Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

Newidiadau dros amser i: PENNOD 5

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 21/01/2015.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

PENNOD 5LL+CIncwm: personau nad ydynt yn bensiynwyr

Cyfrifo incwm ar sail wythnosolLL+C

20.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 23 (diystyru newidiadau mewn treth, etc), rhaid cyfrifo incwm ceisydd ar sail wythnosol fel a ganlyn—

(a)drwy amcangyfrif y swm sy’n debygol o fod yn incwm wythnosol cyfartalog y ceisydd yn unol â’r Rhan hon;

(b)drwy ychwanegu at y swm hwnnw yr incwm wythnosol a gyfrifwyd o dan baragraff 33 (incwm tariff); ac

(c)drwy ddidynnu wedi hynny unrhyw gostau gofal plant perthnasol y mae paragraff 21 (trin costau gofal plant) yn gymwys iddynt, o unrhyw enillion sy’n ffurfio rhan o’r incwm wythnosol cyfartalog neu, mewn achos pan fo’r amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, eu didynnu o’r enillion hynny plws pa gredyd bynnag a bennir sy’n briodol ym mharagraff (b) o’r is-baragraff hwnnw, hyd at yr uchafswm didyniad mewn perthynas â theulu’r ceisydd, sef pa un bynnag o’r symiau a bennir yn is-baragraff (3) sy’n gymwys yn achos y ceisydd.

(2Amodau’r paragraff hwn yw’r canlynol—

(a)bod enillion y ceisydd sy’n ffurfio rhan o incwm wythnosol cyfartalog y ceisydd yn llai na’r lleiaf o naill ai gostau gofal plant perthnasol y ceisydd neu pa un bynnag o’r didyniadau a bennir ym mharagraff (3) sydd, fel arall, yn gymwys yn achos y ceisydd; a

(b)bod y ceisydd hwnnw neu, os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, naill ai’r ceisydd neu bartner y ceisydd, yn cael naill ai credyd treth gwaith neu gredyd treth plant.

(3Uchafswm y didyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c) uchod fydd—

(a)pan fo teulu’r ceisydd yn cynnwys un plentyn yn unig, y telir costau gofal plant perthnasol mewn perthynas ag ef, £175 yr wythnos;

(b)pan fo teulu’r ceisydd yn cynnwys mwy nag un plentyn, y telir costau gofal plant perthnasol mewn perthynas â hwy, £300 yr wythnos.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 20 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Trin costau gofal plantLL+C

21.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ceisydd (o fewn ystyr y paragraff hwn) yn tynnu costau gofal plant perthnasol ac—

(a)yn unig riant ac yn ymgymryd â gwaith am dâl;

(b)yn aelod o gwpl, a’r ddau ohonynt yn ymgymryd â gwaith am dâl; neu

(c)yn aelod o gwpl y mae un ohonynt yn ymgymryd â gwaith am dâl a’r llall—

(i)yn analluog;

(ii)yn glaf mewnol mewn ysbyty; neu

(iii)mewn carchar (boed wedi ei ddedfrydu i garchar neu ar remánd yn y ddalfa tra’n aros treial neu ddedfryd).

(2At ddibenion is-baragraff (1) ac yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), rhaid trin person y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddo fel pe bai’n ymgymryd â gwaith am dâl am gyfnod nad yw’n hwy nag 28 wythnos pan fo’r person—

(a)yn cael tâl salwch statudol;

(b)yn cael budd-dal analluogrwydd byrdymor ar y gyfradd isaf o dan adrannau 30A i 30E o DCBNC;

(c)yn cael lwfans cyflogaeth a chymorth;

(d)yn cael cymhorthdal incwm ar sail analluedd i weithio o dan reoliad 4ZA o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987(1) a pharagraff 7 neu 14 o Atodlen 1B i’r Rheoliadau hynny; neu

(e)yn cael ei gredydu ag enillion ar sail analluedd i weithio neu alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith o dan reoliad 8B o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Credydau)1975(2).

(3Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson a oedd yn ymgymryd â gwaith am dâl yn union cyn—

(a)diwrnod cyntaf y cyfnod y telir i’r person hwnnw gyntaf dâl salwch statudol, budd-dal analluogrwydd byrdymor, lwfans cyflogaeth a chymorth neu gymhorthdal incwm ar sail analluedd i weithio; neu

(b)diwrnod cyntaf y cyfnod y credydir enillion mewn perthynas ag ef,

yn ôl fel y digwydd.

(4Mewn achos pan fo is-baragraff (2)(d) neu (e) yn gymwys, mae’r cyfnod o 28 wythnos yn cychwyn ar y diwrnod y telir cymhorthdal incwm gyntaf i’r person hwnnw, neu’r diwrnod cyntaf y credydir enillion iddo mewn perthynas ag ef, yn ôl fel y digwydd.

(5Costau gofal plant perthnasol yw’r costau gofal hynny y mae is-baragraffau (6) a (7) yn gymwys iddynt, a rhaid eu cyfrifo ar sail wythnosol yn unol ag is-baragraff (10).

(6Telir y costau gan y ceisydd, am ofal a ddarperir—

(a)yn achos unrhyw blentyn o deulu’r ceisydd nad yw’n anabl, mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar ddyddiad geni’r plentyn ac yn diweddu ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn pymthegfed pen-blwydd y plentyn hwnnw; neu

(b)yn achos unrhyw blentyn o deulu’r ceisydd sy’n anabl, mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar ddyddiad geni’r plentyn ac yn diweddu ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y plentyn hwnnw.

(7Telir y costau am ofal a ddarperir gan un neu ragor o’r darparwyr gofal a restrir yn is-baragraff (8) ac ni thelir hwy—

(a)mewn perthynas ag addysg orfodol y plentyn;

(b)gan geisydd i’w bartner na chan ei bartner i geisydd, mewn perthynas ag unrhyw blentyn y mae’r naill neu’r llall, neu unrhyw rai ohonynt yn gyfrifol amdano yn unol â rheoliad 7 (amgylchiadau pan fo person i gael ei drin fel pe bai’n gyfrifol neu ddim yn gyfrifol am berson arall); neu

(c)mewn perthynas â gofal a ddarperir gan berthynas i’r plentyn yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng nghartref y plentyn.

(8Caniateir darparu’r gofal y cyfeirir ato yn is-baragraff (7)—

(a)y tu allan i oriau ysgol, gan ysgol neu mewn mangre ysgol gan awdurdod lleol —

(i)i blant nad ydynt yn anabl, mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar eu hwythfed pen-blwydd ac yn diweddu ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn eu pymthegfed pen-blwydd; neu

(ii)i blant sy’n anabl, mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar eu hwythfed pen-blwydd ac yn diweddu ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn eu hunfed pen-blwydd ar bymtheg; neu

(b)gan ddarparwr gofal plant a gymeradwywyd yn unol â Rheoliadau Credyd Treth (Categori Newydd o Ddarparwyr Gofal Plant) 1999(3); neu

(c)gan bersonau a gofrestrwyd o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(4); neu

(d)gan berson a eithrir rhag cofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 oherwydd bod y gofal plant a ddarperir gan y person hwnnw mewn ysgol neu mewn sefydliad y cyfeirir atynt yn erthygl 11, 12 neu 14 o Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010(5); neu

(e)gan—

(i)personau a gofrestrwyd o dan adran 59(1) o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010(6); neu

(ii)awdurdodau lleol a gofrestrwyd o dan adran 83(1) o’r Ddeddf honno,

os y gofal a ddarperir yw gwarchod plant neu’n ofal dydd ar gyfer plant yn yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “child minding” a “day care of children” yn y Ddeddf honno; neu

(f)gan berson a ragnodir mewn rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 12(4) o Ddeddf Credydau Treth 2002; neu

(g)gan berson a gofrestrwyd o dan Bennod 2 neu 3 o Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006; neu

(h)gan unrhyw un o’r ysgolion a grybwyllir yn adran 34(2) o Ddeddf Gofal Plant 2006(7) mewn amgylchiadau pan nad yw’r gofyniad i gofrestru o dan Bennod 2 o Ran 3 o’r Ddeddf honno yn gymwys, yn rhinwedd adran 34(2) o’r Ddeddf honno; neu

(i)gan unrhyw un o’r ysgolion a grybwyllir yn adran 53(2) o Ddeddf Gofal Plant 2006 mewn amgylchiadau pan nad yw’r gofyniad i gofrestru o dan Bennod 3 o Ran 3 o’r Ddeddf honno yn gymwys, yn rhinwedd adran 53(2) o’r Ddeddf honno; neu

(j)gan unrhyw un o’r sefydliadau a grybwyllir yn adran 18(5) o Ddeddf Gofal Plant 2006 mewn amgylchiadau pan nad yw’r gofal yn gynwysedig yn ystyr “childcare” at ddibenion Rhan 1 a Rhan 3 y Ddeddf honno yn rhinwedd adran 18(5) o’r Ddeddf honno; neu

(k)gan riant maeth neu ofalwr-berthynas o dan Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011(8), Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(9) neu Reoliadau Plant sy’n Derbyn Gofal (Yr Alban) 2009(10) mewn perthynas â phlentyn ac eithrio’r plentyn a faethir gan y rhiant maeth neu’r plentyn sy’n derbyn gofal gan y gofalwr-berthynas; neu

(l)gan weithiwr gofal cartref o dan Reoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004(11); neu

(m)gan berson nad yw’n berthynas i’r plentyn, yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng nghartref y plentyn.

(9Yn is-baragraffau (6) ac (8)(a), ystyr “y dydd Llun cyntaf ym Medi” (“the first Monday in September”) yw’r dydd Llun sy’n digwydd gyntaf yn ystod y mis Medi mewn unrhyw flwyddyn.

(10Rhaid amcangyfrif y costau gofal plant perthnasol dros ba bynnag gyfnod, o ddim mwy na blwyddyn, sy’n briodol ar gyfer amcangyfrif yn gywir y gost wythnosol gyfartalog, gan roi sylw i wybodaeth a ddarperir gan y gwarchodwr plant neu’r person sy’n darparu’r gofal, ynghylch swm y tâl a godir.

(11At ddibenion is-baragraff (1)(c) mae’r aelod arall o gwpl yn analluog—

(a)os yw swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys premiwm anabledd oherwydd analluedd yr aelod arall neu’r elfen gymorth neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith oherwydd galluedd cyfyngedig yr aelod arall ar gyfer gwaith;

(b)os byddai swm cymwysadwy’r ceisydd wedi cynnwys premiwm anabledd oherwydd analluedd yr aelod arall pe na bai’r aelod arall hwnnw’n cael ei drin fel pe bai’n alluog i weithio, yn rhinwedd penderfyniad a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 171E o DCBNC;

(c)os byddai swm cymwysadwy’r ceisydd wedi cynnwys yr elfen gymorth neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith oherwydd galluedd cyfyngedig yr aelod arall ar gyfer gwaith pe na bai’r aelod arall hwnnw’n cael ei drin fel pe na bai ei alluedd i weithio yn gyfyngedig, yn rhinwedd penderfyniad a wnaed yn unol â Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008;

(d)os yw’r ceisydd yn analluog i weithio, neu’n cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio, ac wedi bod yn analluog felly neu’n cael ei drin felly yn unol â darpariaethau Rhan 12A o DCBNC (analluedd i weithio) a rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno am gyfnod di-dor o ddim llai na 196 diwrnod; ac at y diben hwn rhaid trin unrhyw ddau neu ragor o gyfnodau ar wahân, a wahenir gan doriad o ddim mwy na 56 diwrnod fel un cyfnod di-dor;

(e)os yw galluedd y ceisydd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig, neu os trinnir ef fel pe bai ei alluedd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig, ac os bu ganddo, neu os triniwyd ef fel pe bai ganddo, alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith yn unol â Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008 am gyfnod di-dor o ddim llai na 196 diwrnod; ac at y diben hwn rhaid trin unrhyw ddau neu ragor o gyfnodau ar wahân, a wahenir gan doriad o ddim mwy na 84 diwrnod fel un cyfnod di-dor;

(f)os yw un neu ragor o’r pensiynau neu lwfansau canlynol yn daladwy mewn perthynas â’r aelod arall—

(i)budd-dal analluogrwydd hirdymor neu fudd-dal analluogrwydd byrdymor ar y raddfa uwch o dan Atodlen 4 i DCBNC;

(ii)lwfans gweini o dan adran 64 o DCBNC;

(iii)lwfans anabledd difrifol o dan adran 68 o DCBNC;

(iv)lwfans byw i’r anabl o dan adran 71 o DCBNC;

(v)taliad annibyniaeth bersonol o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012;

(vi)TALlA;

(vii)cynnydd mewn pensiwn anabledd o dan adran 104 o DCBNC;

(viii)cynnydd mewn pensiwn a delir fel rhan o bensiwn anabledd rhyfel neu o dan gynllun anafiadau diwydiannol sy’n cyfateb i lwfans neu gynnydd mewn pensiwn anabledd o dan is-baragraff (ii), (iv), (v) neu (vii) uchod;

(ix)lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd;

(g)os bu pensiwn neu lwfans y cyfeirir ato yn is-baragraff (vi) neu (vii) o baragraff (f) yn daladwy oherwydd analluedd yr aelod arall, ond peidiodd â bod yn daladwy o ganlyniad i’r aelod hwnnw ddod yn glaf, ac yn y paragraff hwn, ystyr claf yw person (ac eithrio person sy’n gwneud dedfryd o garchar neu’n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad cadw ar gyfer pobl ifanc) yr ystyrir ei fod yn cael triniaeth ddi-dâl fel claf mewnol, yn yr ystyr a roddir i “receiving free in-patient treatment” gan reoliad 2(4) a (5) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cleifion Mewnol mewn Ysbytai) 2005`(12);

(h)os byddai lwfans gweini o dan adran 64 o DCBNC neu lwfans byw i’r anabl o dan adran 71 o’r Ddeddf honno yn daladwy i’r person hwnnw oni bai am—

(i)atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o DCBNC; neu

(ii)lleihad oherwydd traddodi i ysbyty;

(i)os byddai’r elfen byw dyddiol o’r taliad annibyniaeth bersonol yn daladwy i’r person hwnnw pe na bai y budd-dal wedi ei atal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (cleifion mewnol mewn ysbyty);

(j)os byddai TALlA yn daladwy i’r person hwnnw pe na bai y taliad wedi ei atal dros dro yn unol ag unrhyw delerau cynllun digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn, sy’n caniatáu ataliad dros dro oherwydd bod person yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb;

(k)os byddai paragraff (f), (g), (h) neu (i) yn gymwys i’r aelod arall pe bai’r darpariaethau deddfwriaethol y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny yn ddarpariaethau o dan unrhyw ddeddfiad cyfatebol sy’n cael effaith yng Ngogledd Iwerddon; neu

(l)os oes gan yr aelod arall gerbyd ar gyfer pobl anabl neu fath arall o gerbyd, a ddarparwyd i’r aelod arall gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 9 o Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu o dan adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(13), neu a ddarparwyd gan yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd yng Ngogledd Iwerddon o dan erthygl 30(1) o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972, neu a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac Atodlen 1 i’r Ddeddf honno.

(12At ddibenion is-baragraff (11), unwaith y bydd is-baragraff (11)(d) yn gymwys i’r ceisydd, os yw’r ceisydd wedyn, am gyfnod o 56 diwrnod neu lai, yn peidio â bod yn analluog i weithio, neu gael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio, yna, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, pan â’r ceisydd yn analluog i weithio drachefn, neu pan drinnir ef drachefn fel pe bai’n analluog i weithio, bydd yr is-baragraff hwnnw yn gymwys i’r ceisydd ar unwaith, cyhyd ag y bo’r ceisydd yn parhau’n analluog i weithio, neu cyhyd ag y’i trinnir fel pe bai’n analluog i weithio.

(13At ddibenion is-baragraff (11), unwaith y bydd is-baragraff (11)(e) yn gymwys i’r ceisydd, os yw galluedd y ceisydd ar gyfer gwaith wedyn yn peidio â bod yn gyfyngedig, neu os peidir â’i drin fel pe bai ei alluedd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig, am gyfnod o 84 diwrnod neu lai, yna, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, pan â galluedd y ceisydd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig drachefn, neu pan drinnir ef drachefn fel pe bai ei allu’n gyfyngedig, bydd yr is-baragraff hwnnw yn gymwys i’r ceisydd ar unwaith, cyhyd ag y bo galluedd y ceisydd ar gyfer gwaith yn parhau’n gyfyngedig, neu cyhyd ag y’i trinnir fel pe bai ei alluedd ar gyfer gwaith yn gyfyngedig.

(14At ddibenion is-baragraffau (6) ac (8)(a), mae person yn anabl os yw’r person hwnnw yn berson—

(a)y mae lwfans gweini neu elfen ofal y lwfans anabledd yn daladwy iddo, neu y byddai’n daladwy iddo oni bai am—

(i)atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o DCBNC; neu

(ii)lleihad oherwydd traddodi i ysbyty;

(b)y mae elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol yn daladwy iddo neu y byddai’n daladwy iddo oni bai am atal y budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (cleifion mewnol mewn ysbyty);

(c)wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994(14);

(d)y peidiodd â bod yn gofrestredig fel person dall mewn cofrestr o’r fath, o fewn y cyfnod sy’n cychwyn 28 wythnos cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn pymthegfed pen-blwydd y person hwnnw ac yn diweddu ar y diwrnod yn union cyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y person hwnnw; neu

(e)y mae TALlA yn daladwy iddo.

(15At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin person sydd ar absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu fel pe bai’n ymgymryd â gwaith am dâl am y cyfnod a bennir yn is-baragraff (16) (“y cyfnod perthnasol”) ar yr amod—

(a)bod y person hwnnw’n gweithio am dâl yn ystod yr wythnos sy’n rhagflaenu’r cyfnod o absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu;

(b)bod y person hwnnw’n tynnu costau gofal plant perthnasol o fewn ystyr is-baragraff (5); ac

(c)bod hawl gan y person hwnnw i gael naill ai tâl mamolaeth statudol o dan adran 164 o DCBNC, tâl tadolaeth cyffredin yn rhinwedd adran 171ZA neu 171ZB o’r Ddeddf honno, tâl tadolaeth statudol ychwanegol yn rhinwedd adran 171ZEA neu 171ZEB o’r Ddeddf honno, tâl mabwysiadu statudol yn rhinwedd adran 171ZL o’r Ddeddf honno, lwfans mamolaeth o dan adran 35 o’r Ddeddf honno neu gymhorthdal cymwys.

(16At ddibenion is-baragraff (15) mae’r cyfnod perthnasol yn cychwyn ar y diwrnod y mae absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu y person hwnnw’n cychwyn, a daw i ben ar—

(a)y dyddiad y daw’r absenoldeb hwnnw i ben;

(b)os na thelir yr elfen gofal plant o’r credyd treth gwaith ar y dyddiad y daw’r hawlogaeth i lwfans mamolaeth, cymhorthdal cymwys (os yw’n berthnasol), tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol cyffredin neu ychwanegol neu’r tâl mabwysiadu statudol i ben, y dyddiad y daw’r hawlogaeth honno i ben; neu

(c)os telir yr elfen gofal plant o’r credyd treth gwaith ar y dyddiad y daw’r hawlogaeth i lwfans mamolaeth neu gymhorthdal cymwys, tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol cyffredin neu ychwanegol, neu’r tâl mabwysiadu statudol i ben, y dyddiad y daw’r hawlogaeth i’r dyfarniad o’r elfen gofal plant o’r credyd treth gwaith i ben,

pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf.

(17Yn is-baragraffau (15) ac (16)—

(a)ystyr “cymhorthdal cymwys” (“qualifying support”) yw cymhorthdal incwm y mae hawl gan y person hwnnw i’w gael yn rhinwedd paragraff 14B o Atodlen 1B i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987; a

(b)ystyr “elfen gofal plant” (“child care element”) o’r credyd treth gwaith yw’r elfen o’r credyd treth gwaith a ragnodir o dan adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002 (elfen gofal plant).

(18Yn y paragraff hwn nid yw “ceisydd” (“applicant”) yn cynnwys ceisydd—

(a)y mae ganddo, neu

(b)y mae ganddo (ar y cyd â phartner),

ddyfarniad o gredyd cynhwysol.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 6 para. 21 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifiadau o’r incwm wythnosol cyfartalog o gredydau trethLL+C

22.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ceisydd yn cael credyd treth.

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, y cyfnod y mae’n rhaid cymryd y credyd treth i ystyriaeth drosto yw’r cyfnod a bennir yn is-baragraff (3).

(3Os yw’r rhandaliad, y gwneir y taliad o gredyd treth ynddo—

(a)yn rhandaliad dyddiol, y cyfnod yw 1 diwrnod, sef y diwrnod y telir y rhandaliad mewn perthynas ag ef;

(b)yn rhandaliad wythnosol, y cyfnod yw 7 diwrnod, yn diweddu ar y diwrnod y mae’r rhandaliad yn ddyledus i’w dalu;

(c)yn rhandaliad mewn perthynas â dwy wythnos, y cyfnod yw 14 diwrnod, yn cychwyn 6 diwrnod cyn y diwrnod y mae’r rhandaliad yn ddyledus i’w dalu;

(d)yn rhandaliad mewn perthynas â phedair wythnos, y cyfnod yw 28 diwrnod, yn diweddu ar y diwrnod y mae’r rhandaliad yn ddyledus i’w dalu.

(4At ddibenion y paragraff hwn ystyr “credyd treth” (“tax credit”) yw credyd treth plant neu gredyd treth gwaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 6 para. 22 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau etcLL+C

23.  Wrth gyfrifo incwm ceisydd, caiff awdurdod ddiystyru unrhyw newid deddfwriaethol—

(a)yng nghyfradd sylfaenol neu gyfraddau eraill y dreth incwm;

(b)yn swm unrhyw ryddhad treth personol;

(c)yng nghyfraddau cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy o dan DCBNC neu yn y terfyn enillion isaf neu’r terfyn enillion uchaf ar gyfer cyfraniadau Dosbarth 1 o dan y Ddeddf honno, y terfynau uchaf neu isaf sy’n gymwys i gyfraniadau Dosbarth 4 o dan y Ddeddf honno neu’r swm a bennir yn adran 11(4) o’r Ddeddf honno (eithriad enillion isel mewn perthynas â chyfraniadau Dosbarth 2);

(d)yn swm y dreth sy’n daladwy o ganlyniad i gynnydd yn y gyfradd wythnosol o bensiwn ymddeol Categori A, B, C neu D neu unrhyw ychwanegiad ato neu unrhyw bensiwn graddedig sy’n daladwy o dan DCBNC;

(e)yn y gyfradd uchaf o gredyd treth plant neu gredyd treth gwaith,

am gyfnod ddim hwy na 30 wythnos ostyngiad, sy’n cychwyn gyda’r wythnos ostyngiad yn union ar ôl y dyddiad y daw’r newid yn effeithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 6 para. 23 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo elw net enillwyr hunangyflogedigLL+C

24.—(1At ddibenion paragraff 11 (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr hunangyflogedig), enillion y ceisydd y mae’n rhaid eu cymryd i ystyriaeth yw’r canlynol—

(a)yn achos enillydd hunangyflogedig sy’n ymgymryd â chyflogaeth ar ei ran ei hun, yr elw net sy’n deillio o’r gyflogaeth honno;

(b)yn achos enillydd hunangyflogedig sy’n bensiynwr ac yn ymgymryd â’i gyflogaeth mewn partneriaeth, cyfran y person hwnnw o’r elw net sy’n deillio o’r gyflogaeth honno, llai—

(i)swm mewn perthynas â threth incwm a chyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy o dan DCBNC, a gyfrifir yn unol â pharagraff 25 (cyfrifo didynnu treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig); a

(ii)hanner y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (11) mewn perthynas ag unrhyw bremiwm cymwys;

(c)yn achos enillydd hunangyflogedig nad yw’n bensiynwr ac sy’n ymgymryd â chyflogaeth mewn partneriaeth, neu gyflogaeth fel pysgotwr cyfran yn yr ystyr a roddir i “share fisherman” gan Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Budd-daliadau Llongwyr) 1975(15), cyfran y person hwnnw o’r elw net sy’n deillio o’r gyflogaeth honno, llai—

(i)swm mewn perthynas â threth incwm a chyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy o dan DCBNC, a gyfrifir yn unol â pharagraff 25 (cyfrifo didynnu treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig); a

(ii)hanner y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (11) mewn perthynas ag unrhyw bremiwm cymwys.

(2Rhaid diystyru, o elw net ceisydd nad yw’n bensiynwr, unrhyw swm, pan fo’n gymwys, a bennir ym mharagraffau 1 i 16 o Atodlen 8 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion).

(3At ddibenion is-baragraff (1)(a) rhaid cyfrifo elw net y gyflogaeth, ac eithrio pan fo is-baragraff (9) yn gymwys, drwy gymryd i ystyriaeth enillion y gyflogaeth dros y cyfnod asesu, llai—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (5) i (8), unrhyw dreuliau a dynnir yn gyfan gwbl ac yn unig yn y cyfnod hwnnw at ddibenion y gyflogaeth honno;

(b)swm mewn perthynas ag—

(i)treth incwm; a

(ii)cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy o dan DCBNC,

a gyfrifir yn unol â pharagraff 25 (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig); ac

(c)hanner y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (11) mewn perthynas ag unrhyw bremiwm cymwys.

(4At ddibenion is-baragraff (1)(b) rhaid cyfrifo elw net y gyflogaeth drwy gymryd i ystyriaeth enillion y gyflogaeth dros y cyfnod asesu llai, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (5) i (8), unrhyw dreuliau a dynnir yn gyfan gwbl ac yn unig yn y cyfnod hwnnw at ddibenion y gyflogaeth honno.

(5Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), rhaid peidio â gwneud unrhyw ddidyniad o dan baragraff (3)(a) neu (4), mewn perthynas ag—

(a)unrhyw wariant cyfalaf;

(b)dibrisiant unrhyw ased cyfalaf;

(c)unrhyw swm a ddefnyddiwyd neu y bwriedir ei ddefnyddio i sefydlu neu ehangu’r gyflogaeth;

(d)unrhyw golled a dynnwyd cyn dechrau’r cyfnod asesu;

(e)ad-daliad o’r cyfalaf mewn unrhyw fenthyciad a gymerwyd at ddibenion y gyflogaeth;

(f)unrhyw dreuliau a dynnwyd wrth ddarparu adloniant busnes; ac

(g)yn achos ceisydd nad yw’n bensiynwr, unrhyw ddyledion, ac eithrio drwg-ddyledion y profwyd eu bod yn ddrwg-ddyledion, ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw dreuliau a dynnir wrth adennill dyled.

(6Rhaid gwneud didyniad o dan is-baragraff (3)(a) neu (4) mewn perthynas ag ad-dalu’r cyfalaf mewn unrhyw fenthyciad a ddefnyddiwyd ar gyfer—

(a)amnewid cyfarpar neu beiriannau yng nghwrs busnes; neu

(b)atgyweirio ased busnes presennol, ac eithrio i’r graddau y mae unrhyw swm yn daladwy o dan bolisi yswiriant ar gyfer ei atgyweirio.

(7Rhaid i’r awdurdod wrthod gwneud didyniad mewn perthynas ag unrhyw dreuliau o dan is-baragraff (3)(a) neu (4) os na fodlonwyd yr awdurdod, o ystyried natur a swm y draul, ei bod wedi ei thynnu yn rhesymol.

(8Er mwyn osgoi amheuaeth—

(a)rhaid peidio â gwneud didyniad o dan is-baragraff (3)(a) neu (4) mewn perthynas ag unrhyw swm, oni wariwyd y swm hwnnw at ddibenion y busnes;

(b)rhaid gwneud didyniad o dan y naill neu’r llall o’r is-baragraffau hynny mewn perthynas ag—

(i)pan fo swm y dreth ar werth a dalwyd yn fwy na swm y dreth ar werth a dderbyniwyd yn y cyfnod asesu, y gwahaniaeth rhwng y ddau swm;

(ii)unrhyw incwm a wariwyd i atgyweirio ased busnes presennol ac eithrio i’r graddau y mae unrhyw swm yn daladwy o dan bolisi yswiriant ar gyfer ei atgyweirio;

(iii)unrhyw daliad o log ar fenthyciad a gymerwyd at ddibenion y gyflogaeth.

(9Pan fo ceisydd yn ymgymryd â chyflogaeth fel gwarchodwr plant, elw net y gyflogaeth fydd un rhan o dair o enillion y gyflogaeth honno, llai—

(a)swm mewn perthynas ag—

(i)treth incwm; a

(ii)cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy o dan DCBNC,

a gyfrifir yn unol â pharagraff 25 (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig); a

(b)hanner y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (11) mewn perthynas ag unrhyw bremiwm cymwys.

(10Er mwyn osgoi amheuaeth, pan fo ceisydd yn ymgymryd â chyflogaeth fel enillydd hunangyflogedig a’r ceisydd hefyd yn ymgymryd ag un neu ragor o gyflogaethau eraill fel enillydd hunangyflogedig neu gyflogedig, rhaid peidio â gwrthbwyso unrhyw golled a dynnir mewn unrhyw un o gyflogaethau’r enillydd yn erbyn enillion y ceisydd mewn unrhyw un o’i gyflogaethau eraill.

(11Rhaid cyfrifo’r swm mewn perthynas ag unrhyw bremiwm cymwys drwy luosi swm dyddiol y premiwm cymwys gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod asesu; ac at ddibenion y paragraff hwn, rhaid penderfynu swm dyddiol y premiwm cymwys fel a ganlyn—

(a)os yw’r premiwm cymwys yn daladwy yn fisol, drwy luosi swm y cyfraniad cymwys gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 365;

(b)mewn unrhyw achos arall, drwy rannu swm y premiwm cymwys gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod y mae’r premiwm cymwys yn berthynol iddo.

(12Yn y paragraff hwn, ystyr “premiwm cymwys” (“qualifying premium”) yw unrhyw bremiwm sy’n daladwy fesul cyfnod mewn perthynas â chynllun pensiwn personol ac yn daladwy felly ar neu ar ôl dyddiad y cais.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 6 para. 24 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedigLL+C

25.—(1Rhaid cyfrifo’r swm sydd i’w ddidynnu mewn perthynas â threth incwm o dan baragraff 24(1)(b)(i), (3)(b)(i) neu (9)(a)(i) (cyfrifo elw net enillwyr hunangyflogedig)—

(a)ar sail swm yr incwm trethadwy, a

(b)fel pe bai’r incwm hwnnw’n asesadwy ar gyfer treth incwm ar y gyfradd dreth sylfaenol sy’n gymwys i’r cyfnod asesu, llai, yn unig, y rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adran 35 i 37 o Ddeddf Treth Incwm 2007(16) (lwfansau personol) fel y bo’n briodol i amgylchiadau’r ceisydd.

(2Ond, os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid cyfrifo’r enillion y cymhwysir y gyfradd dreth sylfaenol iddynt a swm y rhyddhad personol sy’n ddidynadwy o dan y paragraff hwn ar sail pro rata.

(3Y swm sydd i’w ddidynnu mewn perthynas â chyfraniadau nawdd cymdeithasol o dan baragraff 24 (1)(b)(i), (3)(b)(ii) neu (9)(a)(ii) yw cyfanswm y canlynol—

(a)swm y cyfraniadau Dosbarth 2 sy’n daladwy o dan adran 11(1) o DCBNC neu, yn ôl fel y digwydd, adran 11(3) o DCBNC ar y gyfradd sy’n gymwys i’r cyfnod asesu ac eithrio pan fo incwm trethadwy’r ceisydd yn llai na’r swm a bennir yn adran 11(4) o’r Ddeddf honno (eithriad enillion isel) ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n gymwys i’r cyfnod asesu; ond os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid lleihau’r swm a bennir ar gyfer y flwyddyn dreth honno pro rata; a

(b)swm y cyfraniadau Dosbarth 4 (os oes rhai) a fyddai’n daladwy o dan adran 15 o DCBNC (cyfraniadau Dosbarth 4 sy’n adenilladwy o dan y Deddfau Treth Incwm) ar y gyfradd ganrannol sy’n gymwys i’r cyfnod asesu ar gymaint o’r incwm trethadwy ag sydd uwchlaw’r terfyn isaf, ond nid uwchlaw’r terfyn uchaf o elwau a chynyddiadau cymwys ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n gymwys i’r cyfnod asesu; ond os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid lleihau’r terfynau hynny pro rata.

(4Yn y paragraff hwn ystyr “incwm trethadwy” (“chargeable income”) yw—

(a)ac eithrio pan fo paragraff (b) yn gymwys, yr enillion sy’n deillio o gyflogaeth, llai unrhyw dreuliau a ddidynnwyd o dan [F1is-baragraff (3)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, is-baragraff (4) o baragraff 24];

(b)yn achos cyflogaeth fel gwarchodwr plant, un rhan o dair o enillion y gyflogaeth honno.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 6 para. 25 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)

(13)

1978 p.29.

(14)

1994 p.39.

(16)

2007 p.3; diwygiwyd pennawd ac is-adran (1) o adran 35 gan adran 4 o Ddeddf Cyllid 2012 (p.14) (“Deddf 2012”); mewnosodwyd is-adrannau (2) a (4) gan adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009 (p.10). Yn adran 36, diwygiwyd y pennawd ac is-adran (2), amnewidiwyd is-adran (1) ac mewnosodwyd is-adran (2A) gan adran 4 o Ddeddf 2012; mae is-adran (2) wedi ei diwygio hefyd gan erthygl 3 o O.S. 2012/3047, ac adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009. Yn adran 37, diwygiwyd y pennawd ac is-adran (2), amnewidiwyd is-adran (1) ac mewnosodwyd is-adran (2A) gan adran 4 o Ddeddf 2012; mae is-adran (2) wedi ei diwygio hefyd gan erthygl 3 o O.S. 2012/3047, ac adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources