Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
25.—(1) Mae hawl gan y ceisydd i gael yr ychwanegiad trosiannol a gyfrifir yn unol â pharagraff 28 yn yr amgylchiadau canlynol—LL+C
(a)pan fo hawl gan ceisydd neu bartner y ceisydd (“y person perthnasol”) i gael lwfans cyflogaeth a chymorth a droswyd; neu
(b)pan fo’r person perthnasol yn apelio yn erbyn penderfyniad trosi yn yr ystyr o “conversion decision” fel y’i disgrifir yn rheoliad 5(2)(b) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Darpariaethau Trosiannol, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor) (Dyfarniadau Presennol) (Rhif 2) 2010(1) ac—
(i)y’i trinnir fel pe bai ganddo alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith yn rhinwedd rheoliad 30 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008 fel y’i haddaswyd gan Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Darpariaethau Trosiannol, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor) (Dyfarniadau Presennol) (Rhif 2) 2010; a
(ii)nad yw’n cael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm,
oni fyddai swm yr ychwanegiad trosiannol a gyfrifid yn unol â pharagraff 28 yn ddim.
(2) Bydd hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn rhinwedd y paragraff hwn yn dod i ben pan ddigwydd unrhyw un o’r canlynol—
(a)gostyngiad yr ychwanegiad trosiannol i ddim yn unol â pharagraff 29;
(b)terfynu’r dyfarniad o ostyngiad i’r ceisydd o dan gynllun awdurdod;
(c)y person perthnasol yn peidio â bodloni gofynion is-baragraff (1)(a) neu (b), yn ôl fel y digwydd;
(d)y ceisydd neu bartner y ceisydd yn ennill yr hawl i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu gymhorthdal incwm;
(e)5 Ebrill 2020.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 Rhn. 7 para. 25 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)