Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
28.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 29, swm yr ychwanegiad trosiannol yw’r gwahaniaeth rhwng y Swm A a’r Swm B (A>B).LL+C
(2) Pan wneir penderfyniad trosi yn yr ystyr o “conversion decision” fel y’i disgrifir yn rheoliad 5(2)(a) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Darpariaethau Trosiannol, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor) (Dyfarniadau Presennol) (Rhif 2) 2010 (“Rheoliadau 2010”) mewn perthynas â’r person perthnasol—
(a)Swm A yw’r swm sylfaenol y byddid wedi ei gymhwyso ar y diwrnod yr oedd y penderfyniad yn cael effaith, pe na bai’r penderfyniad hwnnw wedi ei wneud; a
(b)Swm B yw’r swm sylfaenol a gymhwyswyd ar y diwrnod hwnnw o ganlyniad i’r penderfyniad.
(3) Pan fo’r person perthnasol yn apelio yn erbyn penderfyniad trosi fel y’i disgrifir yn rheoliad 5(2)(b) o Reoliadau 2010 a thrinnir y person perthnasol fel pe bai ganddo alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith yn rhinwedd rheoliad 30 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008 fel y’i haddaswyd gan Reoliadau 2010—
(a)Swm A yw’r swm sylfaenol y byddid wedi ei gymhwyso ar y diwrnod y triniwyd y person perthnasol gyntaf fel pe bai ganddo alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith, pe na bai’r person perthnasol wedi ei drin felly; a
(b)Swm B yw’r swm sylfaenol a gymhwyswyd ar y diwrnod hwnnw o ganlyniad i drin y person perthnasol felly.
(4) Yn y paragraff hwn a pharagraff 29, ystyr “swm sylfaenol” (“basic amount”) yw swm cyfanredol y cyfryw symiau a allai fod yn gymwys yn achos y ceisydd yn unol â pharagraff 1(1)(a) i (e) neu baragraff (2)(2)(a) i (f) o Atodlen 6.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 Rhn. 8 para. 28 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)