Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 19/01/2024.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Rheoliad 33(2)
1. Yn achos ceisydd a fu’n ymgymryd â gwaith am dâl fel enillydd cyflogedig, neu a fyddai wedi bod yn ymgymryd â gwaith o’r fath pe bai’r gyflogaeth wedi bod ym Mhrydain Fawr—LL+C
(a)os—
(i)terfynwyd y gyflogaeth oherwydd ymddeol; ac
(ii)ar ôl ymddeol, os oes hawl gan y ceisydd i gael pensiwn ymddeol o dan DCBNC, neu pan nad oes hawl o’r fath ganddo oherwydd, yn unig, methiant y ceisydd i fodloni’r amodau cyfrannu,
unrhyw enillion a dalwyd neu sy’n ddyladwy i’w talu mewn perthynas â’r gyflogaeth honno, ond hynny am gyfnod, yn unig, sy’n cychwyn ar y diwrnod yn union ar ôl y dyddiad y terfynwyd y gyflogaeth;
(b)os terfynwyd y gyflogaeth rywfodd ac eithrio drwy ymddeol, a hynny cyn diwrnod cyntaf hawlogaeth i ostyngiad o dan gynllun awdurdod, unrhyw enillion a dalwyd neu sy’n ddyladwy i’w talu mewn perthynas â’r gyflogaeth honno, ac eithrio—
(i)unrhyw daliad o’r natur a ddisgrifir yn—
(aa)paragraff 14(1)(e) o Atodlen 6 i’r Rheoliadau hyn, neu
(bb)adran 28, 64 neu 68 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(1) (taliadau gwarantu, atal dros dro o’r gwaith ar seiliau meddygol neu famolaeth); a
(ii)unrhyw ddyfarniad, swm neu daliad o’r natur a ddisgrifir yn—
(aa)paragraff 14(1)(g) neu (i) o Atodlen 6 i’r Rheoliadau hyn, neu
(bb)adran 34 neu 70 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (taliadau gwarantu ac atal dros dro o’r gwaith: cwynion wrth dribiwnlysoedd cyflogaeth),
gan gynnwys unrhyw daliad a wneir o ganlyniad i setlo cwyn i dribiwnlys cyflogaeth neu achos llys;
(c)os, cyn diwrnod cyntaf hawlogaeth i ostyngiad o dan gynllun awdurdod—
(i)nad yw’r gyflogaeth wedi ei therfynu, ond
(ii)nad yw’r ceisydd yn ymgymryd â gwaith am dâl,
unrhyw enillion a dalwyd neu sy’n ddyladwy i’w talu mewn perthynas â’r gyflogaeth honno ac eithrio unrhyw daliad neu gydnabyddiaeth ariannol o’r natur a ddisgrifir ym mharagraff 1(b)(i) neu (ii)(bb) neu baragraff 14(1)(j) o Atodlen 6.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 8 para. 1 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
2. Yn achos ceisydd a fu, cyn diwrnod cyntaf hawlogaeth i ostyngiad o dan gynllun awdurdod—LL+C
(a)yn ymgymryd â chyflogaeth ran-amser fel enillydd cyflogedig, neu, os oedd y gyflogaeth y tu allan i Brydain Fawr, a fyddai wedi bod yn ymgymryd â chyflogaeth o’r fath pe bai’r gyflogaeth wedi bod ym Mhrydain Fawr; a
(b)wedi peidio ag ymgymryd â’r gyflogaeth honno, boed y gyflogaeth honno wedi ei therfynu ai peidio,
unrhyw enillion a dalwyd neu sy’n ddyladwy i’w talu mewn perthynas â’r gyflogaeth honno ac eithrio—
(i)pan fo’r gyflogaeth wedi ei therfynu, unrhyw daliad o’r natur a ddisgrifir ym mharagraff 1(b)(i) neu (ii)(bb);
(ii)pan nad yw’r gyflogaeth wedi ei therfynu, unrhyw daliad neu gydnabyddiaeth ariannol o’r natur a ddisgrifir ym mharagraff 1(b)(i) neu (ii)(bb) neu baragraff 14(1)(j) o Atodlen 6.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 8 para. 2 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
3. Yn achos ceisydd a fu’n ymgymryd â gwaith am dâl neu gyflogaeth ran-amser fel enillydd hunangyflogedig neu a fyddai wedi bod yn ymgymryd felly pe bai’r gyflogaeth wedi bod ym Mhrydain Fawr, ac sydd wedi peidio â bod yn gyflogedig felly, o’r dyddiad y peidiodd cyflogaeth y ceisydd, unrhyw enillion a oedd yn deillio o’r gyflogaeth honno ac eithrio enillion y mae paragraff 16(3) o Atodlen 6 (enillion enillwyr hunangyflogedig) yn gymwys iddynt.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 8 para. 3 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
4.—(1) Mewn achos y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo ac nad yw paragraff 5 yn gymwys iddo, £20; ond er gwaethaf paragraff 7 o Atodlen 6 (cyfrifo incwm a chyfalaf aelodau o deulu ceisydd ac o briodas amlbriod), pan fo’r paragraff hwn yn gymwys i geisydd, rhaid peidio â’i gymhwyso i bartner y ceisydd ac eithrio pan fo, ac i’r graddau y bo, enillion y ceisydd sydd i’w diystyru o dan y paragraff hwn yn llai nag £20.LL+C
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys swm ynglŷn â’r premiwm anabledd, premiwm anabledd difrifol, elfen gweithgaredd perthynol i waith neu elfen gymorth o dan Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr).
(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
(a)y ceisydd yn aelod o gwpl a swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys swm ynglŷn â’r premiwm anabledd difrifol o dan Atodlen 7; a
(b)y ceisydd neu bartner y ceisydd heb gyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth ac o leiaf un ohonynt yn ymgymryd â chyflogaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 8 para. 4 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
5. Mewn achos pan fo’r ceisydd yn unig riant, £25.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 8 para. 5 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
6.—(1) Mewn achos pan nad yw paragraff 4 na pharagraff 5 yn gymwys i’r ceisydd ac, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys swm ynglŷn â’r premiwm gofalwr o dan Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr), £20 o enillion y person sydd, neu a oedd ar unrhyw adeg yn ystod yr wyth wythnos flaenorol, yn cael lwfans gofalwr, neu a drinnir yn unol â pharagraff 14(2) o’r Atodlen honno fel pe bai’n cael lwfans gofalwr.LL+C
(2) Os dyfernir y premiwm gofalwr mewn perthynas â’r ceisydd ac unrhyw bartner y ceisydd, rhaid cydgrynhoi eu henillion at ddibenion y paragraff hwn, ond ni chaiff y swm sydd i’w ddiystyru yn unol ag is-baragraff (1) fod yn fwy nag £20 o’r swm cyfanredol.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 8 para. 6 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
7. Pan ddyfernir y premiwm gofalwr mewn perthynas â cheisydd sy’n aelod o gwpl ac sydd â’i enillion yn llai nag £20, ond nis dyfernir mewn perthynas â’r aelod arall o’r cwpl, ac y mae’r aelod arall hwnnw’n ymgymryd â chyflogaeth—LL+C
(a)a bennir ym mharagraff 9(1), cymaint o enillion yr aelod arall hwnnw na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r swm a ddiystyrwyd o dan baragraff 6, yn fwy nag £20;
(b)ac eithrio un bennir ym mharagraff 9(1), cymaint o enillion yr aelod arall hwnnw o’r cyfryw gyflogaeth arall hyd at £10, na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r swm a ddiystyrwyd o dan baragraff 6, yn fwy nag £20.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 8 para. 7 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
8. Mewn achos pan nad yw paragraffau 4, 6, 7 a 9 yn gymwys i’r ceisydd, a’r ceisydd yn un o gwpl ac aelod o’r cwpl hwnnw mewn cyflogaeth, £10; ond, er gwaethaf paragraff 7 o Atodlen 6 (cyfrifo incwm a chyfalaf aelodau o deulu ceisydd ac o briodas amlbriod), pan fo’r paragraff hwn yn gymwys i geisydd, rhaid peidio â’i gymhwyso i bartner y ceisydd ac eithrio pan fo, ac i’r graddau y bo, enillion y ceisydd sydd i’w diystyru o dan y paragraff hwn yn llai na £10.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 8 para. 8 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
9.—(1) Mewn achos pan nad yw paragraffau 4, 6, 7 a 9 yn gymwys i’r ceisydd, £20 o enillion sy’n deillio o un neu ragor o gyflogaethau fel—LL+C
(a)diffoddwr tân rhan-amser a gyflogir gan awdurdod tân ac achub, a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(2) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;
(b)diffoddwr tân rhan-amser a gyflogir gan Wasanaeth Tân ac Achub yr Alban(3);
(c)fel gwyliwr y glannau cynorthwyol mewn perthynas â gweithgareddau achub arfordirol;
(d)fel aelod o griw, neu ar gyfer lansio, bad achub pan fo’r gyflogaeth yn un rhan-amser;
(e)fel aelod o unrhyw un o’r lluoedd tiriogaethol neu’r lluoedd wrth gefn a ragnodir yn Rhan I o Atodlen 6 i Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyfraniadau) 2001(4);
ond, er gwaethaf paragraff 7 o Atodlen 6 (cyfrifo incwm a chyfalaf aelodau o deulu ceisydd ac o briodas amlbriod), pan fo’r paragraff hwn yn gymwys i geisydd, rhaid peidio â’i gymhwyso i bartner y ceisydd ac eithrio i’r graddau a bennir yn is-baragraff (2).
(2) Os yw partner y ceisydd yn ymgymryd â chyflogaeth—
(a)a bennir yn is-baragraff (1), cymaint o enillion partner y ceisydd, na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r swm o enillion y ceisydd a ddiystyrwyd y paragraff hwn, yn fwy nag £20;
(b)ac eithrio un a bennir yn is-baragraff (1), cymaint o enillion partner y ceisydd o’r gyflogaeth honno hyd at £10, na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r swm o enillion y ceisydd a ddiystyrwyd o dan y paragraff hwn, yn fwy nag £20.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 8 para. 9 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
10. Pan fo’r ceisydd yn ymgymryd ag un neu ragor o’r cyflogaethau a bennir ym mharagraff 9(1), ond enillion y ceisydd yn deillio o’r cyfryw gyflogaethau yn llai nag £20 mewn unrhyw wythnos a’r ceisydd hefyd yn ymgymryd ag unrhyw gyflogaeth arall, cymaint o enillion y ceisydd o’r gyflogaeth arall honno hyd at £5 os yw’r ceisydd yn geisydd sengl neu hyd at £10 os oes gan y ceisydd bartner, na fyddai, o’i gydgrynhoi â’r swm o enillion y ceisydd a ddiystyrwyd o dan baragraff 9, yn fwy nag £20.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 8 para. 10 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
11. Mewn achos pan nad oes yr un o’r paragraffau 4 i 10 yn gymwys, £5.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 8 para. 11 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Os yw—LL+C
(a)y ceisydd (neu os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, o leiaf un aelod o’r cwpl hwnnw) yn berson y mae is-baragraff (5) yn gymwys iddo;
(b)yr Ysgrifennydd Gwladol wedi ei fodloni bod y person hwnnw’n ymgymryd â gwaith esempt fel y’i diffinnir yn is-baragraff (6); ac
(c)nad yw paragraff 14 yn gymwys,
y swm a bennir yn is-baragraff (7) (“y swm penodedig”).
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, nid yw paragraffau 4 i 11 yn gymwys; ond mewn unrhyw achos pan fo’r ceisydd yn unig riant, ac os byddai’r swm penodedig yn llai na’r swm a bennir ym mharagraff 5, yna bydd paragraff 5 yn gymwys yn lle’r paragraff hwn.
(3) Er gwaethaf paragraff 7 o Atodlen 6 (cyfrifo incwm a chyfalaf aelodau o deulu ceisydd ac o briodas amlbriod), os yw is-baragraff (1) yn gymwys i un aelod o gwpl (“A”) rhaid peidio â’i gymhwyso i’r aelod arall (“B”) o’r cwpl hwnnw ac eithrio i’r graddau y darperir yn is-baragraff (4).
(4) Pan fo enillion A yn llai na’r swm penodedig, rhaid diystyru hefyd cymaint o enillion B, na fyddai, o’i gydgrynhoi ag enillion A, yn fwy na’r swm penodedig; ond cyfyngir y swm o enillion B y caniateir ei ddiystyru o dan yr is-baragraff hwn i uchafswm o £20 oni fodlonir yr Ysgrifennydd Gwladol fod B hefyd yn ymgymryd â gwaith esempt.
(5) Mae’r is-baragraff yn gymwys i berson—
(a)sy’n cael lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol;
(b)sy’n cael budd-dal analluogrwydd;
(c)sy’n cael lwfans anabledd difrifol; neu
(d)a gredydir ag enillion ar sail analluedd i weithio neu alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith o dan reoliad 8B o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Credydau)1975.
(6) Ystyr “gwaith esempt” yw gwaith yn yr ystyr a roddir i “exempt work” yn—
(a)rheoliad 45(2), (3) neu (4) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008(5); neu (yn ôl fel y digwydd)
(b)rheoliad 17(2), (3) neu (4) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Analluedd i Weithio) (Cyffredinol) 1995(6),
ac wrth benderfynu a yw ceisydd neu aelod o gwpl yn ymgymryd ag unrhyw fath o waith esempt at ddibenion y paragraff hwn, nid yw’n berthnasol a yw’r person hwnnw, neu bartner y person hwnnw, yn ymgymryd â gwaith arall yn ogystal.
(7) Y swm penodedig yw’r swm o arian a grybwyllir o bryd i’w gilydd mewn unrhyw ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (6) ac y mae’r gwaith y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn esempt yn ei rhinwedd (neu, os oes mwy nag un ddarpariaeth berthnasol o’r fath, ac os yw’r darpariaethau hynny’n crybwyll symiau gwahanol o arian, yr uchaf o’r symiau hynny).
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 8 para. 12 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
13. Unrhyw swm, neu’r gweddill o unrhyw swm, y byddid yn ei ddiystyru o dan baragraff 23 neu 24 o Atodlen 9 pe bai incwm y ceisydd nad yw’n enillion wedi bod yn ddigon i roi hawl i’r ceisydd gael diystyru’r swm llawn o dan y paragraffau hynny.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 8 para. 13 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
14. Pan fo ceisydd yn cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, enillion y ceisydd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 8 para. 14 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
15. Unrhyw enillion sy’n deillio o gyflogaeth ac sy’n daladwy mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig am ba bynnag gyfnod pan fo gwaharddiad yn erbyn trosglwyddo’r enillion hynny i’r Deyrnas Unedig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 8 para. 15 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
16. Os gwneir taliad o enillion mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi’r taliad hwnnw i sterling.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 8 para. 16 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
17. Unrhyw enillion plentyn neu berson ifanc.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 8 para. 17 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
18.—(1) Mewn achos pan fo’r ceisydd yn berson sy’n bodloni un, o leiaf, o’r amodau a bennir yn is-baragraff (2), ac enillion net y ceisydd yn hafal i neu’n fwy na chyfanswm y symiau a bennir yn is-baragraff (3), rhaid cynyddu o £17.10 y swm o enillion y ceisydd sydd i’w diystyru o dan baragraffau 4 i 12.LL+C
(2) Amodau’r is-baragraff hwn yw—
(a)bod y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, naill ai’r ceisydd neu ei bartner, yn berson y mae rheoliad 20(1)(c) o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth a’r Gyfradd Uchaf) 2002(7) yn gymwys iddo; neu
(b)bod—
(i)y ceisydd, neu os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, un aelod, o leiaf, o’r cwpl hwnnw yn 25 oed o leiaf ac yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai na 30 awr yr wythnos ar gyfartaledd; neu
(ii)y ceisydd yn aelod o gwpl, a bod—
(aa)un aelod, o leiaf, o’r cwpl hwnnw’n ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd; a
(bb)swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys premiwm teulu o dan baragraff 4 o Atodlen 7; neu
(iii)y ceisydd yn unig riant sy’n ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd; neu
(iv)y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o gwpl, un aelod, o leiaf, o’r cwpl hwnnw’n ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, ac—
(aa)swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys premiwm anabledd o dan baragraff 9, yr elfen gweithgaredd perthynol i waith o dan baragraff 23 neu’r elfen gymorth o dan baragraff 22 o Atodlen 7 yn eu tro;
(bb)pan fo’r ceisydd yn aelod o gwpl, un aelod, o leiaf, o’r cwpl hwnnw’n bodloni’r amodau cymhwyso am y premiwm anabledd neu’r naill neu’r llall o’r elfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (aa) ac yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.
(3) Y canlynol yw’r symiau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)—
(a)y swm a gyfrifwyd y ceir ei ddiystyru o enillion y ceisydd o dan baragraffau 4 i 12;
(b)y swm a gyfrifwyd o gostau gofal plant sy’n ddidynadwy o dan baragraff 20(1)(c) o Atodlen 6 (cyfrifo incwm ar sail wythnosol: personau nad ydynt yn bensiynwyr); ac
(c)£17.10.
(4) Bydd darpariaethau rheoliad 10 (gwaith am dâl) yn gymwys wrth benderfynu a yw person yn gweithio dim llai na 30 awr yr wythnos ar gyfartaledd ai peidio, ond hynny fel pe bai’r cyfeiriad at 16 awr ym mharagraff (1) o’r rheoliad hwnnw yn gyfeiriad at 30 awr.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 8 para. 18 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
19. Yn yr Atodlen hon, ystyr “cyflogaeth ran-amser” (“part-time employment”) yw cyflogaeth y mae’r person yn ymgymryd â hi am lai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 8 para. 19 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
Mae adran 1A o Ddeddf Tân (Yr Alban) 2005 (dsa 5) yn cyfeirio at hyn. Mewnosodwyd adran 1A gan adran 101 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Thân (Yr Alban) 2012 (dsa 8).
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: