xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
26.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—LL+C
(a)hawl y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn dod i ben yn rhinwedd terfynu’r dyfarniad o ostyngiad i’r ceisydd, o dan—
(i)paragraff 25(2)(b);
(ii)is-baragraff (3)(b) o’r paragraff hwn; neu
(iii)paragraff 27(3)(b);
(b)o fewn 12 wythnos ar ôl y terfyniad hwnnw ond cyn 5 Ebrill 2020, y ceisydd yn ennill yr hawl drachefn i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod;
(c)yn yr wythnos ostyngiad y daw’r ceisydd yn gymwys drachefn i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod, mae hawl gan y person perthnasol i gael lwfans cyflogaeth a chymorth nad yw’n seiliedig ar incwm; a
(d)ar y dyddiad y mae’r ceisydd yn ennill yr hawl drachefn i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod, nid oes hawl gan y ceisydd na phartner y ceisydd i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm na chymhorthdal incwm.
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae hawl gan y ceisydd, yn effeithiol o’r diwrnod y mae’r ceisydd yn ennill yr hawl drachefn i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod, i gael ychwanegiad trosiannol o swm yr ychwanegiad trosiannol y byddid wedi ei ddyfarnu pe na bai hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol wedi dod i ben (ond gan gymryd i ystyriaeth yr effaith y byddai unrhyw newid yn yr amgylchiadau, a ddigwyddodd yn y cyfamser wedi ei gael yn rhinwedd paragraff 29), oni fyddai swm yr ychwanegiad trosiannol yn ddim.
(3) Bydd hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn rhinwedd y paragraff hwn yn dod i ben pan ddigwydd unrhyw un o’r canlynol—
(a)gostyngiad yr ychwanegiad trosiannol i ddim yn unol â pharagraff 29;
(b)terfynu’r dyfarniad o ostyngiad i’r ceisydd o dan gynllun awdurdod;
(c)hawl y person perthnasol i gael y lwfans cyflogaeth a chymorth y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c) yn dod i ben;
(d)y ceisydd neu bartner y ceisydd yn ennill yr hawl i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu gymhorthdal incwm;
(e)5 Ebrill 2020.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 Rhn. 7 para. 26 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)