Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

18.  Yn ddarostyngedig i baragraff 20, mae hawl gan y ceisydd i gael un, ond nid y ddwy o’r elfennau ym mharagraff 21 neu 22 os yw—LL+C

(a)y ceisydd neu bartner y ceisydd wedi gwneud cais am lwfans cyflogaeth a chymorth;

(b)bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu bod gan y ceisydd neu bartner y ceisydd alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith neu alluedd cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd perthynol i waith, neu fod y ceisydd neu bartner y ceisydd i’w drin felly; ac

(c)naill ai bod—

(i)y cyfnod asesu, yn yr ystyr o “assessment phase” fel y’i diffinnir yn adran 24(2) o Ddeddf Diwygio Lles 2007(1), wedi dod i ben; neu

(ii)rheoliad 7 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008(2) (amgylchiadau pan nad yw’r amod bod y cyfnod asesu wedi dod i ben cyn bod hawlogaeth i’r elfen gymorth neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith yn gymwys) yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 7 Rhn. 5 para. 18 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)