(1Ac eithrio pan fo is-baragraff (2) yn gymwys, rhaid amcangyfrif incwm ceisydd nad yw’n bensiynwr, pan nad yw’r incwm hwnnw yn enillion, dros ba bynnag gyfnod sy’n briodol er mwyn amcangyfrif incwm wythnosol cyfartalog y ceisydd hwnnw yn gywir, ond ni chaiff hyd y cyfnod, mewn unrhyw achos, fod yn hwy na 52 wythnos; ac nid oes dim yn y paragraff hwn sy’n awdurdodi awdurdod i ddiystyru unrhyw incwm o’r fath ac eithrio hwnnw a bennir yn Atodlen 9 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion).

(2Y cyfnod y mae’n rhaid cymryd i ystyriaeth drosto unrhyw fudd-dal o dan y Deddfau budd-dal yw’r cyfnod y mae’r budd-dal hwnnw’n daladwy mewn perthynas ag ef.

(3At ddibenion y paragraff hwn rhaid cyfrifo incwm ac eithrio enillion yn unol â pharagraff 17 (cyfrifo incwm ac eithrio enillion).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 6 para. 12 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo incwm wythnosol enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyrLL+C

13.—(1At ddibenion paragraffau 10 (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr cyflogedig), 12 (incwm wythnosol cyfartalog ac eithrio enillion) a 22 (cyfrifo incwm wythnosol cyfartalog o gredydau treth), os yw’r cyfnod y gwneir taliad mewn perthynas ag ef—

(a)yn ddim mwy nag wythnos, y swm wythnosol fydd swm y taliad hwnnw;

(b)yn fwy nag wythnos, rhaid penderfynu’r swm wythnosol—

(i)mewn achos pan fo’r cyfnod hwnnw yn fis, drwy luosi swm y taliad gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 52;

(ii)mewn unrhyw achos arall, drwy rannu swm y taliad gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod y mae’r taliad yn berthynol iddo a lluosi’r cyniferydd gyda 7.

(2At ddibenion paragraff 11 (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr hunangyflogedig) rhaid penderfynu swm wythnosol enillion ceisydd drwy rannu enillion y ceisydd dros y cyfnod asesu gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod hwnnw a lluosi’r cyniferydd gyda 7.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 6 para. 13 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Enillion enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyrLL+C

14.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ystyr “enillion” (“earnings”), yn achos cyflogaeth person nad yw’n bensiynwr fel enillydd cyflogedig, yw unrhyw gydnabyddiaeth ariannol neu elw sy’n deillio o’r gyflogaeth honno ac y mae’n cynnwys—

(a)unrhyw fonws neu gomisiwn;

(b)unrhyw daliad a wneir yn lle cydnabyddiaeth ariannol ac eithrio unrhyw swm cyfnodol a delir i geisydd o ganlyniad i derfynu cyflogaeth y ceisydd hwnnw oherwydd dileu swydd;

(c)unrhyw daliad yn lle rhybudd neu unrhyw gyfandaliad y bwriedir iddo ddigolledu am golli cyflogaeth, ond hynny i’r graddau, yn unig, y mae’n cynrychioli colled incwm;

(d)unrhyw dâl gwyliau ac eithrio unrhyw dâl o’r fath sy’n daladwy ymhen mwy na 4 wythnos ar ôl terfynu’r gyflogaeth neu ar ôl toriad yn y gyflogaeth;

(e)unrhyw daliad ar ffurf tâl cadw;

(f)unrhyw daliad a wneir gan gyflogwr y ceisydd mewn perthynas â threuliau nas tynnwyd yn gyfan gwbl, yn unig ac yn angenrheidiol wrth gyflawni dyletswyddau’r gyflogaeth, gan gynnwys unrhyw daliad a wneir gan gyflogwr y ceisydd mewn perthynas ag—

(i)treuliau a dynnir gan y ceisydd ynglŷn â theithio rhwng ei gartref a’r man lle y’i cyflogir;

(ii)treuliau a dynnir gan y ceisydd o dan drefniadau a wnaed ar gyfer gofal aelod o deulu’r ceisydd, oherwydd absenoldeb y ceisydd o’i gartref;

(g)unrhyw ddyfarniad i ddigolledu a wneir o dan adran 112(4) neu 117(3)(a) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(2) (rhwymedïau a digolledu am ddiswyddo annheg);

(h)unrhyw daliad neu gydnabyddiaeth ariannol a wneir o dan adran 28, 34, 64, 68 neu 70 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (hawl i daliadau gwarantu, cydnabyddiaeth ariannol yn ystod ataliad dros dro ar seiliau meddygol neu famolaeth, cwynion i dribiwnlysoedd cyflogaeth);

(i)unrhyw swm o fath y cyfeirir ato yn adran 112 o DCBNC (symiau penodol sy’n enillion at ddibenion nawdd cymdeithasol);

(j)unrhyw dâl salwch statudol, tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol neu dâl mabwysiadu statudol, neu daliad cyfatebol o dan unrhyw ddeddfiad sy’n cael effaith yng Ngogledd Iwerddon;

(k)unrhyw gydnabyddiaeth ariannol a delir gan neu ar ran cyflogwr i’r ceisydd tra bo’r ceisydd ar absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu neu’n absennol o’i waith oherwydd salwch y ceisydd;

(l)swm unrhyw daliad ar ffurf taleb anariannol a gymerwyd i ystyriaeth wrth gyfrifo enillion person yn unol â Rhan 5 o Atodlen 3 i Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyfraniadau) 2001 (3).

(2Nid yw enillion yn cynnwys—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), unrhyw daliad mewn nwyddau neu wasanaethau;

(b)unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau a dynnir yn gyfan gwbl, yn unig ac yn angenrheidiol wrth gyflawni dyletswyddau’r gyflogaeth;

(c)unrhyw bensiwn galwedigaethol;

(d)unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau sy’n deillio o gyfranogiad y ceisydd mewn grŵp defnyddwyr gwasanaeth.

(3Nid yw is-baragraff (2)(a) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw daleb anariannol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(l).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 6 para. 14 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyrLL+C

15.—(1At ddibenion paragraff 10 (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr), rhaid i enillion y ceisydd sy’n deillio, neu’n debygol o ddeillio, o’i gyflogaeth fel enillydd cyflogedig, ac y’u cymerir i ystyriaeth, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), fod yn enillion net y ceisydd.

(2Rhaid diystyru, o enillion net y ceisydd, unrhyw swm, pan fo’n gymwys, a bennir ym mharagraffau 1 i 18 o Atodlen 8 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion).

(3At ddibenion is-baragraff (1) rhaid cyfrifo’r enillion net, ac eithrio pan fo is-baragraff (6) yn gymwys, drwy gymryd i ystyriaeth enillion gros y ceisydd o’r gyflogaeth honno dros y cyfnod asesu, llai—

(a)unrhyw swm a ddidynnir o’r enillion hynny ar gyfer—

(i)treth incwm;

(ii)cyfraniadau Dosbarth 1 sylfaenol o dan DCBNC;

(b)hanner unrhyw swm a delir gan y ceisydd fel cyfraniad tuag at gynllun pensiwn galwedigaethol;

(c)hanner y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (5) mewn perthynas ag unrhyw gyfraniad cymwys sy’n daladwy gan y ceisydd; a

(d)os yw’r enillion hynny’n cynnwys taliad sy’n daladwy o dan unrhyw ddeddfiad sy’n cael effaith yng Ngogledd Iwerddon ac sy’n cyfateb i dâl salwch statudol, tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol cyffredin neu ychwanegol neu dâl mabwysiadu statudol, unrhyw swm a ddidynnir o’r enillion hynny fel unrhyw gyfraniadau sy’n cyfateb i gyfraniadau Dosbarth 1 sylfaenol o dan DCBNC.

(4Yn y paragraff hwn, ystyr “cyfraniad cymwys” (“qualifying contribution”) yw unrhyw swm sy’n daladwy fesul cyfnod fel cyfraniad tuag at gynllun pensiwn personol.

(5Rhaid cyfrifo’r swm mewn perthynas ag unrhyw gyfraniad cymwys drwy luosi swm dyddiol y cyfraniad cymwys gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod asesu; ac at ddibenion y paragraff hwn, rhaid penderfynu swm dyddiol y cyfraniad cymwys fel a ganlyn—

(a)os yw’r cyfraniad cymwys yn daladwy yn fisol, drwy luosi swm y cyfraniad cymwys gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 365;

(b)mewn unrhyw achos arall, drwy rannu swm y cyfraniad cymwys gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod y mae’r cyfraniad cymwys yn berthynol iddo.

(6Pan amcangyfrifir enillion ceisydd o dan baragraff 10 (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr), rhaid cyfrifo enillion net y ceisydd hwnnw drwy gymryd i ystyriaeth yr enillion hynny dros y cyfnod asesu, llai—

(a)swm mewn perthynas â threth incwm, sy’n gyfwerth â’r swm a gyfrifir drwy gymhwyso i’r enillion hynny y gyfradd dreth sylfaenol sy’n gymwys i’r cyfnod asesu, llai, yn unig, y rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adrannau 35 i 37 o Ddeddf Treth Incwm 2007(4) (lwfansau personol), fel y bo’n briodol i amgylchiadau’r ceisydd, ond os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid cyfrifo’r enillion y cymhwysir y gyfradd dreth sylfaenol iddynt a swm y rhyddhad personol sy’n ddidynadwy o dan yr is-baragraff hwn ar sail pro rata;

(b)swm sy’n gyfwerth â swm y cyfraniadau Dosbarth 1 sylfaenol a fyddai’n daladwy gan y ceisydd o dan DCBNC mewn perthynas â’r enillion hynny pe bai cyfraniadau o’r fath yn daladwy; ac

(c)hanner unrhyw swm a fyddai’n daladwy gan y ceisydd fel cyfraniad tuag at gynllun pensiwn galwedigaethol neu bersonol, pe bai’r enillion a amcangyfrifwyd felly yn enillion gwirioneddol.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 6 para. 15 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Enillion enillwyr hunangyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyrLL+C

16.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ystyr “enillion” (“earnings”), yn achos cyflogaeth person nad yw’n bensiynwr fel enillydd hunangyflogedig, yw incwm gros y gyflogaeth.

(2Nid yw “enillion” yn cynnwys unrhyw daliad y cyfeirir ato ym mharagraff 31 neu 32 o Atodlen 9 (taliadau mewn perthynas â pherson a letyir gyda’r ceisydd o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol a thaliadau a wneir i’r ceisydd gan awdurdod iechyd, awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol mewn perthynas â phersonau sydd yng ngofal y ceisydd dros dro) nac unrhyw ddyfarniad chwaraeon.

(3Mae’r paragraff hwn yn gymwys i—

(a)breindaliadau neu symiau eraill a delir yn gyfnewid am ddefnyddio, neu’r hawl i ddefnyddio, unrhyw hawlfraint, dyluniad, patent neu nod masnach; neu

(b)unrhyw daliad mewn perthynas ag—

(i)unrhyw lyfr a gofrestrwyd o dan Gynllun Hawliau Benthyg i’r Cyhoedd 1982; neu

(ii)unrhyw waith a wnaed o dan unrhyw gynllun hawliau benthyg i’r cyhoedd rhyngwladol cyfatebol i Gynllun Hawliau Benthyg i’r Cyhoedd 1982,

pan fo’r ceisydd yn berchennog cyntaf yr hawlfraint, dyluniad, patent neu nod masnach, neu’n gyfrannwr gwreiddiol i’r llyfr neu’r gwaith dan sylw.

(4Pan fo enillion y ceisydd yn cynnwys unrhyw eitemau y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddynt, rhaid cymryd yr enillion hynny i ystyriaeth dros gyfnod o’r nifer o wythnosau sy’n hafal i’r rhif a geir (a rhaid trin unrhyw ffracsiwn fel y ffracsiwn cyfatebol o wythnos) drwy rannu’r enillion gyda—

(a)swm y gostyngiad o dan gynllun awdurdod y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael pe na bai’r taliad wedi ei wneud, plws

(b)swm sy’n hafal i gyfanswm y symiau y byddid yn eu diystyru o’r taliad o dan Atodlen 8 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion) fel y bo’n briodol yn achos y ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 6 para. 16 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyrLL+C

17.—(1Yn achos ceisydd nad yw’n bensiynwr, at ddibenion paragraff 12 (incwm wythnosol cyfartalog ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr), rhaid i’r incwm nad yw’n enillion a gymerir i ystyriaeth, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (6), fod yn incwm gros y ceisydd hwnnw ynghyd ag unrhyw gyfalaf a drinnir fel incwm o dan baragraff 18 (cyfalaf a drinnir fel incwm: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

(2Wrth gyfrifo incwm gros ceisydd o dan is-baragraff (1), rhaid diystyru unrhyw swm, pan fo’n gymwys, a bennir yn Atodlen 9.

(3Os yw’r taliad o unrhyw fudd-dal o dan y Deddfau budd-dal yn ddarostyngedig i unrhyw ddidyniad ynglŷn ag adennill, y swm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-baragraff (1) yw’r swm gros sy’n daladwy.

(4Pan fo’r ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, partner y ceisydd, yn cael lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol a’r budd-dal hwnnw wedi ei leihau o dan reoliad 63 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008, y swm o’r budd-dal hwnnw sydd i’w gymryd i ystyriaeth yw’r swm fel pe na bai wedi ei leihau.

(5Pan fo dyfarniad o unrhyw gredyd treth gwaith neu gredyd treth plant o dan Ddeddf Credydau Treth 2002(5) yn ddarostyngedig i ddidyniad ar gyfer adennill gordaliad o gredyd treth gwaith neu gredyd treth plant a ddigwyddodd mewn blwyddyn dreth flaenorol, y swm y mae’n rhaid ei gymryd i ystyriaeth o dan is-baragraff (1) yw swm y credyd treth gwaith neu gredyd treth plant a ddyfarnwyd llai swm y didyniad hwnnw.

(6Mae is-baragraffau (7) ac (8) yn gymwys pan fo—

(a)taliad perthnasol wedi ei wneud i berson mewn blwyddyn academaidd; a

(b)y person hwnnw’n gadael ei gwrs astudio, neu’n cael ei ddiarddel ohono, cyn bo’r rhandaliad olaf o’r taliad perthnasol wedi ei dalu i’r person hwnnw.

(7Pan fo taliad perthnasol yn cael ei wneud fesul chwarter, rhaid cyfrifo swm y taliad perthnasol sydd i’w gymryd i ystyriaeth ar gyfer y cyfnod asesu at ddibenion is-baragraff (1) mewn perthynas â pherson y mae is-baragraff (6) yn gymwys iddo drwy gymhwyso’r fformiwla—

pan fo—

  • A = cyfanswm y taliad perthnasol y byddai’r person hwnnw wedi ei gael pe bai’r person hwnnw wedi parhau’n fyfyriwr tan ddiwrnod olaf y tymor academaidd pan adawodd y person hwnnw y cwrs neu pan ddiarddelwyd ef ohono, llai unrhyw ddidyniad o dan baragraff 9(5) o Atodlen 11 (costau teithio, llyfrau a chyfarpar);

  • B = nifer yr wythnosau gostyngiad o’r wythnos ostyngiad yn union ar ôl honno sy’n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd honno i’r wythnos ostyngiad sy’n cynnwys y diwrnod pan adawodd y person hwnnw y cwrs neu pan ddiarddelwyd ef ohono;

  • C = swm wythnosol y taliad perthnasol, cyn gweithredu’r diystyriad o £10 y byddid wedi ei gymryd i ystyriaeth fel incwm o dan baragraff 9(2) o Atodlen 11 (trin benthyciadau myfyriwr) pe na bai’r person wedi gadael y cwrs neu wedi ei ddiarddel ohono ac, yn achos person nad oedd hawl ganddo i ostyngiad o dan gynllun awdurdod yn union cyn iddo adael y cwrs neu gael ei ddiarddel ohono, pe bai’r person hwnnw, ar y pryd hwnnw, wedi bod â hawl i gael budd-dal tai;

  • D = nifer yr wythnosau gostyngiad yn y cyfnod asesu.

(8Pan wneir taliad perthnasol mewn dau neu ragor o randaliadau mewn chwarter, rhaid cyfrifo swm y taliad perthnasol sydd i’w gymryd i ystyriaeth ar gyfer y cyfnod asesu at ddibenion is-baragraff (1) mewn perthynas â pherson y mae is-baragraff (6) yn gymwys iddo drwy gymhwyso’r fformiwla yn is-baragraff (7), ond fel pe bai—

A= cyfanswm y taliadau perthnasol a gafodd y person hwnnw neu y byddai wedi eu cael, o ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd hyd at y diwrnod pan adawodd y person hwnnw y cwrs neu pan ddiarddelwyd ef ohono, llai unrhyw ddidyniad o dan baragraff 9(5) o Atodlen 11.

(9Yn y paragraff hwn—

mae i “blwyddyn academaidd” (“academic year”) a “benthyciad myfyriwr” (“student loan”) yr un ystyron ag yn Atodlen 11 (myfyrwyr);

ystyr “cyfnod asesu” (“assessment period”) yw—

(a)

mewn achos pan wneir taliad perthnasol fesul chwarter, y cyfnod sy’n cychwyn gyda’r wythnos ostyngiad sy’n cynnwys y diwrnod pan adawodd y person y cwrs neu pan ddiarddelwyd ef ohono ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad sy’n cynnwys diwrnod olaf y chwarter olaf yr oedd rhandaliad o’r taliad perthnasol yn daladwy ar ei gyfer i’r person hwnnw;

(b)

mewn achos pan wneir y taliad perthnasol mewn dau neu ragor o randaliadau bob chwarter y cyfnod sy’n cychwyn gyda’r wythnos ostyngiad sy’n cynnwys y diwrnod pan adawodd y person y cwrs neu pan ddiarddelwyd ef ohono ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad sy’n cynnwys—

(i)

y diwrnod yn union cyn y diwrnod pan fyddai’r rhandaliad nesaf o’r taliad perthnasol wedi bod yn ddyladwy pe bai’r taliadau wedi parhau; neu

(ii)

diwrnod olaf y chwarter olaf yr oedd rhandaliad o’r taliad perthnasol yn daladwy i’r person hwnnw ar ei gyfer,

pa un bynnag o’r dyddiadau hynny yw’r cynharaf;

ystyr “chwarter” (“quarter”) mewn perthynas â chyfnod asesu yw cyfnod yn y flwyddyn honno sy’n cychwyn ar—

(a)

1 Ionawr ac yn diweddu ar 31 Mawrth;

(b)

1 Ebrill ac yn diweddu ar 30 Mehefin;

(c)

1 Gorffennaf ac yn diweddu ar 31 Awst; neu

(d)

1 Medi ac yn diweddu ar 31 Rhagfyr;

ystyr “taliad perthnasol” (“relevant payment”) yw naill ai benthyciad myfyriwr neu swm a fwriedir ar gyfer cynhaliaeth dibynyddion, y cyfeirir ato ym mharagraff 4(7) o Atodlen 11 neu’r ddau.

(10Er mwyn osgoi amheuaeth, rhaid cynnwys fel incwm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-baragraff (1)—

(a)unrhyw daliad y mae paragraff 14(2) (taliadau ac eithrio enillion) yn gymwys iddo; neu

(b)yn achos ceisydd sy’n cael cymorth o dan adran 95 neu 98 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999(6), gan gynnwys cymorth a ddarperir yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan Atodlen 9 i’r Ddeddf honno, swm y cymorth o’r fath a ddarperir mewn perthynas ag anghenion byw hanfodol y ceisydd a dibynyddion y ceisydd (os oes rhai), fel y pennir mewn rheoliadau a wnaed o dan baragraff 3 o Atodlen 8 i Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 6 para. 17 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Cyfalaf a drinnir fel incwm: personau nad ydynt yn bensiynwyrLL+C

18.—(1Rhaid trin fel incwm unrhyw gyfalaf sy’n daladwy mewn rhandaliadau sy’n orddyledus ar y dyddiad y gwneir y cais neu’r dyddiad y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud, neu ar ddyddiad unrhyw ddiwygiad neu ddisodliad diweddarach, os yw swm cyfanredol y rhandaliadau gorddyledus a swm cyfalaf y ceisydd a gyfrifir fel arall yn unol â pharagraffau 26 i 33 o’r Atodlen hon yn fwy nag £16,000.

(2Rhaid trin fel incwm unrhyw daliad a geir o dan flwydd-dal.

(3Rhaid trin unrhyw enillion i’r graddau nad ydynt yn daliad o incwm, fel pe baent yn incwm.

(4Rhaid trin unrhyw Fenthyciad Datblygu Gyrfa a delir yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 fel pe bai’n incwm.

(5Pan fo cytundeb neu orchymyn llys yn darparu bod rhaid gwneud taliadau i’r ceisydd o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd a bod y cyfryw daliadau i gael eu gwneud, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, ar ffurf taliadau cyfnodol, rhaid trin unrhyw daliadau cyfnodol o’r fath a gaiff y ceisydd (ond nid taliad sydd i’w drin fel cyfalaf yn rhinwedd y Rhan hon) fel pe bai’n incwm.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 6 para. 18 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Incwm tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyrLL+C

19.—(1Rhaid trin ceisydd nad yw’n bensiynwr fel pe bai’n meddu incwm y mae’r ceisydd hwnnw wedi amddifadu ei hunan ohono at y diben o sicrhau hawlogaeth i ostyngiad o dan gynllun awdurdod, neu gynyddu swm y gostyngiad.

(2Ac eithrio yn achos—

(a)ymddiriedolaeth ddisgresiynol;

(b)ymddiriedolaeth sy’n deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i niwed personol;

(c)cynllun pensiwn personol, cynllun pensiwn galwedigaethol neu daliad a wneir gan Fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau pan nad yw’r ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth;

(d)unrhyw swm y mae paragraff 48(2)(a) o Atodlen 10 (cyfalaf sydd i’w ddiystyru) yn gymwys iddo, a weinyddir yn y modd y cyfeirir ato ym mharagraff 48(1)(a) o’r Atodlen honno;

(e)unrhyw swm y mae paragraff 49(a) o Atodlen 10 yn cyfeirio ato;

(f)lwfans adsefydlu a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973;

(g)credyd treth plant;

(h)credyd treth gwaith, neu

(i)unrhyw swm y mae is-baragraff (11) yn gymwys iddo,

rhaid trin unrhyw incwm, a fyddai wedi bod ar gael i’r ceisydd pe bai wedi gwneud cais amdano, ond nas caffaelwyd gan y ceisydd, fel pe bai’r ceisydd yn meddu’r incwm hwnnw ond hynny yn unig, o’r dyddiad y gellid disgwyl caffael yr incwm pe byddid wedi gwneud cais.

(3Rhaid trin unrhyw daliad o incwm, ac eithrio taliad o incwm a bennir yn is-baragraff (4), a wneir—

(a)i drydydd parti mewn perthynas â cheisydd sengl neu aelod o’r teulu (ond nid aelod o deulu’r trydydd parti), pan fo’r taliad hwnnw’n daliad o bensiwn galwedigaethol, pensiwn neu daliad cyfnodol arall a wneir o dan gynllun pensiwn personol, neu daliad a wneir gan Fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau, fel pe bai’n daliad a feddir gan y ceisydd sengl hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, yr aelod hwnnw;

(b)i drydydd parti mewn perthynas â cheisydd sengl neu aelod o’r teulu (ond nid aelod o deulu’r trydydd parti), pan nad yw’n daliad y cyfeirir ato ym mharagraff (a), fel pe bai’n daliad a feddir gan y ceisydd sengl hwnnw neu’r aelod hwnnw, i’r graddau y’i defnyddir ar gyfer bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent y ceisydd sengl hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, unrhyw aelod o’r teulu hwnnw, neu y’i defnyddir ar gyfer unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu’r aelod hwnnw’n atebol amdanynt;

(c)i geisydd sengl neu aelod o’r teulu mewn perthynas â thrydydd parti (ond nid mewn perthynas ag aelod arall o’r teulu hwnnw) fel pe bai’n daliad a feddir gan y ceisydd sengl hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, yr aelod hwnnw o’r teulu, i’r graddau y’i cedwir neu y’i defnyddir gan y ceisydd sengl hwnnw neu y’i defnyddir gan neu ar ran unrhyw aelod o’r teulu.

(4Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â thaliad o incwm a wneir—

(a)o dan neu gan yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton neu’r Gronfa Byw’n Annibynnol (2006);

(b)yn unol ag adran 19(1)(a) o Ddeddf y Diwydiant Glo 1994(7) (glo consesiynol);

(c)yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 mewn perthynas â chyfranogiad person—

(i)mewn rhaglen gyflogaeth yn yr ystyr o “employment programme” a bennir yn rheoliad 75(1)(a) o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996(8);

(ii)mewn cynllun hyfforddi yn yr ystyr o “training scheme” a bennir yn rheoliad 75(1)(b) o’r Rheoliadau hynny; neu

(iii)mewn cwrs cymwys yn yr ystyr o “qualifying course” a bennir yn rheoliad 17A(7) o’r Rheoliadau hynny;

(d)mewn perthynas â chyfranogiad person yn y Cynllun Peilot Gweithio Am Eich Budd-dal;

(e)mewn perthynas â chyfranogiad person yn y Cynllun Gweithgaredd Gwaith Gorfodol;

(f)mewn perthynas â chyfranogiad ceisydd yn y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter;

(g)o dan gynllun pensiwn galwedigaethol, mewn perthynas â phensiwn neu daliad cyfnodol arall a wneir o dan gynllun pensiwn personol, neu daliad a wneir gan Fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau—

(i)pan fo gorchymyn methdaliad wedi ei wneud mewn perthynas â’r person y gwnaed y taliad mewn perthynas ag ef neu, yn yr Alban, ystad y person hwnnw’n destun secwestraeth, neu oruchwyliwr barnwrol wedi ei benodi ar ystad y person hwnnw o dan adran 41 o Ddeddf Cyfreithwyr (Yr Alban) 1980(9);

(ii)pan fo’r taliad wedi ei wneud i ymddiriedolwr mewn methdaliad neu unrhyw berson arall sy’n gweithredu ar ran y credydwyr; a

(iii)pan nad yw’r person y cyfeirir ato yn is-baragraff (i) nac unrhyw aelod o deulu’r person hwnnw yn meddu, neu pan na thrinnir hwy fel pe baent yn meddu unrhyw incwm arall ar wahân i’r taliad hwnnw.

(5Pan fo ceisydd yn cael unrhyw fudd-dal o dan y Deddfau budd-dal a chyfradd y budd-dal hwnnw’n newid gydag effaith o ddyddiad ar neu ar ôl 1 Ebrill mewn unrhyw flwyddyn, ond ddim mwy na 14 diwrnod ar ôl y dyddiad hwnnw, rhaid i’r awdurdod drin y ceisydd fel pe bai’n meddu’r budd-dal hwnnw ar y gyfradd ddiwygiedig, naill ai o 1 Ebrill neu o’r dydd Llun cyntaf yn Ebrill yn y flwyddyn honno, pa un bynnag o’r dyddiadau hynny bydd yr awdurdod yn ei ddewis, hyd at y dyddiad y bydd y gyfradd ddiwygiedig yn cael effaith.

(6Yn ddarostyngedig i is-baragraff (7)—

(a)pan fo ceisydd yn cyflawni gwasanaeth i berson arall; a

(b)pan nad yw’r person hwnnw’n gwneud unrhyw daliad o enillion neu’n talu llai na’r hyn a delir am gyflogaeth gymaradwy yn yr ardal,

rhaid i’r awdurdod drin y ceisydd fel pe bai’n meddu pa bynnag enillion (os oes rhai) sy’n rhesymol am y gyflogaeth honno, oni all y ceisydd fodloni’r awdurdod nad oes gan y person hwnnw fodd digonol i’w alluogi i dalu, neu i dalu rhagor, am y gwasanaeth.

(7Nid yw is-baragraff (6) yn gymwys—

(a)i geisydd a gymerir ymlaen gan sefydliad elusennol neu wirfoddol, neu sy’n wirfoddolwr, os bodlonir yr awdurdod, mewn unrhyw un o’r achosion hynny, ei bod yn rhesymol i’r ceisydd ddarparu’r gwasanaethau hynny yn ddi-dâl; neu

(b)mewn achos pan gyflawnir y gwasanaeth mewn cysylltiad â’r canlynol—

(i)cyfranogiad y ceisydd mewn rhaglen gyflogaeth neu hyfforddiant yn yr ystyr a roddir i “employment or training programme” gan reoliad 19(1)(q) o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996; neu

(ii)cyfranogiad y ceisydd neu bartner y ceisydd mewn rhaglen gyflogaeth neu hyfforddiant, yn yr ystyr a roddir i “employment or training programme” fel y’i diffinnir gan reoliad 19(3) o’r Rheoliadau hynny, pan nad oes lwfans hyfforddi yn daladwy ar gyfer y rhaglen honno, neu, os oes lwfans o’r fath yn daladwy, pan fo’n daladwy at yr unig ddiben o ad-dalu treuliau ynglŷn â theithio neu brydau bwyd i’r person sy’n cymryd rhan yn y rhaglen honno; neu

(c)i geisydd sy’n cymryd rhan mewn lleoliad gwaith a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol (neu berson sy’n darparu gwasanaethau i’r Ysgrifennydd Gwladol) cyn dechrau’r lleoliad.

(8Yn is-baragraff (7)(c) ystyr “lleoliad gwaith” (“work placement”) yw profiad gwaith ymarferol a ymgymerir heb ddisgwyl cael tâl amdano.

(9Pan drinnir ceisydd fel pe bai’n meddu unrhyw incwm o dan unrhyw un o’r is-baragraffau (1) i (8), mae darpariaethau blaenorol y Rhan hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo swm yr incwm hwnnw, fel pe bai taliad wedi ei wneud mewn gwirionedd ac fel pe bai’n incwm gwirioneddol a feddir gan y ceisydd.

(10Pan drinnir ceisydd fel pe bai’n meddu unrhyw enillion o dan is-baragraff (6), mae darpariaethau blaenorol y Rhan hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo swm yr enillion hynny fel pe bai taliad wedi ei wneud mewn gwirionedd ac fel pe baent yn enillion gwirioneddol a feddir gan y ceisydd, ac eithrio nad yw paragraff 15(3) (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr) yn gymwys a bod rhaid cyfrifo enillion net y ceisydd hwnnw drwy gymryd i ystyriaeth yr enillion hynny y trinnir y ceisydd hwnnw fel pe bai’n ei meddu, llai—

(a)swm mewn perthynas â threth incwm, sy’n hafal i swm a gyfrifir drwy gymhwyso i’r enillion hynny y gyfradd dreth sylfaenol sy’n gymwysadwy i’r cyfnod asesu, llai, yn unig, y rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adrannau 35 i 37 o Ddeddf Treth Incwm 2007 (lwfansau personol) fel sy’n briodol i amgylchiadau’r ceisydd; ond, pan fo’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid cyfrifo’r enillion y cymhwysir iddynt y gyfradd dreth sylfaenol a swm y rhyddhad personol didynadwy o dan yr is-baragraff hwn, ar sail pro rata;

(b)swm sy’n hafal i swm y cyfraniadau Dosbarth 1 sylfaenol a fyddai’n daladwy gan y ceisydd o dan DCBNC mewn perthynas â’r enillion hynny pe bai cyfraniadau o’r fath yn daladwy; ac

(c)hanner unrhyw swm sy’n daladwy gan y ceisydd fel cyfraniad tuag at gynllun pensiwn galwedigaethol neu bersonol.

(11Nid yw is-baragraffau (1), (2), (3) a (6) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw swm o incwm ac eithrio enillion, neu enillion enillydd cyflogedig, sy’n deillio o gyfranogiad y ceisydd mewn grŵp defnyddwyr gwasanaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 6 para. 19 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

(1)

Caniateir defnyddio pwerau yn adran 14A o Ddeddf 1992 i’w gwneud yn ofynnol bod cyflogwyr yn darparu gwybodaeth at y dibenion hyn.

(4)

2007 p.3; diwygiwyd pennawd ac is-adran (1) o adran 35 gan adran 4 o Ddeddf Cyllid 2012 (p.14) (“Deddf 2012”); mewnosodwyd is-adrannau (2) a (4) gan adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009 (p.10). Yn adran 36, diwygiwyd y pennawd ac is-adran (2), amnewidiwyd is-adran (1) ac mewnosodwyd is-adran (2A) gan adran 4 o Ddeddf 2012; mae is-adran (2) wedi ei diwygio hefyd gan erthygl 3 o O.S. 2012/3047 ac adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009. Yn adran 37, diwygiwyd y pennawd ac is-adran (2), amnewidiwyd is-adran (1) ac mewnosodwyd is-adran (2A) gan adran 4 o Ddeddf 2012; mae is-adran (2) wedi ei diwygio hefyd gan erthygl 3 o O.S. 2012/3047 ac adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources