ATODLEN 7LL+CSymiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr

RHAN 8LL+CSwm yr ychwanegiad trosiannol

29.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), os digwydd unrhyw newid yn yr amgylchiadau sy’n arwain at gynnydd yn swm sylfaenol y ceisydd, rhaid lleihau’r ychwanegiad trosiannol a oedd yn gymwys yn union cyn y newid yn yr amgylchiadau, o swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth rhwng Swm C a Swm D (C>D).LL+C

(2Os yw’r gwahaniaeth rhwng Swm C a Swm D yn fwy na swm yr ychwanegiad trosiannol a oedd yn gymwys yn union cyn y newid yn yr amgylchiadau, rhaid lleihau’r ychwanegiad trosiannol hwnnw i ddim.

(3Swm C yw’r swm sylfaenol sy’n gymwys o ganlyniad i’r cynnydd.

(4Swm D yw’r swm sylfaenol a oedd yn gymwys yn union cyn y cynnydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 7 Rhn. 8 para. 29 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)